Search Legislation

Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2000 Rhif 3122 (Cy. 200 )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

23 Tachwedd 2000

Yn dod i rym

1 Chwefror 2001

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Adran 218(1)(aa) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cofrestru gorfodol gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni all neb sy'n athro neu athrawes gymwysedig gael ei gyflogi neu ei chyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol yng Nghymru onid yw wedi'i gofrestru neu ei chofrestru yn unol ag adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(3), gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â pherson a gyflogir fel athro neu athrawes mewn ysgol os yw'r person hwnnw wedi'i gyflogi dim ond i ddarparu—

(a)addysg ran-amser i bersonau dros oedran ysgol gorfodol yn unig; neu

(b)addysg amser-llawn i bersonau sydd wedi cyrraedd 19 oed yn unig; neu

(c)addysg ran-amser ac addysg amser-llawn o'r fath.

(3Yn y rheoliad hwn —

(a)mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr un ystyr ag a roddir i “qualified teacher” yn adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(4);

(b)mae cyfeiriadau at berson a gyflogir fel athro neu athrawes yn cynnwys cyfeiriadau at berson y cytunwyd ei fod i ddarparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth; ac

(c)mae cyfeiriadau at ysgol yn gyfeiriadau:

(i)at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o fewn ystyr adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5); neu

(ii)at ysgol arbennig o fewn ystyr adran 337(1) o Ddeddf Addysg 1996(6) nad yw'n cael ei chynnal felly.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)).

John Marek

Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Tachwedd 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r rheoliadau hyn yn darparu na all unrhyw athrawon cymwysedig, ar wahân i eithriadau penodol, gael eu cyflogi mewn ysgolion a gynhelir neu mewn ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal oni chofrestrir hwy gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

(1)

1988 p.40. Mewnosodwyd adran 218(1)(aa) gan adran 11 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 218 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).

(4)

Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau a oedd mewn grym o dan y ddarpariaeth hon ar gyfer Cymru oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)); adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau a oedd mewn grym o dan y ddarpariaeth hon ar gyfer Lloegr oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166).

(6)

1996 p.56; mae adran 337(1) wedi'i diwygio gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources