ATODLEN

RHAN IIYr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cofnodion

18

1

Pan yw'r person wedi bwrw cyfnod ymsefydlu neu ran o gyfnod ymsefydlu, boed yng Nghymru neu Loegr, —

a

enw'r corff priodol (o fewn ystyr “appropriate body” yn adran 19 o Ddeddf 1998);

b

y dyddiad y dechreuodd y person y cyfnod ymsefydlu;

c

os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y person wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus, a dyddiad ei gwblhau;

ch

os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y person wedi methu â chwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus;

d

os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y cyfnod ymsefydlu wedi'i estyn ar gyfer y person, a chyfnod yr estyniad; a

dd

os yw'n gymwys, nodyn i ddweud mai rhan yn unig o'r cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i chwblhau gan y person, a'r cyfnod sydd wedi'i fwrw.

2

Pan nad yw'r person wedi bwrw cyfnod ymsefydlu,

a

a yw'r person yn esempt rhag y gofyniad i fwrw cyfnod ymsefydlu, a'r rheswm dros yr esemptiad; neu

b

os nad oedd yn ofynnol bwrw cyfnod ymsefydlu ar yr adeg berthnasol, datganiad o'r ffaith honno8.