xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
9.—(1) Os yw'n hysbys, pan yw'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi fel athro neu athrawes —
(a)enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyflunydd a chyfeiriad post electronig yr ysgol neu'r sefydliad lle mae'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi i addysgu;
(b)manylion y math o ysgol neu sefydliad lle mae'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi i addysgu ac enw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu'r sefydliad os yw hynny'n gymwys;
(c)ai cyflogaeth amser-llawn neu ran-amser ydyw;
(ch)y swydd sydd gan yr athro neu'r athrawes; a
(d)y dyddiad yr ymgymerodd yr athro neu'r athrawes â'u swydd bresennol.
(2) Pan nad yw'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi fel athro neu athrawes ar hyn o bryd, y dyddiad diwethaf, os yw'n hysbys pryd yr oeddent yn cael eu cyflogi felly, a'r manylion ym mharagraffau (a) i (d) o is-baragraff (1) mewn perthynas â'u swydd addysgu ddiweddaraf.