xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
CAFFAEL TIR, CYMRU CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Wedi'i wneud
11 Ebrill 2000
Yn dod i rym
12 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladaol gan adrannau 149(3)(a) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac adrannau 143 a 147 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(2), ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw –
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 12 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2. £24,600 yw'r swm a ragnodir ar gyfer dibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
3. Diddymir drwy hyn Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) 1990(4) i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Ebril 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau hysbysu malltod yn adrannau 149 i 171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) yn galluogi personau â buddiannau penodol mewn categorïau o dir, a bennir yn Atodlen 13 i'r Ddeddf (gan gynnwys tir yr effeithir arno gan gynigion cynllunio a phriffyrdd penodol), i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol gaffael eu buddiant yn y tir. Un o'r buddiannau mewn tir sy'n gymwys i gael ei ddiogelu yw buddiant perchennog-feddiannydd hereditament (sy'n golygu hereditament perthnasol o fewn ystyr adran 64(4)(a) i (c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988) lle nad yw gwerth blynyddol yr hereditament yn fwy na'r swm y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ei ragnodi (adran 149(3)(a) o'r Ddeddf). Breiniwyd y pŵer hwnnw bellach, i'r graddau y mae'n arferadwy yn Nghymru, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu'r terfyn gwerth blynyddol hwnnw o £18,000 i £24,600 er mwyn cymryd ailbrisio'r ardrethu yn y flwyddyn 2000 i ystyriaeth.
Yn wreiddiol, gwnaed Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) 1990 o dan bwerau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1971. Ymgorfforwyd Erthyglau 2 a 3 y gorchymyn, fel y'u gwnaed, yn y Ddeddf ac, o ganlyniad, mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) 1990 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4 o O.S. 2000/253 (W.5) ac Atodlen 3 iddi.