Search Legislation

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2000 Rhif 3027 (Cy. 195 )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

9 Tachwedd 2000

Yn dod i rym

1 Ionawr 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 38(3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau adeg y tymor ysgol cyntaf sy'n dechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath sy'n dechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol.

(2Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu'n wahanol, mae cyfeiriadau —

(a)at gorff llywodraethu yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig; a

(b)at bennaeth yn gyfeiriadau at bennaeth ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig.

Cylch gwaith

3.—(1Yn y rheoliad hwn bydd y term “corff llywodraethu” yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ysgol newydd.

(2Wrth arfer eu swyddogaethau, yr egwyddorion a nodir isod yn y rheoliad hwn fydd cylch gwaith y corff llywodraethu.

(3Rhaid i'r corff llywodraethu weithredu gydag uniondeb, gwrthrychedd a gonestrwydd ac er lles yr ysgol.

(4Rhaid i'r corff llywodraethu fod yn agored ynglŷn â'r penderfyniadau a'r camau y byddant yn eu cymryd ac yn benodol rhaid iddynt fod yn barod i esbonio eu penderfyniadau a'u camau i bersonau sydd â diddordeb.

(5Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (4) i'w gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu ddatgelu deunydd ynghylch —

(a)athro neu athrawes a enwir neu berson arall a gyflogir neu a gymerir ymlaen, neu y bwriedir ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen, yn yr ysgol; neu

(b)disgybl a enwir yn yr ysgol, neu ddarpar ddisgybl sy'n aros i gael ei dderbyn i'r ysgol; neu

(c)unrhyw fater, o achos ei natur, y mae'r corff llywodraethu neu un o bwyllgorau'r corff llywodraethu wedi'i fodloni y dylai aros yn gyfrinachol.

Dyletswydd i hybu cyfleoedd cyfartal a pherthynas dda

4.—(1Yn y rheoliad hwn bydd y term “corff llywodraethu” yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ysgol newydd.

(2Dyletswydd y corff llywodraethu a'r pennaeth fydd arfer eu priod swyddogaethau gan roi sylw priodol i'r angen —

(a)i ddileu gwahaniaethu'n anghyfreithlon ar sail hil neu ryw; a

(b)i hybu cyfleoedd cyfartal a pherthynas dda -

(i)rhwng personau o wahanol grwpiau hiliol, a

(ii)rhwng gwrywod a benywod.

(3Ni fydd dim ym mharagraff (2) yn atal y corff llywodraethu na'r pennaeth rhag cymryd y mesurau priodol i gadw cymeriad crefyddol yr ysgol.

(4Mae'r rheoliad hwn heb ragfarn i unrhyw ddarpariaeth ddeddfwriaethol sy'n ei gwneud yn ofynnol neu sy'n caniatáu i'r corff llywodraethu neu'r pennaeth weithredu mewn ffordd a fyddai, ar wahân i'r ddarpariaeth honno, yn gyfystyr â gwahaniaethu'n anghyfreithlon.

Rôl y corff llywodraethu

5.—(1Rhaid i'r corff llywodraethu arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar gyflawni rôl strategol yn fras yng ngwaith rheoli'r ysgol.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu sefydlu fframwaith strategol i'r ysgol —

(a)drwy bennu nodau ac amcanion i'r ysgol;

(b)drwy bennu polisïau i'r ysgol ar gyfer cyrraedd y nodau a'r amcanion;

(c)drwy osod targedau ar gyfer cyrraedd y nodau a'r amcanion.

(3Rhaid i'r corff llywodraethu fonitro a gwerthuso cynnydd yn yr ysgol o ran cyrraedd y nodau a'r amcanion a bennwyd a rhaid iddynt adolygu'n rheolaidd y fframwaith strategol ar gyfer yr ysgol yng ngoleuni'r cynnydd hwnnw.

(4Wrth arfer y swyddogaethau ym mharagraffau (2) a (3) uchod, rhaid i'r corff llywodraethu—

(a)ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y pennaeth o dan reoliad 6(2) isod, a

(b)(yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth statudol arall) gydymffurfio ag unrhyw weithred ymddiriedolaeth sy'n berthnasol i'r ysgol.

(5Rhaid i'r corff llywodraethu weithredu fel “cyfaill beirniadol” i'r pennaeth, hynny yw, rhaid iddynt gefnogi'r pennaeth wrth iddo gyflawni swyddogaethau'r swydd a rhoi beirniadaeth adeiladol i'r pennaeth pan fydd angen.

Rôl y pennaeth

6.—(1Bydd y pennaeth yn gyfrifol am drefniadaeth a rheolaeth fewnol yr ysgol, ac am weithredu'r fframwaith strategol a sefydlwyd gan y corff llywodraethu.

(2Rhaid i'r pennaeth gynghori'r corff llywodraethu ar sefydlu ac adolygu'r fframwaith strategol ac yn benodol rhaid iddo lunio:

(a)nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol;

(b)polisïau i'r ysgol ar gyfer cyrraedd y nodau a'r amcanion a bennwyd gan y corff llywodraethu; ac

(c)targedau ar gyfer cyrraedd y nodau a'r amcanion hynny,

y gall y corff llywodraethu eu mabwysiadu (gydag addasiadau neu hebddynt) neu eu gwrthod.

(3Rhaid i'r pennaeth gyflwyno adroddiad o leiaf unwaith bob blwyddyn ysgol i'r corff llywodraethu ar y cynnydd a wnaed at gyrraedd y nodau a'r amcanion a bennwyd ac yn arbennig at fodloni'r targedau penodol a osodwyd.

Dirprwyo swyddogaethau'r corff llywodraethu

7.  Wrth benderfynu a ddylid arfer unrhyw bwer i ddirprwyo eu swyddogaethau a sut y dylid gwneud hynny, gan gynnwys y pŵ er cyffredinol yn Rheoliad 41 o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999(3) rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i'r canlynol—

(a)y gofyniad yn rheoliad 5 uchod y dylent arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar gyflawni rôl strategol yn fras yng ngwaith rheoli'r ysgol; a

(b)cyfrifoldeb y pennaeth am drefniadaeth a rheolaeth fewnol yr ysgol.

8.  Rhaid i'r pennaeth gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd rhesymol gan y corff llywodraethu wrth gyflawni unrhyw swyddogaethau a ddirprwyir iddo ef neu iddi hi gan y corff llywodraethu.

Y polisi cwricwlwm ysgol

9.—(1Rhaid i'r pennaeth lunio polisi ar gyfer cwricwlwm seciwlar yr ysgol (“y polisi cwricwlwm”) i'w fabwysiadu gan y corff llywodraethu (gydag addasiadau neu hebddynt).

(2Rhaid i'r pennaeth adolygu'r polisi cwricwlwm bob blwyddyn ysgol a llunio newidiadau i'r polisi cwricwlwm i'r corff llywodraethu eu mabwysiadu (gydag addasiadau neu hebddynt).

(3Rhaid i'r pennaeth weithredu'r polisi cwricwlwm fel y'i mabwysiadwyd gan y corff llywodraethu.

(4Rhaid i'r corff llywodraethu —

(a)ystyried y polisi cwricwlwm ac, os gwelant yn dda, ei fabwysiadu (gydag addasiadau neu hebddynt), neu ei ddychwelyd i'r pennaeth ar gyfer ei ail-lunio;

(b) monitro, gwerthuso ac adolygu gweithredu'r polisi cwricwlwm; ac

(c)ystyried unrhyw newidiadau i'r polisi cwricwlwm a gynigir gan y pennaeth a'u mabwysiadu, fel y gwelant orau (gydag addasiadau neu hebddynt).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (4).

John Marek

Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gyrff llywodraethu a phenaethiaid ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Maent yn gosod nifer o egwyddorion sydd i weithredu fel cylch gwaith ar gyfer cyrff llywodraethu. Maent yn ymwneud hefyd â rolau a chyfrifoldebau priodol cyrff llywodraethu a phenaethiaid.

Maent yn gosod dyletswydd ar y corff llywodraethu a'r pennaeth i hybu cyfleoedd cyfartal a pherthynas dda rhwng personau o wahanol grwpiau hiliol a gwahanol rywiau (rheoliad 4).

O dan y Rheoliadau mae'r corff llywodraethu i gyflawni eu swyddogaethau gyda golwg ar gyflawni rôl strategol yn fras yn yr ysgol. Fel rhan o'r rôl hon, maent i sefydlu fframwaith strategol ar gyfer yr ysgol gan bennu nodau ac amcanion i'r ysgol a pholisïau a thargedau ar gyfer cyrraedd y nodau a'r amcanion hynny (rheoliad 5).

Y pennaeth sy'n gyfrifol o dan y Rheoliadau am drefniadaeth, goruchwyliaeth a rheolaeth yr ysgol o ddydd i ddydd, am gynghori'r corff llywodraethu ynglyn â'r fframwaith strategol ac am weithredu'r polisïau a fabwysiedir gan y corff llywodraethu (rheoliad 6).

Wrth ddiprwyo swyddogaethau i'r pennaeth, mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu roi sylw i'w rôl sy'n rôl strategol yn fras ac i gyfrifoldebau'r pennaeth fel y'u hamlinellwyd uchod. Rhaid i'r pennaeth, wrth gyflawni'r cyfrifoldebau dirprwyol hynny, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd rhesymol gan y corff llywodraethu (rheoliadau 7 ac 8).

Mae'r Rheoliadau yn rhoi swyddogaethau penodol i'r corff llywodraethu a'r pennaeth mewn perthynas â pharatoi polisi ar gyfer cwricwlwm yr ysgol (rheoliad 9).

(1)

1998 p.31; ar gyfer ystyr “regulations” gweler adran 142(1).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources