Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 2000

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/661) (“Rheoliadau 1992”) sy'n rheoli ar ba delerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1992 fel bod Penderfyniad V yn Nhabl y Penderfyniadau (sy'n cael eu cydgyhoeddi mewn datganiad o'r enw “the Statement of Dental Remuneration”) yn ymwneud â'r pwnc “taliadau ymrwymo” (“commitment payments”).

Mae Rheoliad 4 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 1992, sy'n cynnwys yr amodau gwasanaeth ar gyfer deintyddion sy'n darparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae'r diwygiadau'n ymwneud â rhwymedigaethau deintydd mewn perthynas â ffurflenni a chofnodion.

Mae Rheoliad 4(2) yn diwygio'r amgylchiadau y mae'n rhaid darparu cofnodion i'w harchwilio odanynt.

Mae Rheoliad 4(3) yn mewnosod gofyniad newydd i ddeintydd ofyn am gael gweld tystiolaeth sy'n cefnogi honiad fod gan glaf hawl i gael ei esemptio rhag talu ffioedd deintyddol, neu i gael ei ryddhau rhag eu talu, ac i gofnodi ar ffurflen y deintydd ar gyfer hawlio taliad am y driniaeth a ddarparwyd i'r claf hwnnw pan na welir y dystiolaeth honno.

Mae Rheoliad 4(3) yn mewnosod gofyniad newydd hefyd sy'n golygu ei bod yn ofynnol i ddeintydd lenwi ffurflen pan fydd ef neu hi yn hawlio taliad ar ôl cael ei alw neu ei galw'n ôl i'r practis deintyddol er mwyn rhoi triniaeth i glaf mewn achos brys y tu allan i oriau arferol y practis. Mae'r deintydd hefyd yn gorfod cael llofnod y claf, neu berson sy'n gyfrifol am y claf, y mae ef neu hi wedi'i alw yn ôl i roi'r driniaeth iddo ar y ffurflen a enwyd.

Mae Rheoliad 4(4) yn mewnosod gofyniad i ffurflen hawlio ar wahân gael ei llenwi ar gyfer triniaeth a roddir gan gynorthwywyr.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources