xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLEN

RHAN II

Dehongli

At ddibenion yr Atodlen hon:

1.—(1Cymedr blynyddol cyfredol yw cymedr a gyfrifir yn ôl yr awr, gan ildio un cymedr blynyddol cyfredol yr awr. Y cymedr blynyddol cyfredol ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol am awr benodol yw cymedr y lefelau yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am yr awr honno a'r 8759 o oriau blaenorol.

(2Er mwyn cyfrifo cymedr blynyddol cyfredol, y lefel yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yw naill ai:

(a)y lefel lle cofnodir bod y sylwedd hwnnw yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr awr ar sail sampl barhaus o aer a gymerir yn ystod yr awr honno am 30 munud o leiaf; neu

(b)cymedr y lefelau a gofnodir yn y lleoliad hwnnw ar sail 2 neu ragor o samplau o aer a gymerir yn ystod yr awr am gyfnod agregedig o 30 munud o leiaf.

2.  Cymedr a gyfrifir ar sail oriau ac sy'n ildio un cymedr 8 awr cyfredol yr awr yw cymedr 8 awr cyfredol. Cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol am awr benodol a'r 7 awr flaenorol yw'r cymedr 8 awr cyfredol ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am yr awr honno.

3.—(1Cymedr a gyfrifir ar sail flynyddol ac sy'n ildio un cymedr blynyddol y flwyddyn galendr yw cymedr blynyddol. Y cymedr blynyddol ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol mewn blwyddyn galendr benodol yw:

(a)o ran plwm, cymedr y lefelau dyddiol ar gyfer y flwyddyn honno;

(b)o ran nitrogen deuocsid, cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer y flwyddyn honno; ac

(c)o ran PM10, cymedr y cymedrau 24 awr ar gyfer y flwyddyn honno;

(2At ddibenion cyfrifo'r cymedr blynyddol ar gyfer plwm, y lefel ddyddiol ar gyfer plwm mewn lleoliad penodol ar ddiwrnod penodol yw'r lefel lle cofnodir bod plwm yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr wythnos y digwydd y diwrnod ar sail sampl barhaus o aer a gymerir drwy gydol yr wythnos honno (gan briodoli'r un lefel ddyddiol felly i bob diwrnod o'r wythnos honno).

(3Ystyr “PM10” yw mater gronynnol sy'n llwyddo i fynd drwy fewnfa dethol maint gyda therfyn effeithlonrwydd o 50% pan fydd y diamedr aerodynamig yn 10μm.

(4At ddibenion is-baragraff (2) ystyr “wythnos” yw wythnos gyflawn sy'n dechrau ar ddydd Llun, ac eithrio ei bod hefyd yn cynnwys unrhyw gyfnod o lai na saith diwrnod o ddechrau'r flwyddyn galendr hyd at y dydd Llun cyntaf yn y flwyddyn honno neu o ddechrau'r dydd Llun olaf yn y flwyddyn galendr hyd at ddiwedd y flwyddyn honno.

4.  Cymedr a gyfrifir bob awr yw cymedr yn ôl yr awr. Cymedr y lefelau a gofnodir, ar fynychder o nid llai nag unwaith bob 10 eiliad, ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yn ystod awr benodol yw'r cymedr yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr awr honno.

5.  Cymedr a gyfrifir bob 24 awr yw cymedr 24-awr. Y lefel lle cofnodir bod sylwedd yn bresennol yn yr aer mewn lleoliad penodol ar sail sampl barhaus o aer a gymerir drwy gydol y cyfnod o 24 awr yw'r cymedr 24-awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am y cyfnod hwnnw.

6.  Cymedr a gyfrifir bob 15 munud yw cymedr 15-munud. Cymedr y lefelau a gofnodir, ar fynychder o nid llai nag unwaith bob 10 eiliad, ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yn ystod cyfnod o 15 munud yw'r cymedr 15-munud ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am y 15 munud hynny.

7.  Mae'r cyfeiriad at nifer o ficrogramau neu filigramau y metr ciwbig o sylwedd yn gyfeiriad at y nifer o ficrogramau neu filigramau y metr ciwbig o'r sylwedd hwnnw o'i fesur gyda'r cyfaint wedi'i safoni ar dymheredd o 293 K ac ar bwysedd o 101.3 kPa.