xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
COMISIYNYDD PLANT, CYMRU
Wedi'u gwneud
23 Tachwedd 2000
Yn dod i rym
8 Rhagfyr 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000 a deuant i rym ar 8 Rhagfyr 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Plant Cymru(2);
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “plant perthnasol” (“relevant children”) yw unrhyw blant sy'n preswylio yng Nghymru sy'n cael eu dethol at ddibenion penodiad penodol yn y fath fodd —
ag y gellid ei benderfynu gan y pwyllgor perthnasol yn unol â chylch gorchwyl y pwyllgor, neu
yn absenoldeb penderfyniad o'r fath, ag y mae'n rhaid i'r Prif Ysgrifennydd ei benderfynu;
ystyr “y Prif Ysgrifennydd” (“the First Secretary”) yw'r person a etholir o dro i dro yn Brif Ysgrifennydd y Cynulliad yn unol ag adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3);
ystyr “pwyllgor perthnasol” (“relevant committee”) yw unrhyw bwyllgor y gellid ei sefydlu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dro i dro o dan adran 54(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 er mwyn darparu cyngor a phenderfynu materion sy'n berthnasol i benodi'r Comisiynydd.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Rhaid i'r Comisiynydd gael ei benodi gan y Prif Ysgrifennydd.
(2) Dim ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth y bydd y Comisynydd yn cael ei benodi—
(a)cyngor pwyllgor perthnasol,
(b)barn plant perthnasol ynghylch unrhyw ymgeiswyr a gafodd eu cyfweld ar gyfer y penodiad, ac
(c)cyngor unrhyw banel dewis, a sefydlwyd er mwyn cyfweld ymgeiswyr, ynghylch eu priodoldeb ar gyfer y penodiad.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 3, saith mlynedd fydd cyfnod swydd y Comisynydd.
(4) Ni fydd y Comisiynydd yn gymwys i gael ei ailbenodi pan ddaw cyfnod y swydd i ben neu os terfynir hi cyn hynny.
3. Gall y Prif Ysgrifennydd ryddhau'r Comisiynydd o'i swydd cyn i gyfnod y swydd ddod i ben —
(a)ar gais y Comisiynydd,
(b)ar sail camymddwyn, neu
(c)os bydd wedi'i fodloni nad yw'r Comisynydd yn alluog oherwydd gwendid meddyliol neu gorfforol i gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd.
4. Os bydd y Prif Ysgrifennydd yn arfer swyddogaethau a roddir gan y rheoliadau hyn, bydd arfer y swyddogaethau hynny'n cael ei drin fel pe bai'n arfer gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi Comisiynydd Plant Cymru sef swydd a sefydlwyd o dan Ran V o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Yn benodol, mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth i'r penodiad gael ei wneud gan Brif Ysgrifennydd y Cynulliad yn dilyn cyngor gan unrhyw bwyllgor o'r Cynulliad a sefydlwyd er mwyn cynghori ynghylch y penodiad a chyngor, ar ôl i ymgeiswyr gael eu cyfweld gan banel dewis, ynghylch eu priodoldeb i gael eu penodi. Mae'r Prif Ysgrifennydd o dan ddyletswydd hefyd i gymryd i ystyriaeth farn plant sy'n byw yng Nghymru ynghylch y penodiad arfaethedig. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnod y swydd, ac ynghylch yr amgylchiadau y gellir diswyddo'r Comisiynydd o danynt. O ran eglurder ynghylch cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyfer arfer swyddogaethau gan y Prif Ysgrifennydd, mae'r rheoliadau'n cynnwys darpariaeth atodol i ymdrin â swyddogaethau sy'n cael eu harfer felly fel petaent yn swyddogaethau sy'n cael eu harfer gan y Cynulliad.