Search Legislation

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Addysg Gorfforol) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1098 (Cy. 76)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Addysg Gorfforol) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

10 Ebrill 2000

Yn dod i rym ac eithrio fel a ddarperir yn erthygl 1(2)

1 Awst 2000

Cyflawnwyd y gofynion a nodir yn yr Atodlen.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 356(2)(a) a (b) a (4) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chwmpas

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Addysg Gorfforol) (Cymru) 2000 ac, yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, daw i rym ar 1 Awst 2000.

(2Bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau mae a wnelont â'r pedwerydd cyfnod allweddol yn dod i rym—

(a)ar 1 Awst 2001 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y cyfnod allweddol hwnnw: a

(b)ar 1 Awst 2002 ar gyfer pob disgybl arall yn y cyfnod allweddol hwnnw.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “yr Awdurdod” yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(3) (“the Authority”);

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“the National Assembly”);

  • ystyr “y Ddogfen” yw'r ddogfen a gyhoeddir gan yr Awdurdod yn 2000 o dan y teitl “ Addysg Gorfforol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol”(4) (“the Document”). a

dehonglir cyfeiriadau at gyfnodau allweddol yn unol â'r diffiniad o "key stages" yn adran 355(1) o Ddeddf Addysg 1996

(4Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru'n unig.

Diddymu

2.  Bydd Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Addysg Gorfforol) (Cymru)1998(5) yn peidio â bod yn gymwys—

(a)ar 1 Awst 2000 ar gyfer disgyblion yn y cyfnodau allweddol cyntaf, ail a thrydydd; a

(b)ar 1 Awst 2001 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

fe'i diddymir ar 1 Awst 2002.

Pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio

3.  Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo bod y darpariaethau ynglŷn â thargedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a nodir yn y Ddogfen i gael effaith i'r diben o bennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio ynglŷn ag addysg gorfforol.

4.  Nid yw'r enghreifftiau a italeiddiwyd yn y Ddogfen (er mwyn dangos y rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ebrill 2000

ATODLENGOFYNION O DAN ADRAN 368 O DDEDDF ADDYSG 1996(7)

  • Adran 368(2)

    Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol gynnig i'r Awdurdod gan roi cyfarwyddiadau amser ynglŷn â'r cyfnod yr oedd yr Awdurdod i roi adroddiad(8).

  • Adran 368(3)

    Hysbysodd yr Awdurdod y cynnig i'r cyrff a'r personau y cyfeirir atynt yn adran 368(3) o Ddeddf Addysg 1996 a rhoi cyfle rhesymol iddynt gyflwyno tystiolaeth a sylwadau ar y materion a oedd yn codi.

  • Adran 368(5)

    Cyflwynodd yr Awdurdod ei adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

  • Adran 368(5)

    Trefnodd yr Awdurdod gyhoeddi'r adroddiad.

  • Adran 368(6) a (7)

    Cyhoeddwyd drafft o'r Gorchymyn a'r ddogfen gysylltiedig a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.

  • Adran 368(6) a (7)

    Anfonwyd copi o'r Gorchymyn drafft a'r ddogfen gysylltiedig i'r Awdurdod ac at bob un person yr ymgynghorodd yr Awdurdod â hwy a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau ynglŷn â materion a oedd yn codi.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Caiff Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer addysg gorfforol ei ddiwygio o 1 Awst 2000 ymlaen. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i raglenni astudio newydd, sy'n nodi beth ddylid ei addysgu i ddisgyblion, ac yn gosod targedau cyrhaeddiad iddynt. Rhoddir y manylion amdanynt mewn dogfen o'r enw “ Addysg Gorfforol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol” sydd ar gael gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn nodi'r trefniadau i gyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd fesul rhan.

Mae'r Gorchymyn yn disodli Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Addysg Gorfforol) (Cymru) 1998.

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 356(4) gan baragraff 87(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 356 o Ddeddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.

(4)

ISBN…0705 24044

(7)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 368 gan baragraff 28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 368 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(8)

O dan adran 23(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) caiff y Cynulliad Cenedlaethol barhau gydag unrhyw beth a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â swyddogaethau a freiniwyd ynddo gynt a bydd yn cael effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources