- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
5.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol —
(a)bwyd sydd heb ei ragbacio;
(b)bwyd sydd wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol; ac
(c)unrhyw gynnyrch cyffeithiol ffansi sydd wedi'i lapio'n unigol ac nad yw wedi'i amgáu mewn unrhyw becyn arall ac y bwriedir ei werthu fel eitem unigol.
(2) Pan fydd unrhyw fwyd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael ei werthu i'r prynwr terfynol, rhaid i'r manylion y mae Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio neu eu labelu arno ymddangos, ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (3) isod —
(a) ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu
(b)ar fwydlen, hysbysiad, tocyn neu label y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis y bwyd hwnnw.
(3) Pan fydd bwyd —
(a)yn fwyd y mae gofynion labelu Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn gymwys iddo,
(b)a hwnnw —
(i)heb ei ragbacio, neu
(ii)wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol, ac
(c)yn cael ei werthu i'r prynwr terfynol mewn safle priodol,
rhaid peidio â thrin defnyddio labelau amgen yn lle'r manylion GMO ar ei ben ei hun fel achos o dorri'r gofynion labelu hynny ac at y diben hwn defnyddir labelau amgen, pan ddangosir y manylion amgen yn unol â pharagraff (4) isod, yn lle bod y manylion y cyfeirir atynt yn Erthygl 2(3) o Reoliad 1139/98 neu yn Erthyglau 2 a 4 o Reoliad 50/2000 yn ymddangos yn y dull a bennir ym mharagraff (2)(a) neu (b) uchod.
(4) Dangosir manylion amgen yn unol â'r paragraff hwn ynglŷn ag unrhyw fwyd y cyfeirir ato ym mharagraff (3) uchod os gwelir ar fwydlen, hysbysiad, tocyn neu label y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad ac sydd wedi'i leoli yn y man ar y safle lle mae'n dewis y bwyd hwnnw –
(a)yn achos bwyd y mae gofynion labelu Rheoliad 1139/98 yn gymwys iddo, wybodaeth i'r perwyl bod rhywfaint o'r bwyd sy'n cael ei werthu ar y safle hwnnw yn cynnwys cynhwysion sydd wedi'u cynhyrchu o ffa soia neu indrawn a addaswyd yn enetig, neu'r ddau, yn ôl fel y digwydd, a bod gwybodaeth bellach ar gael oddi wrth y staff; a
(b)yn achos bwyd y mae gofynion labelu Rheoliad 50/2000 yn gymwys iddo, wybodaeth i'r perwyl y bod rhywfaint o'r bwyd sy'n cael ei werthu ar y safle hwnnw yn cynnwys ychwanegion neu gyflasynnau, neu'r ddau, yn ôl fel y digwydd, sydd wedi'u cynhyrchu o organedd a addaswyd yn enetig, a bod gwybodaeth bellach ar gael oddi wrth y staff.
(5) Yn y rheoliad hwn, mae “safle” yn cynnwys unrhyw long neu awyren ac ystyr “safle priodol” yw safle –
(a)lle mae'r staff yn rhoi eglurhad ar gais darpar brynwr ynghylch a yw —
(i)bwyd penodol sy'n cael ei werthu ar y safle hwnnw, heblaw bwyd sy'n dod o fewn Erthygl 1(2) neu 2(2) o Reoliad 1139/98, yn cael ei gynhyrchu yn gyfan gwbl neu'n rhannol o gynnyrch a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato yn Erthygl 1(1) o'r Rheoliad hwnnw, a
(ii)bwyd penodol sy'n cael ei werthu ar y safle hwnnw yn cynnwys ychwanegion neu gyflasynnau a gynhyrchwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o organedd a addaswyd yn enetig, a
(b)lle mae gweithdrefn sefydledig ar y safle hwnnw ar gyfer rhoi gwybod yn gyson i'r staff ynglŷn â'r wybodaeth honno.
(6) Pan fydd unrhyw fwyd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael ei werthu heblaw i'r prynwr terfynol, rhaid i'r manylion y mae Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio neu eu labelu arno ymddangos –
(a)ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu
(b)ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis y bwyd, neu
(c)mewn dogfennau masnachol ynglŷn â'r bwyd lle gellir gwarantu bod y dogfennau hynny naill ai gyda'r bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r bwyd gael ei anfon, neu yr un pryd â hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: