Search Legislation

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Technoleg) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1159 (Cy.90)

ADDYSG , CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Technoleg) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

10 Ebrill 2000

Yn dod i rym

1 Awst 2000

Cyflawnwyd y gofynion a nodir yn yr Atodlen.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 356(2)(a) a (b) a (4) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chwmpas

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Technoleg) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Awst 2000.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “yr Awdurdod” yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(3) (“the Authority”);

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“the National Assembly”); ystyr “y Dogfenau” yw'r dogfennau a gyhoeddir gan yr Awdurdod yn 2000 o dan y teitl “Dylunio a Thechnoleg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol” a “Gwybodaeth a Thechnoleg y Cwricwlwm Cenedlaethol”(4) (“the Documents”).

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru'n unig.

Diddymu

2.  Diddymir Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Thechnoleg) (Cymru) 1998(5).

Pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio

3.  Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo bod y darpariaethau ynglŷn â thargedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a nodir yn y Dogfennau i gael effaith i'r diben o bennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio ynglŷn â thechnoleg.

4.  Nid yw'r enghreifftiau a italeiddiwyd yn y Dogfennau (er mwyn dangos y rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6) 10 Ebrill 2000

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLENGOFYNION O DAN ADRAN 368 O DDEDDF ADDYSG 1996(7)

  • Adran 368(2)

    Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol gynnig i'r Awdurdod gan roi cyfarwyddiadau amser ynglŷn â'r cyfnod yr oedd yr Awdurdod i roi adroddiad(8).

  • Adran 368(3)

    Hysbysodd yr Awdurdod y cynnig i'r cyrff a'r personau y cyfeirir atynt yn adran 368(3) o Ddeddf Addysg 1996 a rhoi cyfle rhesymol iddynt gyflwyno tystiolaeth a sylwadau ar y materion a oedd yn codi.

  • Adran 368(5)

    Cyflwynodd yr Awdurdod ei adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

  • Adran 368(5)

    Trefnodd yr Awdurdod gyhoeddi'r adroddiad.

  • Adran 368(6) a (7)

    Cyhoeddwyd drafft o'r Gorchymyn a'r ddogfen gysylltiedig a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.

  • Adran 368(6) a (7)

    Anfonwyd copi o'r Gorchymyn drafft a'r ddogfen gysylltiedig i'r Awdurdod ac at bob un person yr ymgynghorodd yr Awdurdod â hwy a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Caiff Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer technoleg ei ddiwygio o 1 Awst 2000 ymlaen. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i raglenni astudio newydd, sy'n nodi beth ddylid ei addysgu i ddisgyblion, ac yn gosod targedau cyrhaeddiad iddynt. Rhoddir y manylion amdanynt mewn dogfennau o'r enw “Dylunio a Thechnoleg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol”a“Gwybodaeth a Thechnoleg y Cwricwlwmn Cenedlaethol” sydd ar gael gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn disodli Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Technoleg) (Cymru) 1998.

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 356(4) gan baragraff 87(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 356 o Ddeddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.

(4)

ISBN 07504 24060/07504 24052

(7)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 368 gan baragraff 28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 368 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(8)

O dan adran 23(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) caiff y Cynulliad Cenedlaethol barhau gydag unrhyw beth a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â swyddogaethau a freiniwyd ynddo gynt a bydd yn cael effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources