xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“Deddf 1995”) yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru adolygu ansawdd yr aer yn eu hardaloedd. Rhaid i'r adolygiadau ystyried ansawdd yr aer ar y pryd ac ansawdd tebygol yr aer yn y dyfodol yn ystod y “cyfnod perthnasol” (cyfnod sydd i'w ragnodi gan reoliadau).

Ynghyd â'r adolygiadau hyn, rhaid asesu a yw unrhyw safonau neu amcanion ansawdd aer, fel y'u rhagnodir gan reoliadau, yn cael eu cyflawni neu yn debygol o gael eu cyflawni o fewn y cyfnod perthnasol.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Awst 2000, yn rhagnodi'r cyfnod perthnasol y cyfeirir ato uchod (rheoliad 3) a'r amcanion ansawdd aer sydd i'w cyflawni erbyn diwedd y cyfnod hwnnw (rheoliad 4 a'r Atodlen). Yr un yw'r amcanion â'r rhai a nodir yn y Strategaeth Ansawdd Aer i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (Cm 4548, Ionawr 2000) ac a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 80 o Ddeddf 1995.

Os yw'n debygol na chyflawnir un neu fwy o'r amcanion ansawdd aer a ragnodir gan y Rheoliadau hyn o fewn unrhyw ran o ardal cyngor o fewn y cyfnod perthnasol, bydd rhaid i'r cyngor o dan sylw ddynodi'r rhan honno o'i ardal yn ardal rheoli ansawdd aer (adran 83(1) o Ddeddf 1995). Yna, bydd rhaid paratoi cynllun gweithredu sy'n ymdrin â'r ardal ddynodedig ac yn nodi sut mae'r cyngor yn bwriadu arfer ei bwerau mewn perthynas â'r ardal ddynodedig er mwyn cyflawni'r amcanion rhagnodedig (adran 84(2) o Ddeddf 1995).

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Ansawdd Aer 1997. Roedd y Rheoliadau hynny yn gymwys i Brydain Fawr ond maent wedi'u diddymu eisoes i'r graddau yr oeddent yn gymwys i'r Alban gan Reoliadau Ansawdd Aer (Yr Alban) 2000 (O.S.A. 2000/97) ac i'r graddau yr oeddent yn gymwys i Loegr gan Reoliadau Ansawdd Aer (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/928).