- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud 7 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym
8 Gorffennaf 2000
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar ôl iddo ystyried y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48 (4A) o'r Ddeddf honno ac ar ôl iddo, yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y Rheoliadau canlynol, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. –
(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000, deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2000 a byddant yn gymwys i Gymru.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(3).
2. – Diwygir y prif Reoliadau, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, drwy ychwanegu, ar ddiwedd y diffiniad o “Directive 95/45/EC” yn rheoliad 2(1), y geiriau“, as amended by Directive 1999/75/EC”(4)).
3. –
(1) Cymerir bod cyfeiriadau at y prif Reoliadau yn y darpariaethau a restrir ym mharagraff (2) isod, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys i Gymru, yn gyfeiriadau at y prif Reoliadau fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn.
(2) Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (1) uchod yn cyfeirio atynt —
(a)y diffiniad o “permitted colour” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981(5);
(b)y diffiniad o “additive” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984(6);
(c)y diffiniad o “colour” yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992(7) ;
(ch)y diffiniad o “colour” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(8)); a
(d)y diffiniad o “the additives Regulations” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996((9)
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10))
Jane Davidson
Y Dirprwy Lywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Gorffennaf 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (“Rheoliadau 1995”) drwy ddiweddaru cyfeiriad at Gyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC sy'n gosod meini prawf penodol ynglŷn â lliwiau, sydd i'w defnyddio mewn bwydydd (0J Rhif L226, 22.9.95, t.1) er mwyn ymdrin â'r diwygiad a wnaed gan Gyfarwyddeb y Comisiwn1999/75/EC (OJ Rhif L206, 5.8.1999, t.19), a newidiodd y fanyleb ar gyfer “E160a(i) Mixed Carotenes”, a thrwy ddiweddaru'r cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill.
Mae Rheoliadau 1995 yn pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir defnyddio neu werthu lliwiau (a ddiffinir fel ychwanegion bwyd y bwriedir eu defnyddio ar gyfer y prif bwrpas o ychwanegu neu adfer lliwiau mewn bwyd). Caiff unrhyw liw ei ganiatáu felly dim ond os yw'n bodloni meini prawf purdeb a bennir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC.
1990 p.16; Diwygiwyd adran 6(4) o'r Ddeddf gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40) a chan baragraff 10(3) o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28). Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28).
Trosglwyddwyd swyddogaethau a freiniwyd yng Ngweinidogion y Goron mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672.
OJ Rhif L206, 5.8.99, t.19.
O.S. 1981/1063; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3124.
O.S. 1984/1566; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3123, 1995/3124 a 1995/3187.
O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3124.
O.S. 1995/3187; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1996/1499; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn; gweler hefyd O.S. 1999/1136.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: