xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1422 (Cy.102)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) Diwygio (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

30 Mawrth 2000

Yn dod i rym

1 Ebrill 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:–

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) 1989(2).

(3Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau

2.  Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, lle mae'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (1) (y mae ei chynnwys wedi'i nodi yng ngholofn (2)), rhoddir y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4).

Darpariaethau trosiannol

3.  Os, ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny–

(a)y bydd unrhyw offer a bennir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau yn cael ei gyflenwi yn unol ag archeb a roddir cyn y dyddiad hwnnw; neu

(b)y bydd unrhyw dystysgrif ragdalu yn cael ei rhoi o dan reoliad 8 o'r prif Reoliadau yn unol â chais o dan y rheoliad hwnnw a gafwyd cyn y dyddiad hwnnw,

bydd y prif Reoliadau yn cael effaith mewn perthynas â chyflenwi'r offer neu, yn ôl y digwydd, rhoi'r dystysgrif fel pe na bai rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn wedi dod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mawrth 2000

ATODLENSYMIAU A AMNEWIDIR YN Y PRIF REOLIADAU

(1)(2)(3)(4)
Y ddarpariaeth yn y prif ReoliadauCynnwysYr hen swmY swm newydd
Rheoliad 3–Cyflenwi cyffuriau ac offer gan fferyllwyr–
paragraff (1)(a)y ffi am hosanau elastig–
fesul eitem£5.90£6.00
fesul pâr£11.80£12.00
paragraff (1)(c)y ffi am gyffuriau, ac am offer sydd
heb eu pennu ym mharagraff (1)(a)£5.90£6.00
paragraff (3)y ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn 9 £5.90£6.00
Rheoliad 4–Cyflenwi cyffuriau ac offer gan feddygon–
paragraff (1)(a)y ffi am hosanau elastig–
fesul eitem£5.90£6.00
fesul pâr£11.80£12.00
paragraff (1)(b)y ffi am gyffuriau, ac am offer sydd£5.90£6.00
heb eu pennu ym mharagraff (1)(a)£5.90£6.00
paragraff (3)y ffi am gyffuriau sy'n cael eu cyflenwi fesul tipyn£5.90£6.00
Regulation 5–Cyflenwi cyffuriau ac offer i gleifion allanol gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau NHS–
paragraff (1)(a)y ffi am hosanau elastig–
fesul eitem£5.90£6.00
fesul pâr£11.80£12.00
paragraff (1)(c)y ffi am drywsanau£11.80£12.00
paragraff (1)(d)y ffi am gyffuriau ac am offer sydd or (1)(c), or in Schedule 1£5.90£6.00
paragraff (3)y ffioedd am gyffuriau sy'n cael eu cyflenwi fesul tipyn£5.90£6.00
Rheoliad 8(5)–tystysgrif ragdalu–
4 mis£30.80£31.40
12 mis£84.60£86.20
Atodlen 1–y ffioedd a godir am staesiau ffabrig a gwallt gosod–
bronglwm llawfeddygol–£19.95£20.30
staes abdomenol neu staes y cefn£29.95£30.50
gwallt gosod modacrylig stoc£49.00£49.90
gwallt gosod rhannol ddynol£129.00£131.50
gwallt gosod dynol llawn wrth fesur£188.50£192.00

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) 1989 (“y prif Reoliadau”) sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am gyffuriau ac offer sy'n cael eu cyflenwi gan feddygon a fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol, a chan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gleifion allanol.

Mae'r diwygiadau a wneir i'r prif Reoliadau gan reoliad 2 a'r Atodlen yn codi'r ffi am eitemau ar bresgripsiwn neu sy'n cael eu cyflenwi i gleifion allanol o £5.90 i £6.00. Codir y ffi am hosanau elastig o £5.90 i £6.00 yr un (o £11.80 i £12.00 y pâr) a'r ffi am drywsanau o £11.80 i £12.00. Codir y ffioedd am wallt gosod rhannol ddynol a gwallt gosod modacrylig o £129.00 i £131.50 ac o £49.00 i £49.90 yn ôl eu trefn. Codir y ffi am wallt gosod dynol llawn o £188.50 i £192.00. Codir y ffi am staesiau ffabrig o £29.95 i £30.50. Codir y symiau a ragnodir ar gyfer rhoi tystsygrifau rhagdalu o £30.80 i £31.40 am dystysgrif bedwar-mis ac o £84.60 i £86.20 am dystysgrif ddeuddeng-mis.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud trefniadau trosiannol hefyd yn rheoliad 3 ynglŷn â thystysgrifau rhagdalu y gwnaed cais amdanynt ac offer a archebwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(1)

1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”)adran 26(2)(g) ac (i), am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).