ATODLENGOFYNION O DAN ADRAN 368 O DDEDDF ADDYSG 1996(1)

  • Adran 368(2)

    Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol gynnig i'r Awdurdod gan roi cyfarwyddiadau amser ynglŷn â'r cyfnod yr oedd yr Awdurdod i roi adroddiad(2).

  • Adran 368(3)

    Hysbysodd yr Awdurdod y cynnig i'r cyrff a'r personau y cyfeirir atynt yn adran 368(3) o Ddeddf Addysg 1996 a rhoi cyfle rhesymol iddynt gyflwyno tystiolaeth a sylwadau ar y materion a oedd yn codi.

  • Adran 368(5)

    Cyflwynodd yr Awdurdod ei adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

  • Adran 368(5)

    Trefnodd yr Awdurdod gyhoeddi'r adroddiad.

  • Adran 368(6) a (7)

    Cyhoeddwyd drafft o'r Gorchymyn a'r ddogfen gysylltiedig a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.

  • Adran 368(6) a (7)

    Anfonwyd copi o'r Gorchymyn drafft a'r ddogfen gysylltiedig i'r Awdurdod ac at bob un person yr ymgynghorodd yr Awdurdod â hwy a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 368 gan baragraff 28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 368 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(2)

O dan adran 23(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) caiff y Cynulliad Cenedlaethol barhau gydag unrhyw beth a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â swyddogaethau a freiniwyd ynddo gynt a bydd yn cael effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol.