Search Legislation

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Trefniadau cyd-gronfa

7.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, caiff y partneriaid wneud trefniadau ar gyfer sefydlu a chynnal cronfa neu mewn cysylltiad â sefydlu a chynnal cronfa (“trefniadau cyd-gronfa”) a gaiff eu ffurfio o gyfraniadau gan y partneriaid ac y gellir gwneud taliadau ohoni tuag at wariant a dynnir wrth arfer unrhyw rai o swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd.

(2Ni chaiff partner sy'n ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol wneud trefniadau cyd-gronfa gyda phartner sy'n awdurdod lleol oni fydd yn sicrhau cydsyniad pob Awdurdod Iechyd y mae ganddo gontract Gwasanaeth Iechyd Gwladol gydag ef ynghylch darparu gwasanaethau ar gyfer personau y gall y swyddogaethau sy'n destun y gyd-gronfa gael eu harfer mewn perthynas â hwy.

(3Pan yw'r partneriaid wedi penderfynu gwneud trefniadau cyd-gronfa, rhaid i'r trefniadau gael eu gwneud mewn ysgrifen a rhaid iddynt bennu —

(a)y nodau a'r canlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y trefniadau cyd-gronfa;

(b)y cyfraniadau sydd i'w gwneud gan bob un o'r partneriaid i'r gyd-gronfa a sut y gall y cyfraniadau hyn gael eu hamrywio;

(c)y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n destun y trefniadau;

(ch)y personau a'r math o wasanaethau y gellir arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) mewn perthynas â hwy;

(d)y staff, y nwyddau, y gwasanaethau neu'r llety sydd i'w darparu gan y partneriaid mewn cysylltiad â'r trefniadau;

(dd)am faint y bydd y trefniadau yn parhau, a'r ddarpariaeth ar gyfer adolygu'r trefniadau, eu hamrywio neu eu terfynu; ac

(e)sut mae'r gyd-gronfa i gael ei rheoli a'i monitro, gan gynnwys pa bartner fydd y partner lletyol yn unol â pharagraff (4).

(4Rhaid i'r partneriaid gytuno y bydd un ohonynt (“y partner lletyol”) yn gyfrifol am y cyfrifon ac am yr archwilio ar gyfer trefniadau'r gyd-gronfa a rhaid i'r partner lletyol benodi un o'i swyddogion (“rheolydd y gyd-gronfa”) i fod yn gyfrifol am y canlynol —

(a)rheoli'r gyd-gronfa ar eu rhan, a

(b)cyflwyno adroddiadau chwarterol i'r partneriaid, ynghyd ag adroddiad blynyddol, ynghylch incwm a gwariant y gyd-gronfa a gwybodaeth arall y gall y partneriaid ei defnyddio i fonitro effeithiolrwydd trefniadau'r gyd-gronfa.

(5Caiff y partneriaid gytuno y caiff un o swyddogion y naill bartner neu'r llall arfer y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n destun trefniadau'r gyd-gronfa.

(6Rhaid i'r partner lletyol drefnu archwilio cyfrifon trefniadau'r gyd-gronfa a'i gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Archwilio wneud trefniadau ar gyfer ardystio adroddiad blynyddol ar y cyfrifon hynny o dan adran 28(1)(d) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998(1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources