2000 Rhif 1154 (Cy.85)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Saesneg) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

Yn dod i rym ac eithrio fel a ddarperir yn erthygl 1(2)

Cyflawnwyd y gofynion a nodir yn yr Atodlen.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 356(2)(a) a (b) a (4) o Ddeddf Addysg 19961 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chwmpas1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Saesneg) (Cymru) 2000 ac, yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, daw i rym ar 1 Awst 2000.

2

Bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau mae a wnelont â'r pedwerydd cyfnod allweddol yn dod i rym—

a

ar 1 Awst 2001 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y cyfnod allweddol hwnnw: a

b

ar 1 Awst 2002 ar gyfer pob disgybl arall yn y cyfnod allweddol hwnnw.

3

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “yr Awdurdod” yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru3 (“the Authority”);

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“the National Assembly”);

  • ystyr “y Ddogfen” yw'r ddogfen a gyhoeddir gan yr Awdurdod yn 2000 o dan y teitl “Saesneg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol”4 (“the Document”); a

  • dehonglir cyfeiriadau at gyfnodau allweddol yn unol â'r diffiniad o “key stages” yn adran 355(1) o Ddeddf Addysg 1996

4

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru'n unig.

Diddymu2

Bydd Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Saesneg) 19955 yn peidio â bod yn gymwys—

a

ar 1 Awst 2000 ar gyfer disgyblion yn y cyfnodau allweddol cyntaf, ail a thrydydd; a

b

ar 1 Awst 2001 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

fe'i diddymir ar 1 Awst 2002.

Pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio

3

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo y bydd y darpariaethau ynglŷn â thargedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a nodir yn y Ddogfen yn cael effaith i'r diben o bennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio ynglŷn â Saesneg.

4

Nid yw'r enghreifftiau a italeiddiwyd yn y Ddogfen (er mwyn dangos y rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986

D. Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLENGOFYNION O DAN ADRAN 368 O DDEDDF ADDYSG 19967

  • Adran 368(2)

    Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol gynnig i'r Awdurdod gan roi cyfarwyddiadau amser ynglŷn â'r cyfnod yr oedd yr Awdurdod i roi adroddiad8.

  • Adran 368(3)

    Hysbysodd yr Awdurdod y cynnig i'r cyrff a'r personau y cyfeirir atynt yn adran 368(3) o Ddeddf Addysg 1996 a rhoi cyfle rhesymol iddynt gyflwyno tystiolaeth a sylwadau ar y materion a oedd yn codi.

  • Adran 368(5)

    Cyflwynodd yr Awdurdod ei adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

  • Adran 368(5)

    Trefnodd yr Awdurdod gyhoeddi'r adroddiad.

  • Adran 368(6) a (7)

    Cyhoeddwyd drafft o'r Gorchymyn a'r ddogfen gysylltiedig a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.

  • Adran 368(6) a (7)

    Anfonwyd copi o'r Gorchymyn drafft a'r ddogfen gysylltiedig i'r Awdurdod ac at bob un person yr ymgynghorodd yr Awdurdod â hwy a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Caiff Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer Saesneg ei ddiwygio o 1 Awst 2000 ymlaen. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i raglenni astudio newydd, sy'n nodi beth ddylid ei addysgu i ddisgyblion, ac yn gosod targedau cyrhaeddiad iddynt. Rhoddir y manylion amdanynt mewn dogfen o'r enw “Saesneg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol” sydd ar gael gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn nodi'r trefniadau i gyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd fesul rhan.

Mae'r Gorchymyn yn disodli Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Saesneg) 1995.