xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1708 (Cy.115)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

21 Mehefin 2000

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 28F(1) a (2) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:—

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2000.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferwyr Meddygol) 1998(2).

(3Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio'r prif Reoliadau

2.  Ar ddiwedd rheoliad 1 o'r prif reoliadau, mewnosodir y paragraff canlynol—

(3) In respect of regulations 4 and 5 the amendments made by the National Health Service (Choice of Medical Practitioner) Amendment Regulations 1999(3) shall also have effect in Wales.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio 1998 (“y prif Reoliadau”) sy'n ymwneud â hawl personau i ddewis y meddyg y maent yn dymuno cael gwasanaethau meddygol sylfaenol ganddo.

Mae'r Rheoliadau yn peri bod y diwygiadau testunol i'r prif Reoliadau sydd wedi'u gwneud gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio 1999 (“Rheoliadau 1999”) ac sy'n gymwys yn Lloegr, yn effeithiol yng Nghymru.

Mae Rheoliadau 1999 yn diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (dyrannu personau i feddygon) drwy ddiwygio'r darpariaethau ar gyfer Awdurdod Iechyd sy'n dyrannu claf i feddyg er mwyn i Awdurdod Iechyd gael rhoi ystyriaeth i gleifion sydd wedi bod yn dreisgar tuag at eu meddyg yn y gorffennol, er mwyn dewis meddyg gyda'r cyfleusterau mwyaf priodol.

Mae Rheoliadau 1999 yn gwneud diwygiadau tebyg hefyd i Reoliad 5 o'r prif Reoliadau, sy'n ymwneud â dyrannu claf i feddyg gan “pilot scheme provider” (darparydd cynllun peilot).

(1)

1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26 (2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Mewnosodwyd adran 28F gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), adran 23(1). Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a (mewn perthynas â Lloegr) Deddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 28F, a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo).