- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol penodedig, i'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth o'r fath yn gymwys i bysgod sy'n rhy fach, caiff unrhyw un o'r swyddogion a restrir ym mharagraff (2) isod, wrth weithredu yng Nghymru neu yn y môr cyfagos at Gymru, ar bob adeg resymol –
(a)mynd ar fwrdd unrhyw gwch pysgota Prydeinig,
(b)mynd i mewn i unrhyw dir neu adeiladau (heblaw annedd) a ddefnyddir ar gyfer rhedeg unrhyw fusnes mewn cysylltiad â thrin, storio neu werthu pysgod,
(c)chwilio am unrhyw bysgod a'u harchwilio mewn unrhyw le, boed ar fwrdd cwch pysgota neu mewn man arall, a boed mewn cynhwysydd neu beidio; ac
(ch)cipio unrhyw bysgod y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu bod tramgwydd perthnasol mewn perthynas â physgod rhy fach wedi'i gyflawni mewn perthynas â hwy.
(2) Dyma'r swyddogion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) o'r erthygl hon –
(a)unrhyw swyddog a awdurdodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
(b)unrhyw swyddog i awdurdod marchnadoedd yng Nghymru, yn gweithredu o fewn terfynau unrhyw farchnad y mae gan yr awdurdod hwnnw bŵ er i'w rheoleiddio; ac
(c)unrhyw swyddog pysgodfeydd i bwyllgor pysgodfeydd lleol yn gweithredu o fewn unrhyw ran o ardal y pwyllgor sydd yng Nghymru neu yn y môr cyfagos at Gymru.
(3) Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol penodedig, i'r graddau y mae'n ymwneud â rhwydi ac offer pysgota arall, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd i bwyllgor pysgodfeydd lleol, mewn unrhyw ran o ardal y pwyllgor sydd yng Nghymru neu yn y môr cyfagos at Gymru, fynd ar fwrdd unrhyw gwch pysgota Prydeinig a chwilio am bob rhwyd neu offer pysgota arall ac unrhyw bysgod sy'n cael eu cario yn y cwch hwnnw a'u harchwilio, a chaiff gipio unrhyw rwyd neu offer pysgota arall y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu bod tramgwydd perthnasol yn ymwneud â rhwydi neu offer pysgota arall wedi'i gyflawni mewn perthynas â hwy.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: