xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 2041 (Cy. 147 )

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Diwygio) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

19 Gorffennaf 2000

Yn dod i rym

1 Awst 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58 a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2)

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Diwygio) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 1 Awst 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999(3)

Diwygio'r prif Reoliadau

3.—(1Diwygir y prif Reoliadau yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2Yn Rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o “person dynodedig” rhowch —

(3Yn Rheoliad 3(1), yn lle “ac 1 Ebrill 2002”, rhowch —

(4Yn Rheoliad 8, ar ôl paragraff (4), rhowch —

(5) Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004, cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf..

(5Yn Rheoliad 10, ar ôl paragraff (3), rhowch —

(4) Os yw'r swm a geir drwy gymhwyso'r fformwla a nodir ym mharagraffau (2) a (3) yn llai na'r swm a geid drwy gyfrifo'r swm y gellir ei godi am ddosbarth perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf, y swm a gyfrifir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf fydd y swm y gellir ei godi am ddiwrnod perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw.

(5) Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004 cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf..

(6Ar ôl Rheoliad 10, rhowch –

10A.  Mae Rheoliad 10B yn gymwys i hereditament diffiniedig os yw'r amod yn Rheoliad 9 wedi'i fodloni ac nad yw adrannau 43(5), 43(6A) neu 45 o'r Ddeddf yn gymwys ar 31 Mawrth 2000.

10B.(1) Os elusen neu ymddiriedolwyr elusen sy'n talu'r ardrethi a bod yr hereditament diffiniedig yn cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion elusennol, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 5.

(2) Os yw adran 43(6B) o'r Ddeddf (siopau cyffredinol etc. mewn aneddiadau gwledig) yn gymwys mewn perthynas â'r hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 2.

(3) Os yw'r amodau yn adran 45(1) o'r Ddeddf (eiddo nad yw wedi'i feddiannu) wedi'u bodloni mewn perthynas â'r hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 2, neu mewn achos lle mae adran 45(6) (hereditamentau elusennau nad ydynt wedi'i meddiannu) yn gymwys, â 10..

(7Yn Rheoliad 12(2), yn lle “2001” rhowch –“2005”.

(8Ar ôl Rheoliad 12, rhowch —

13.  Pan wneir newid yn y gwerth ardrethol a ddangosir mewn rhestr ar 1 Ebrill 2000, a bod y newid hwnnw yn effeithiol o ddyddiad diweddarach yn unol â darpariaethau Rheoliad 13A(2) o Reoliadau 1993, yna bydd darpariaethau Rheoliad 11(1) yn gymwys. (5)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Gorffennaf 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999 (“y prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth, mewn perthynas ag ardrethi annomestig o dan Ran III o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y symiau y gellir eu codi ac y mae'r sawl sy'n talu'r ardrethi yn atebol i'w talu o dan amgylchiadau penodol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y cyfnod pryd y mae'r prif Reoliadau'n gymwys i gynnwys y blynyddoedd ariannol a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004 ac yn pennu'r rheolau ar gyfer penderfynu ar y swm y gellir ei godi yn y blynyddoedd hynny.

Maent hefyd yn diwygio Rheoliad 10 o'r prif Reoliadau er mwyn cyfyngu ar y gostyngiad yn y swm y gellir ei godi o dan rai amgylchiadau .

Mae'r cyfnod ar gyfer cyflwyno apelau yn erbyn ardystio o dan y prif Reoliadau wedi'i ymestyn o 1 Ebrill 2001 i 1 Ebrill 2005.

Pennir y dyddiadau effeithiol ar gyfer penderfynu ar y symiau y gellir eu codi yn unol â Rheoliadau 8 a 10 o'r prif Reoliadau drwy gyfeirio at Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 1993 lle gwneir newidiadau i'r gwerth ardrethol a ddangosir mewn rhestr yn unol â'r Rheoliadau hynny.

(1)

1988 p.41. Diwygiwyd adran 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diwygiwyd paragraff 3(2) o Atodlen 6 gan baragraff 38(13) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

Diwygiwyd O.S. 1993/291 gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792 (Cy.29)).

(5)

Mewnosodwyd Rheoliad 13A gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792 (Cy.29)).