2000 Rhif 2992 (Cy. 192 ) (C. 93 )

Y COMISIYNYDD PLANT, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 122 o Ddeddf Safonau Gofal 20001:

Enwi, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2000.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Gofal Cymru a sefydlir yn rhinwedd erthygl 2(2) o'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.

3

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dyddiau penodedig2

1

13 Tachwedd 2000 yw'r dydd a benodir i bob un o ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

2

1 Ebrill 2001 yw'r dydd a benodir i bob un o ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau a bennir yno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982

D Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN 1DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 13 TACHWEDD 2000

Erthygl 2(1)

  • Adran 72 (Comisiynydd Plant Cymru)

  • Atodlen 2

ATODLEN 2DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2001

Erthygl 2(2)

  • Adran 54(1),(3)-(7) (Cynghorau Gofal) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Cyngor

  • Adran 55 (Dehongli)

  • Adran 113 (2)-(4) (Pwerau diofyn y Gweinidog priodol) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Cyngor

  • Adran 114 (Cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff) i'r graddau y mae'n ymwneud â Gorchymyn gan y Cyfrin Gyngor, neu argymhelliad i'w Mawrhydi i wneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, o dan Adran 70 o'r Ddeddf (Dileu y Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol) yn cynnwys cynllun ar gyfer trosglwyddo staff o'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol i'r Cyngor

  • Atodlen 1 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Cyngor

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu dydd i rai o ddarpariaethau penodol Deddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ddod i rym. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru.

Mae'r Gorchymyn yn darparu y daw'r darpariaethau canlynol yn Rhan V o'r Ddeddf i rym ar 13 Tachwedd 2000:

a

adran 72, sy'n sefydlu swydd Comisiynydd Plant Cymru;

b

Atodlen 2, sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhai o swyddogaethau gweithredol penodol y swydd megis ei statws, penodi iddi a'i thâl, ei phwerau cyffredinol, ei chyfrifon, ei hatebolrwydd a'i hadroddiadau.

Mae'r Gorchymyn yn darparu y daw'r darpariaethau canlynol yn Rhan IV o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2001 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chyngor Gofal Cymru (“y Cyngor”):

a

adran 54(1), (3)-(7), sy'n sefydlu corff corfforaethol sydd i'w alw'n Gyngor Gofal Cymru; yn darparu ei ddyletswydd gyffredinol; ac yn darparu y bydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yn gweithredu yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau, neu o dan unrhyw ganllawiau cyffredinol, a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

b

adran 55 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli Rhan IV o'r Ddeddf;

c

adran 113 (2)-(4) sy'n darparu bod gan y Cynulliad bwerau diofyn mewn perthynas â'r Cyngor;

ch

adran 114 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch Gorchmynion y Cyfrin Gyngor a wneir o dan adran 70 o'r Ddeddf sy'n trosglwyddo staff o'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol i'r Cyngor;

d

Atodlen 1 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhai o swyddogaethau gweithredol penodol y Cyngor megis ei statws, ei bwerau cyffredinol, ei aelodaeth a phenodi iddo, ei weithdrefnau, ei staff, ei gyfrifon a'i adroddiadau.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daethpwyd â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, drwy O.S. 2000/2544 (C.72).

Yn ogystal â'r darpariaethau a restrir isod, daethpwyd ag amryw ddarpariaethau eraill y Ddeddf i rym mewn perthynas â Lloegr drwy O.S. 2000/ 2795 (C. 79 ).

Dyddiad cychwyn/Date of commencement

Darpariaeth/provision

Adran/section 96 (yn rhannol) (partially)

15.9.00

Adran/section 99

15.9.00

Adran/section 80(8) (yn rhannol) (partially)

2.10.00

Adran/section 94

2.10.00

Adran/section 96 (gweddill) (remainder)

2.10.00

Adran/section 100

2.10.00

Adran/section 101

2.10.00

Adran/section 103

2.10.00

Adran/section 116

2.10.00

Adran/section 117(2)

2.10.00

Atodlen/Schedule 4 (yn rhannol) (partially)

2.10.00

Atodlen/Schedule 6 (yn rhannol) (partially)

2.10.00