ATODLEN 1SPECIFIED COMMUNITY PROVISIONS APPLICABLE TO COMMUNITY VESSELS AND MAXIMUM FINES ON SUMMARY CONVICTION

Erthygl 4(1)

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Y ddarpariaeth yn Rheoliad y Cyngor

Y pwnc

Uchafswm y ddirwy ar gollfarniad diannod

1. Erthygl 6.1, i'r graddau bod y paragraff hwnnw yn ymwneud â chadw pysgod ar fwrdd cwch neu eu glanio.

Gwaharddiadau ar gadw ar fwrdd y cwch, neu lanio, haldiadau allan o stociau y mae cyfanswm yr haldiadau a ganiateir, neu gwotâu, wedi'u pennu ar eu cyfer, a'r rheiniwedi'u dihysbyddu.

£50,000.

2. Erthygl 6.1, i'r graddau bod y paragraff hwnnw yn ymwneud â chyfansoddiad yr haldiad neu ddidoli'r haldiad.

Gwaharddiadau mewn amgylchiadau penodol ar gadw ar fwrdd y cwch, neu lanio, haldiadausydd â chyfansoddiad penodol neu sydd wedi'u didoli.

Yr uchafswm statudol.

3. Erthygl 6.2.

Gwaharddiad ar lanio haldiadau sydd heb eu didoli ac sy'n cynnwys penwaig pan yw'r cyfyngiadau ar haldiadau a nodir yn Atodiad II i Reoliad y Cyngor wedi'u dihysbyddu.

£50,000.

4. Erthygl 8 ac Atodiad IV paragraffau 2 a 6.

Gwaharddiad ar lanio haldiadau sy'n cynnwys penwaig heb eu didoli mewn harbyrau lle nad oes systemau samplu digonol ar gael20.

Yr uchafswm statudo.

Gwaharddiad ar gynnig gwerthu penwaig i bobl eu bwyta, a'r rheini'n benwaig a ddaliwyd yn yr ardaloedd a bennir yn Atodiad IV paragraff 6 gan gychod yn cario rhwydi i'w tynnu ac isafswm maint eu masgl yn llai na 32mm ac wedi'u glanio.