(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Diben y Rheoliadau hyn (gyda Rheoliadau cysylltiedig ar Fathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) yw cyflwyno cyfundrefn bathodynnau glas ar gyfer personau anabl o Gymru fydd yn cael eu derbyn ar draws yr Undeb Ewopeaidd yn lle'r un bresennol sy'n seiliedig ar fathodynnau oren.

Mae rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn dilyn Argymhelliad a wnaed ym 1998 gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd.

Gall awdurdodau lleol wneud gorchmynion ynglŷn â pharcio o dan Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984. Pennwyd esemptiadau ar gyfer personau anabl y byddai'n ofynnol i'r awdurdodau lleol eu cynnwys mewn gorchmynion ynglŷn â gwaharddiadau a chyfyngiadau parcio a'r tâl y gellid ei godi yn Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl)(Lloegr a Chymru) 1986.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau 1986 (rheoliad 2).

Yn rheoliadau 3 a 4 dehonglir termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae rheoliadau 5 i 9 yn pennu'r gorchymynion perthnasol a'r modd y bydd yr esemptiadau yn effeithio arnynt.