xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1799 (Cy.124)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud 7 Gorffennaf 2000

Yn dod i rym

8 Gorffennaf 2000

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar ôl iddo ystyried y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48 (4A) o'r Ddeddf honno ac ar ôl iddo, yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y Rheoliadau canlynol, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000, deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2000 a byddant yn gymwys i Gymru.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(3).

Diwygio'r prif Reoliadau

2.  – Diwygir y prif Reoliadau, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, drwy ychwanegu, ar ddiwedd y diffiniad o “Directive 95/45/EC” yn rheoliad 2(1), y geiriau“, as amended by Directive 1999/75/EC(4)).

Darpariaeth ganlyniadol

3.—(1Cymerir bod cyfeiriadau at y prif Reoliadau yn y darpariaethau a restrir ym mharagraff (2) isod, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys i Gymru, yn gyfeiriadau at y prif Reoliadau fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn.

(2Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (1) uchod yn cyfeirio atynt —

(a)y diffiniad o “permitted colour” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981(5);

(b)y diffiniad o “additive” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984(6);

(c)y diffiniad o “colour” yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992(7) ;

(ch)y diffiniad o “colour” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(8)); a

(d)y diffiniad o “the additives Regulations” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996((9)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10))

Jane Davidson

Y Dirprwy Lywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Gorffennaf 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (“Rheoliadau 1995”) drwy ddiweddaru cyfeiriad at Gyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC sy'n gosod meini prawf penodol ynglŷn â lliwiau, sydd i'w defnyddio mewn bwydydd (0J Rhif L226, 22.9.95, t.1) er mwyn ymdrin â'r diwygiad a wnaed gan Gyfarwyddeb y Comisiwn1999/75/EC (OJ Rhif L206, 5.8.1999, t.19), a newidiodd y fanyleb ar gyfer “E160a(i) Mixed Carotenes”, a thrwy ddiweddaru'r cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill.

Mae Rheoliadau 1995 yn pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir defnyddio neu werthu lliwiau (a ddiffinir fel ychwanegion bwyd y bwriedir eu defnyddio ar gyfer y prif bwrpas o ychwanegu neu adfer lliwiau mewn bwyd). Caiff unrhyw liw ei ganiatáu felly dim ond os yw'n bodloni meini prawf purdeb a bennir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC.

(1)

1990 p.16; Diwygiwyd adran 6(4) o'r Ddeddf gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40) a chan baragraff 10(3) o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28). Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a freiniwyd yng Ngweinidogion y Goron mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672.

(4)

OJ Rhif L206, 5.8.99, t.19.

(5)

O.S. 1981/1063; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3124.

(6)

O.S. 1984/1566; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3123, 1995/3124 a 1995/3187.

(7)

O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3124.

(8)

O.S. 1995/3187; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 1996/1499; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn; gweler hefyd O.S. 1999/1136.