Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) 1989(1).
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.