xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 2

ATODLENDIWYGIADAU I'R FFURFLEN SY'N DWYN Y TEITL “CEISIADAU PERCHEN-FEDDIANNYDD A THENANT AM GRANTIAU ADNEWYDDU TAI”

1.  Yng nghwestiwn 1.1 yn lle “Nodyn 1” rhowch “Nodiadau 1 ac 1A”.

2.  Ar ôl cwestiwn 1.2, mewnosodwch –

.

3.  Ar ôl cwestiwn 1.3, mewnosodwch —

4.  Yn y nodyn sy'n rhagflaenu cwestiwn 2B.6, yn lle “Os ydych yn dal” rhowch “Os nad ydych yn dal”.

5.  Ar ôl cwestiwn 3.23, mewnosodwch —

.

6.  Yng nghwestiwn 3.31 —

(a)ar ôl “Ysgoloriaethau ac addysgedau eraill etc: £ ... ... ... ... £ ... ... ... ...”, mewnosodwch “Nodyn 86B”;

(b)ar ôl “Benthyciad myfyrwyr: £ ... ... ... ... £ ... ... ... ...”, mewnosodwch “Nodyn 86C”.

7.  Yng nghwestiwn 3.34, yn lle “Nodiadau 90 a 90A” rhowch “Nodiadau 90, 90A a 90B”.

8.  Yn y pennawd o flaen cwestiwn 3.36 ac yng nghwestiwn 3.36, ar ôl “grantiau myfyrwyr” mewnosodwch “neu fenthyciadau myfyrwyr”.

9.  Yng nghwestiwn 4.1, ar ôl paragraff (c) mewnosodwch—

(ch)Gwybodaeth am eich rhif yswiriant gwladol

10.  Cyn nodyn 2, mewnosodwch —

1A.  Byddwch cystal â darparu bil cyfleustod sy'n dangos eich enw a chyfeiriad yr eiddo y mae'r cais yn berthnasol iddo neu dystiolaeth arall eich bod yn byw yn yr eiddo hwnnw.

11.  Ar ôl nodyn 2, mewnosodwch –

2A.  Os oes gennych rif yswiriant gwladol, byddwch cystal â darparu tystiolaeth ei fod yn perthyn i chi, megis cerdyn rhif, datganiadau cyflog, ffurflenni budd-dâl neu ddogfen swyddogol arall sy'n dwyn eich enw a'ch rhif yswiriant gwladol gyda'i gilydd. Os ydych wedi colli'ch rhif yswiriant gwladol neu os na ddyrannwyd un i chi, byddwch cystal â darparu copi o'ch datganiad cyflog neu'ch ffurflen fudd-dâl fel y gellir olrhain eich rhif yswiriant gwladol neu fel y gellir gwneud cais am rif yswiriant gwladol.

Mae Adran Dai y Cyngor yn gallu rhoi cyngor i chi am ba ddogfennau y dylech eu darparu a hefyd sut i wneud cais am rif yswiriant gwladol newydd. Llenwch weddill y ffurflen a gofyn am eu cyngor pan fyddwch yn anfon y cais atynt.

12.  Yn nodyn 3 —

(a)ar ôl “rheoliad 3 o'r Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996” mewnosodwch “Ni chaniateir ychwaith i'r Cyngor dalu grant lle mae person a allai fod wedi gwneud cais am grant yn “berson o wlad dramor”, er nad yw'r ceisydd “yn berson o wlad dramor”.”

(b)yn lle “i gwestiwn 1.3” rhowch “i gwestiynau 1.3 ac 1.3A” ac yn lle “i'r cwestiwn hwn” rhowch “i'r ddau gwestiwn”.

13.  Ar ddiwedd nodyn 70, ychwanegwch—

Dylai tâl gros gynnwys hefyd daleb ddi-arian a gymerwyd i ystyriaeth wrth gyfrifo'ch enillion yn unol â rheoliad 18(22) i (25) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 1979.

14.  Ar ddiwedd nodiadau 71 a 72, ychwanegwch—

Byddwch cystal â chynnwys swm eich pensiwn p'un a delir ef i chi neu i berson arall. Nid oes rhaid i chi gynnwys swm eich pensiwn lle telir y cyfan ohono i'ch ymddiriedolwr mewn methdaliad neu i rywun arall ar ran eich credydwyr ar yr amod nad ydych chi neu aelod o'ch teulu yn cael unrhyw incwm ar wahân i'r taliad hwnnw..

15.  Ar ôl nodyn 74, mewnosodwch —

74A  Os nad ydych chi neu'ch partner yn gwybod a oes gennych hawl i gael y lleiafswm cyflog gwladol am unrhyw swydd, llenwch weddill y ffurflen a gofyn wedyn i Adran Dai y Cyngor pan fyddwch yn anfon eich cais i mewn.

16.  Yn nodyn 85, ar ôl “Groes George” mewnosodwch —

17.  Ar ô l nodyn 86A, mewnosodwch —

86B  Peidiwch â chynnwys dyfarniad chwaraeon ac eithrio i'r graddau iddo gael ei wneud ar gyfer talu eich costau, neu gostau eich teulu, ar gyfer bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd neu rent cartref, neu ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵ r yr ydych chi neu y mae aelod arall o'ch teulu yn atebol amdanynt.

86C  Dylech roi mwyafswm y benthyciad myfyriwr y gallech fod wedi'i gael, lle na chawsoch fenthyciad myfyriwr neu lle na chawsoch y mwyafswm.

18.  Ar ôl nodyn 90A, mewnosodwch —

90B  Peidiwch â chynnwys dyfarniad chwaraeon a gawsoch lai na 26 wythnos yn ôl ac eithrio i'r graddau ei fod wedi'i wneud i dalu eich costau, neu gostau eich teulu, am fwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd neu rent cartref, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵ r yr ydych chi neu y mae aelod arall o'ch teulu yn atebol amdanynt.

19.  Yn nodyn 92, ar ôl “grant y myfyriwr” mewnosodwch “neu fenthyciad y myfyriwr”.