Search Legislation

Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr-Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston-Redberth) 2000

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1172 (Cy.95)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr-Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston-Redberth) 2000

Wedi'i Wneud

28 Ebrill 2000

Yn Dod i Rym

17 Mai 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 10 a 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980(1) a phob pwer galluogi arall(2):–

1.  Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

2.  Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

3.  Mewn perthynas ag unrhyw ran o briffordd sy'n croesi llwybr y gefnffordd newydd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cyfarwyddo:

a.lle mae'r briffordd yn briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd gan yr awdurdod priffyrdd lleol, y cynhelir y rhan o dan sylw gan yr awdurdod hwnnw; a

b.lle nad yw'r briffordd yn briffordd y gellir ei chynnal felly ac na ellir ei chynnal ychwaith o dan ddeddfiad penodol neu oherwydd deiliadaeth, cau neu ragnodi, na fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan unrhyw ddyletswydd i gynnal y rhan o dan sylw.

4.  Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chânt eu dosbarthu fel ffyrdd dobarthiadol o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n hysbysu Cyngor Sir Penfro fod y gefnffordd newydd ar agor i draffig drwodd.

5.  Yn y Gorchymyn hwn

(1Mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

(2ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”) fel dosbarthiad o briffordd yw nad yw'r briffordd yn brif ffordd at ddibenion deddfiadau neu offerynnau sy'n cyfeirio at briffyrdd a ddosbarthwyd yn brif ffyrdd, ond mae'n ffordd ddosbarthiadol at ddibenion pob deddfiad ac offeryn sy'n cyfeirio at briffyrdd sydd wedi'u dosbarthu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru nad ydynt yn cyfeirio'n benodol at eu dosbarthu yn brif ffyrdd;

  • ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Sanclêr-Doc Penfro (A477);

  • ystyr “y gefnffordd newydd” (“the new trunk road”) yw'r briffordd a grybwyllir yn Erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan a rifwyd HA10/2 NAFW 1 wedi'i farcio Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr-Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston-Redberth) 2000 a lofnodwyd drwy awdurdod Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i adneuo yn Ystorfa Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Curran Embankment, Caerdydd.

6.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Mai 2000 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr – Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston – Redberth) 2000.

Llofnodwyd ar ran Ysgrifennydd y Cynulliad dros yr Amgylchedd

D.M. Timlin

Pennaeth yr Is-Adran Gweinyddu Ffyrdd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyddiedig y 28 Ebrill 2000

ATODLEN 1Llwybr y Gefnffordd Newydd

The route of the new trunk road is a route at Milton, Sageston and Redberth in the County of Pembrokeshire about 4.80 kilometres in length starting at a point on the existing Trunk Road about 260 metres west of its junction with the A4075 then going in a northeasterly direction to a point on the existing Trunk Road about 110 metres southwest of its junction with the C3129.

ATODLEN 2Darnau o Gefnffordd sy'n peidio â bod yn Gefnffyrdd

1.  Y darn hwnnw o'r gefnffordd a leolir rhwng pwynt rhyw 10 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â'r A4075 a farciwyd ag A ar y plan a adneuwyd a phwynt rhyw 210 metr i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 a farciwyd â B ar y plan a adneuwyd.

2.  Y darn hwnnw o'r gefnffordd a leolir rhwng pwynt rhyw 475 metr i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 a farciwyd ag C ar y plan a adneuwyd a phwynt rhyw 275 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â'r C3129 a farciwyd â D ar y plan a adneuwyd.

(2)

Yn rhinwedd O.S. 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, rhoddwyd y pwerau hyn bellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources