xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif. 1283 (W. 98 )

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Dolgellau-Man i'r de o Birkenhead (A494) (Gwelliant yn Nhafarn y Gelyn) 2000

Wedi'i wneud

10 Mai 2000

Yn dod i rym

25 Mai 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980(1) a phob pwer galluogi arall.

1.  Daw'r briffordd newydd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

2.  Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

3.  Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a daw'n ffordd ddiddosbarth o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Dinbych bod y gefnffordd newydd yn agored i draffig trwodd.

4.  Yn y Gorchymyn hwn mesurir pob pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

i.Ystyr “y plan a adneuwyd” yw'r plan sy'n dwyn y rhif HA10/2 NAFW 2, sydd wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Dolgellau-Man i'r De o Birkenhead (A494) (Gwelliant yn Nhafarn y Gelyn) 2000”, sydd wedi'i lofnodi drwy awdurdod Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi'i adneuo yn Yr Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.

ii.ystyr “y gefnffordd newydd” yw'r briffordd a grybwyllir yn Erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;

iii.ystyr “y gefnffordd” yw Cenffordd Dolgellau-Man i'r De o Birkenhead (A494).

5.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Mai

2000 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Dolgellau-Man i'r De o Birkenhead (A494) (Gwelliant yn Nhafarn y Gelyn) 2000.

Llofnodwyd ar ran Ysgrifennydd y Cynulliad dros Amgylchedd.

D. M. Timlin

Pennaeth yr Adran Gweinyddu Ffyrdd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyddiedig y10 Mai 2000

ATODLEN 1LLWYBR Y GEFNFFORDD NEWYDD

Mae llwybr y gefnffordd newydd yn llwybr sydd wedi'i leoli yn Sir Ddinbych rhwng Llanferres a'r Wyddgrug fel a ganlyn:–

ATODLEN 2DARN O GEFNFFORDD SY'N PEIDIO Å BOD YN GEFNFFORDD

Y darn o'r gefnffordd sy'n peidio â bod yn gefnffordd yw'r darn hwnnw o'r gefnffordd sy'n dechrau ar bwynt ar y gefnffordd 285 metr i'r gogledd o Bont y Cacwn (a ddangosir fel AA ar y plan a adeuwyd) ac sy'n ymestyn tua'r gogledd-ddwyrain am ryw 0.45 cilometr hyd at bwynt ar y gefnffordd ryw 158 metr i'r gogledd-ddwyrain o'i chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth i Gilcain (a ddangosir fel BB ar y plan a adneuwyd),