- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
23 Tachwedd 2000
Yn dod i rym
ac eithrio rheoliadau 4(2)(a)(ii), 4(2)(b), 4(2)(d) a 4(3)
1 Rhagfyr 2000
rheoliadau 4(2)(a)(ii), 4(2)(b), 4(2)(d) a 4(3)
1st January 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2000, ac eithrio rheoliadau 4(2)(a)(ii), 4(2)(b), 4(2)(d) a 4(3) a ddeuant i rym ar 1 Ionawr 2001.
(2) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992(2) yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
3. Yn rheoliad 19 (Datganiad Taliadau Deintyddol), ym mharagraff (1), yn lle'r cofnod “Incentive scheme allowances” yng ngholofn (2) o'r Tabl, rhowch “Commitment payments”.
4.—(1) Diwygir Atodlen 1 (amodau gwasanaeth ar gyfer deintyddion) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 25 (cofnodion)—
(a)yn is-baragraff (1) —
(i)cyn “record” y tro cyntaf y mae'n ymddangos, mewnosodwch “full, accurate and contemporaneous”, a
(ii)ar ôl “any practice record form” mewnosodwch “or form recording recalled attendance in accordance with paragraph 27B”;
(b)yn is-baragraff (2) ar ôl “records”, mewnosodwch “forms,”;
(c)yn lle is-baragraff (3) rhowch—
“(3) The dentist shall, during the period in which he or she holds any records, forms, radiographs, photographs and study models referred to in sub-paragraph (1)—
(a)produce them on request to a dental officer, the Health Authority or the National Assembly for Wales;
(b)send them to the Dental Practice Board, Health Authority or the National Assembly for Wales within 14 days of being required to do so by one of those bodies.”; ac
(ch)yn is-baragraff (4), ar ôl “other than the practice record form” mewnosodwch “and the form recording recalled attendance in accordance with paragraph 27B”.
(3) Ar ôl paragraff 27 mewnosodwch.—
27A.—(1) Subject to sub-paragraph (2), where a patient declares that he or she is, or where a person responsible for a patient makes a declaration that the patient is, entitled to exemption from or remission of the charges prescribed by the National Health Service (Dental Charges) Regulations 1989(3) by virtue of either—
(a)entitlement to exemption under sub-paragraph (4) of paragraph 2 or sub-paragraph (4) of paragraph 3 of Schedule 12 to the National Health Service Act 1977(4)
(b)entitlement to remission of such charges under regulation 3 or 5 of the National Health Service (Travelling Expenses and Remission of Charges) Regulations 1988(5),
the dentist shall ask the patient, or the person making such a declaration on the patient’s behalf, to produce satisfactory evidence in support of the declaration and where such evidence is not produced, the dentist shall record that fact on the form upon which he or she claims remuneration for the treatment of that patient.
(2) Where, at the time of the declaration there is already available to the dentist satisfactory evidence of an entitlement to exemption from the charges on the grounds the patient in respect of whom the declaration is made is under 18 years of age, the obligations on the dentist specified in sub-paragraph (1) shall not apply.
(3) The dentist may appoint a member of his or her staff to undertake the task set out in sub-paragraph (1) on his or her behalf, and, the dentist shall ensure that that staff member so appointed is given sufficient instruction to enable him or her to perform the task.
27B. Where a dentist is recalled to his or her practice premises at a time when he or she does not normally provide general dental services in order to provide treatment in an emergency the dentist shall, on each such occasion, at the time of that recalled attendance—
(a)complete a form supplied by the Health Authority for the purpose of supporting the claim to an allowance for that recalled attendance; and
(b)obtain the signature on that form of the patient whom he or she has been recalled to treat, or that of a person acting on behalf of the patient.”
(4) Ar ôl paragraff 37 mewnosodwch—
“37A. Where care and treatment is given by an assistant, the dentist or assistant shall complete a claim for remuneration in respect of that care and treatment which —
(a)is separate from any claim form in respect of care and treatment given by the dentist personally; and
(b)identifies the assistant by whom the care and treatment was given and his or her status as an assistant.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Tachwedd 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/661) (“Rheoliadau 1992”) sy'n rheoli ar ba delerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1992 fel bod Penderfyniad V yn Nhabl y Penderfyniadau (sy'n cael eu cydgyhoeddi mewn datganiad o'r enw “the Statement of Dental Remuneration”) yn ymwneud â'r pwnc “taliadau ymrwymo” (“commitment payments”).
Mae Rheoliad 4 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 1992, sy'n cynnwys yr amodau gwasanaeth ar gyfer deintyddion sy'n darparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae'r diwygiadau'n ymwneud â rhwymedigaethau deintydd mewn perthynas â ffurflenni a chofnodion.
Mae Rheoliad 4(2) yn diwygio'r amgylchiadau y mae'n rhaid darparu cofnodion i'w harchwilio odanynt.
Mae Rheoliad 4(3) yn mewnosod gofyniad newydd i ddeintydd ofyn am gael gweld tystiolaeth sy'n cefnogi honiad fod gan glaf hawl i gael ei esemptio rhag talu ffioedd deintyddol, neu i gael ei ryddhau rhag eu talu, ac i gofnodi ar ffurflen y deintydd ar gyfer hawlio taliad am y driniaeth a ddarparwyd i'r claf hwnnw pan na welir y dystiolaeth honno.
Mae Rheoliad 4(3) yn mewnosod gofyniad newydd hefyd sy'n golygu ei bod yn ofynnol i ddeintydd lenwi ffurflen pan fydd ef neu hi yn hawlio taliad ar ôl cael ei alw neu ei galw'n ôl i'r practis deintyddol er mwyn rhoi triniaeth i glaf mewn achos brys y tu allan i oriau arferol y practis. Mae'r deintydd hefyd yn gorfod cael llofnod y claf, neu berson sy'n gyfrifol am y claf, y mae ef neu hi wedi'i alw yn ôl i roi'r driniaeth iddo ar y ffurflen a enwyd.
Mae Rheoliad 4(4) yn mewnosod gofyniad i ffurflen hawlio ar wahân gael ei llenwi ar gyfer triniaeth a roddir gan gynorthwywyr.
1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i) ar gyfer y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd adran 15(1) gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) (“Deddf 1984”), adran 5(2); gan Ddeddf 1990, adran 12(1) a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), Atodlen 1, paragraff 6. Amnewidiwyd adran 35(1) gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 24. Rhifwyd adran 36(1) felly gan Ddeddf 1984, Atodlen 3, paragraff 5(1) ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(10); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), Atodlen 2, paragraff 4; gan Ddeddf 1990, adran 24 a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 25(a). Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2), ac (yn Lloegr) gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 15, 35, 36 a 126(4) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1.
O.S. 1999/661, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1989/394, a ddiwygiwyd gan O.S. 1991/581, 1992/369, 1993/419, 1994/530, 1995/444, 1996/389, 1997/558, 1998/490 a 2221, 1999/544 a 2000/977 (Cy.47).
O.S. 1988/551, a ddiwygiwyd gan O.S. 1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 1661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/2417, 1999/767 a 2507 a 2000/2840 (Cy.20).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: