xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Daw'r briffordd newydd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.
2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.
3. Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a daw'n ffordd ddiddosbarth o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Dinbych bod y gefnffordd newydd yn agored i draffig trwodd.
4. Yn y Gorchymyn hwn mesurir pob pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
i.Ystyr “y plan a adneuwyd” yw'r plan sy'n dwyn y rhif HA10/2 NAFW 2, sydd wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Dolgellau-Man i'r De o Birkenhead (A494) (Gwelliant yn Nhafarn y Gelyn) 2000”, sydd wedi'i lofnodi drwy awdurdod Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi'i adneuo yn Yr Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.
ii.ystyr “y gefnffordd newydd” yw'r briffordd a grybwyllir yn Erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;
iii.ystyr “y gefnffordd” yw Cenffordd Dolgellau-Man i'r De o Birkenhead (A494).
5. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Mai
2000 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Dolgellau-Man i'r De o Birkenhead (A494) (Gwelliant yn Nhafarn y Gelyn) 2000.
Llofnodwyd ar ran Ysgrifennydd y Cynulliad dros Amgylchedd.
D. M. Timlin
Pennaeth yr Adran Gweinyddu Ffyrdd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Dyddiedig y10 Mai 2000