xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1096 (Cy. 74)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ynghylch Cwotâu a Physgota gan Drydydd Gwledydd) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

10 Ebrill 2000

Yn dod i rym

11 Ebrill 2000

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(1), sydd yn awr wedi eu breinio ynddo, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru(2) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ynghylch Cwotâu a Physgota gan Drydydd Gwledydd) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 11 Ebrill 2000.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn:—

(2Yn y Gorchymyn hwn —

(a)mae unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn;

(b)mae unrhyw gyfeiriad at goflyfr, datganiad neu ddogfen yn cynnwys, yn ogystal â choflyfr, datganiad neu ddogfen ysgrifenedig —

(i)unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun;

(ii)unrhyw ffotograff;

(iii)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall fel bod modd eu hatgynhyrchu ohono (gyda chymorth rhyw gyfarpar arall, neu hebddo);

(iv)unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arno fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (yn yr un modd ag uchod); a

(v)unrhyw ddata, sut bynnag y caiff ei atgynhyrchu, a gyflëir drwy gyfrwng system monitro cychod wedi ei seilio ar loeren a sefydlir o dan Erthygl 3.1 o Reoliad y Cyngor 2847/93.

(3Rhaid peidio â darllen colofn 2 o Atodlenni 1 a 2 (sy'n darparu gwybodaeth ynglŷn â phwnc y ddarpariaeth mewn perthynas â phob darpariaeth Gymunedol benodedig) mewn ffordd fydd yn cyfyngu cwmpas unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig a rhaid ei diystyru mewn perthynas ag unrhyw gwestiwn sy'n codi ynglŷn â dehongli'r Gorchymyn hwn.

(4At ddibenion y gwaharddiad a gynhwysir ym mharagraff 2 o Atodiad IV i Reoliad y Cyngor:

(a)yr harbyrau lle y caiff cwch pysgota lanio haldiadau o bysgod sy'n cynnwys penwaig heb eu didoli yw'r harbyrau hynny yng Nghymru neu o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru sydd â systemau samplo y mae swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig yn penderfynu eu bod yn ddigonol at lanio haldiad o'r fath;

(b)wrth wneud penderfyniad o'r fath, rhaid i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig roi sylw i gyfanswm maint a nodweddion yr haldiad;

(c)dim ond ar ôl cais gan feistr cwch pysgota i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig yn yr harbwr hwnnw cyn glanio'r haldiad y caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig wneud penderfyniad o'r fath; ac

(ch)rhaid i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig roi gwybod i feistr cwch pysgota am unrhyw benderfyniad o'r fath.

Tramgwyddo

3.—(1Pan fydd, mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn cael ei thorri, neu pan fethir â chydymffurfio â hi, bydd y meistr, y perchennog, a'r siartrwr (os oes un) bob un yn euog o dramgwydd.

(2Pan fydd, mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, a hwnnw'n gwch pysgota y mae unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig yng ngholofn 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig o'r fath yn cael ei thorri, neu pan fethir â chydymffurfio â hi, bydd y meistr, y perchennog, a'r siartrwr (os oes un) bob un yn euog o dramgwydd.

Cosbi

4.—(1Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, y dygwyd achos mewn perthynas ag ef yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r swm a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r ddarpariaeth Gymunedol benodedig y bu ei thorri neu fethiant i gydymffurfio â hi yn sail i'r tramgwydd; a

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(2Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, y dygwyd achos mewn perthynas ag ef yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r swm a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r ddarpariaeth Gymunedol benodedig y bu ei thorri neu fethiant i gydymffurfio â hi yn sail i'r tramgwydd; a

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Casglu dirwyon

5.—(1Pan roir dirwy gan lys ynadon yng Nghymru ar feistr, perchennog neu siartrwr (os oes un), neu ar unrhyw berson arall a gollfernir gan y llys o dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan erthygl 10, er mwyn casglu'r ddirwy caiff y llys —

(a)rhoi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â chyflawni'r tramgwydd a'i offer a'i haldiad ac unrhyw eiddo sydd gan y person a gollfarnwyd er mwyn casglu swm y ddirwy; neu

(b)gorchymyn cadw y cwch hwnnw a'i offer a'i haldiad am gyfnod o ddim mwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu hyd nes y telir y ddirwy neu y cesglir swm y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.

(2Bydd adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(15) (gohirio rhoi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a roddir o dan yr erthygl hon yng Nghymru fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a roddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

(3Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy mewn perthynas â dirwy ynglŷn â thramgwydd perthnasol yn cael ei wneud o dan adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980, erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981(16) neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(17) ac yn pennu ardal llys ynadon yng Nghymru bydd yr erthygl hon yn gymwys fel petai'r ddirwy wedi ei rhoi gan lys o fewn yr ardal llys ynadon honno.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota

6.—(1Er mwyn gorfodi erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig wedi'i wneud er mwyn gweithredu darpariaeth Gymunedol benodedig, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (3) i (5) o'r erthygl hon o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

(2Er mwyn gorfodi erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig wedi'i wneud er mwyn gweithredu darpariaeth Gymunedol benodedig, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (3) i (5) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota o fewn y môr cyfagos at Gymru, a hwnnw'n gwch pysgota y mae darpariaeth Gymunedol benodedig yn gymwys iddo.

(3Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn stopio ac yn gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso naill ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arno.

(4Caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y meistr ac unrhyw bersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y dibenion a grybwyllir ym mharagraff (1) neu (2) o'r erthygl hon ac, yn benodol —

(a)caiff chwilio am bysgod neu offer pysgota ar y cwch a chaiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau ategol iddynt neu ynglŷn â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw;

(c)er mwyn canfod a oes tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio gan gynnwys cyflwyno pob dogfen ar gyfrifiadur y cwch mewn ffurf weladwy a darllenadwy;

(ch)caiff archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch a phan fydd unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chadw trwy ddefnyddio cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol ei bod yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; a

(d)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynglŷn â'r tramgwydd;

ond ni fydd dim yn is-baragraff (d) uchod yn caniatu cipio a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

(5Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni ar unrhyw adeg, caiff y swyddog —

(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a

(b)cadw'r cwch yn y porthladd neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yn y porthladd;

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw neu'n ei gwneud yn ofynnol cadw cwch rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig ar y tir

7.—(1Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3(1) neu 3(2) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaethau cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, wedi'i wneud er mwyn gweithredu unrhyw ddarpariaeth Gymunedol benodedig, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, yng Nghymru —

(a)mynd i mewn ac archwilio ar unrhyw adeg resymol unrhyw adeiladau a ddefnyddir ar gyfer rhedeg busnes mewn cysylltiad â gweithio cychod pysgota neu unrhyw weithrediadau sy'n gysylltiedig â hynny neu'n ategol iddynt neu mewn cysylltiad â thrin, storio neu werthu pysgod môr;

(b)cymryd gydag ef neu hi unrhyw bersonau eraill sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau;

(c)archwilio unrhyw bysgod yn yr adeiladau a'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw bersonau yno'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;

(ch)cyflawni yn yr adeiladau hynny unrhyw archwiliadau neu brofion eraill a fydd yn rhesymol angenrheidiol;

(d)ei gwneud yn ofynnol na fydd neb yn gwaredu nac yn peri gwaredu unrhyw bysgod o'r adeiladau hynny yn ystod unrhyw gyfnod a fydd yn rhesymol angenrheidiol i sefydlu a gyflawnwyd tramgwydd perthnasol ar unrhyw adeg;

(dd)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn yr adeiladau yn cyflwyno unrhyw ddogfennau yn ei gadwraeth neu ei feddiant mewn perthynas â dal, glanio, cludo, trawslwytho, gwerthu neu waredu unrhyw bysgod môr;

(e)er mwyn canfod a oes unrhyw berson yn yr adeiladau wedi cyflawni tramgwydd perthnasol, chwilio'r adeiladau am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn yr adeiladau'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio, gan gynnwys trosi pob dogfen ar gyfrifiadur y cwch i ffurf weladwy a darllenadwy;

(f)archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir iddo neu iddi neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau, a phan fydd unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chadw drwy ddefnyddio cyfrifiadur caiff ei gwneud yn ofynnol ei bod yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac

(ff)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen a gyflwynir iddo neu iddi neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynglŷn â'r tramgwydd.

(2Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys, gyda'r newidiadau angenrheidiol, mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol dros gredu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gludo cynhyrchion pysgodfeydd, yn yr un modd ag y maent yn gymwys i adeiladau ac, yn achos cerbyd, maent yn cynnwys y pŵer i'w gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg fod cerbyd yn stopio, ac, os oes angen, i gyfarwyddo'r cerbyd i ryw fan arall i hwyluso'r archwilio.

(3Os oes yng Nghymru ynad heddwch, ar ôl derbyn hysbysiaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni —

(a)bod yna sail resymol dros gredu bod unrhyw ddogfen neu eitem arall y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig bŵer o dan yr erthygl hon i'w harchwilio mewn unrhyw adeiladau a bod eu harchwilio yn debyg o ddatgelu tystiolaeth bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni; a

(b)naill ai —

(i)bod mynediad i'r adeiladau wedi'i wrthod neu'n debyg o gael ei wrthod a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roddi i'r meddiannydd; neu

(ii)y byddai gwneud cais am fynediad neu roi hysbysiad o'r fath yn rhwystro bwriad y mynediad, neu nad yw'r adeiladau yn cael eu meddiannu, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai aros i'r meddiannydd ddychwelyd rwystro bwriad y mynediad;

fe gaiff yr ynad drwy gyfrwng gwarant a lofnodir ganddo ac a fydd yn ddilys am fis, awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig i fynd i'r adeiladau, drwy ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, ac i fynd â'r personau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig i gipio pysgod ac offer pysgota

8.  Yng Nghymru ac yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota, gipio —

(a)unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy'n dal y pysgod) y mae gan y swyddog sail resymol dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn perthynas â hwy; a

(b)unrhyw rwyd neu offer pysgota arall y mae gan y swyddog sail resymol dros amau eu bod wedi eu defnyddio wrth gyflawni tramgwydd perthnasol.

Amddiffyn swyddogion

9.  Ni fydd swyddog na pherson sy'n cynorthwyo swyddog yn rhinwedd erthyglau 6(3) neu 7(1)(b) o'r Gorchymyn hwn yn agored i unrhyw achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o'r pwerau a roddwyd iddo neu iddi gan erthygl 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn os yw'r llys wedi'i fodloni fod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros wneud hynny a'i bod wedi'i gwneud gyda medr a gofal rhesymol.

Rhwystro swyddogion

10.  Bydd unrhyw berson sydd—

(a)heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a roddir i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig yn rhinwedd erthyglau 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn;

(b)heb esgus rhesymol yn rhwystro, neu'n ceisio rhwystro unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofyniad o'r fath; neu

(c)yn ymosod ar swyddog sydd wrthi'n arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig yn rhinwedd erthyglau 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn neu sy'n fwriadol yn rhwystro swyddog o'r fath wrth iddo arfer unrhyw un o'r pwerau hynny,

yn euog o dramgwydd ac yn agored —

(i)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol; neu

(ii)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Darpariaethau ynglŷn a thramgwyddau ac achosion

11.—(1Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall o'r corff corfforedig, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw fethiant ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforedig, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan bartneriaeth wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir ei briodoli i unrhyw fethiant ar ei ran, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(3Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth) wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o swyddogion y gymdeithas neu unrhyw aelod o'i chorff llywodraethu, neu y gellir ei briodoli i unrhyw fethiant ar ei ran, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

Derbynioldeb coflyfrau a dogfennau eraill fel tystiolaeth

12.—(1Bydd unrhyw —

(a)coflyfr a gedwir o dan Erthygl 6 neu 17.2 o Reoliad y Cyngor 2847/93;

(b)datganiad a gyflwynir o dan o dan Erthygl 8.1, 12 neu 17.2 o Reoliad y Cyngor 2847/93;

(c)dogfen a lunnir o dan Erthygl 9 neu 13 o Reoliad y Cyngor 2847/93;

(ch)adroddiad ymdrech a gwblheir o dan Erthygl 19b neu 19c o Reoliad y Cyngor 2847/93; a

(d)dogfen sy'n cynnwys gwybodaeth a fynnwyd ac a dderbynnir gan ganolfan monitro pysgodfeydd a sefydlir o dan Erthygl 3.7 o Reoliad y Cyngor 2847/93,

yn dystiolaeth, mewn unrhyw achos yng Nghymru ynglŷn â thramgwydd perthnasol, o'r materion a ddatgenir ynddynt.

(2At ddibenion paragraff (1) o'r erthygl hon, bydd “gwybodaeth a fynnwyd” yn golygu data sy'n ymwneud â'r canlynol —

(a)manylion adnabod cwch pysgota;

(b)lleoliad daearyddol diweddaraf y cwch pysgota, wedi'i fynegi mewn graddau a munudau lledred a hydred; ac

(c)y dyddiad a'r amser pan sefydlwyd y lleoliad hwnnw, fel y'u cyflëir trwy system monitro cychod wedi ei seilio ar loeren a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Reoliad y Cyngor 2847/93.

(3)Bydd unrhyw goflyfr neu ddogfen arall a gedwir ar fwrdd y cwch neu a ddelir yn unol â darpariaeth gymunedol benodedig yn dystiolaeth o'r materion a ddatgenir ynddo mewn unrhyw achos ynglŷn â thramgwydd o dan erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.

Diddymu

13.  Diddymir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ynghylch Cwotâu) 1999(18) a Gorchymyn Pysgota Trydydd Gwledydd (Gorfodi) 1999(19) drwy hyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ebrill 2000

Erthygl 4(1)

ATODLEN 1SPECIFIED COMMUNITY PROVISIONS APPLICABLE TO COMMUNITY VESSELS AND MAXIMUM FINES ON SUMMARY CONVICTION

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Y ddarpariaeth yn Rheoliad y CyngorY pwncUchafswm y ddirwy ar gollfarniad diannod
1. Erthygl 6.1, i'r graddau bod y paragraff hwnnw yn ymwneud â chadw pysgod ar fwrdd cwch neu eu glanio.Gwaharddiadau ar gadw ar fwrdd y cwch, neu lanio, haldiadau allan o stociau y mae cyfanswm yr haldiadau a ganiateir, neu gwotâu, wedi'u pennu ar eu cyfer, a'r rheiniwedi'u dihysbyddu.£50,000.
2. Erthygl 6.1, i'r graddau bod y paragraff hwnnw yn ymwneud â chyfansoddiad yr haldiad neu ddidoli'r haldiad.Gwaharddiadau mewn amgylchiadau penodol ar gadw ar fwrdd y cwch, neu lanio, haldiadausydd â chyfansoddiad penodol neu sydd wedi'u didoli.Yr uchafswm statudol.
3. Erthygl 6.2.Gwaharddiad ar lanio haldiadau sydd heb eu didoli ac sy'n cynnwys penwaig pan yw'r cyfyngiadau ar haldiadau a nodir yn Atodiad II i Reoliad y Cyngor wedi'u dihysbyddu.£50,000.
4. Erthygl 8 ac Atodiad IV paragraffau 2 a 6.Gwaharddiad ar lanio haldiadau sy'n cynnwys penwaig heb eu didoli mewn harbyrau lle nad oes systemau samplu digonol ar gael(20).Yr uchafswm statudo.
Gwaharddiad ar gynnig gwerthu penwaig i bobl eu bwyta, a'r rheini'n benwaig a ddaliwyd yn yr ardaloedd a bennir yn Atodiad IV paragraff 6 gan gychod yn cario rhwydi i'w tynnu ac isafswm maint eu masgl yn llai na 32mm ac wedi'u glanio.

Erthygl 4(2)

ATODLEN 2DARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG SY'N GYMWYS I GYCHOD Y GYMUNED AC UCHAFSWM Y DDIRWY AR GOLLFARNIAD DIANNOD

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Y ddarpariaeth yn Rheoliad y CyngorY pwncUchafswm y ddirwy ar gollfarniad diannod
1. Erthygl 10.Gofyniad mewn perthynas â chychod sy'n cyhwfan baner Norwy neu Ynysoedd Faröe, eu bod yn pysgota o fewn terfynau'r cwota a gynhwysir yn Atodiad I i Erthygl 11(i) o Reoliad y Cyngor, ac o fewn y parth daearyddol a nodir ynddi.£50,000.
2. Erthygl 13.1.Gofyniad mewn perthynas â chychod sy'n cyhwfan baner Norwy (heblaw cychod o lai na 200GT) neu ganddynt drwydded a hawlen bysgota arbennig a'u bod yn cadw amodau'r rheini.£50,000.
3. Erthygl 13.2 .Gofyniad mewn perthynas â chychod sy'n cyhwfan baner Norwy neu Ynysoedd Faröe, eu bod yn cadw trwyddedau a hawlenni pysgota arbennig ar fwrdd y llong.Yr uchafswm statudol.
4. Erthygl 14.1.Gofyniad mewn perthynas â chychod sy'n cyhwfan baner Norwy neu Ynysoedd Faröe, eu bod yn cydymffurfio â'r mesurau ar gadwraeth a rheolaeth a phob darpariaeth arall sy'n llywodraethu pysgota gan gychod y Gymuned yn y parthau o dan sylw, gan gynnwys y mesurau a'r darpariaethau hynny y cyfeirir atynt yn Erthygl 14.1.£50,000.
5. Erthygl 14.2.Gofyniad mewn perthynas â chychod sy'n cyhwfan baner Norwy neu Ynysoedd Faröe, eu bod yn cadw coflyfr i gydymffurfio ag Atodiad VII i Reoliad y Cyngor.£50,000.
6. Erthygl 14.3.Gofyniad mewn perthynas â chychod sy'n cyhwfan baner Norwy, (heblaw'r rhai sy'n pysgota yn adran IIIa ICES) neu longau Ynysoedd Faröe, eu bod yn trosglwyddo gwybodaeth igydymffurfio ag Atodiad VIII i Reoliad y Cyngor.Yr uchafswm statudol.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi yng Nghymru a'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru gyfyngiadau Cymunedol gorfodadwy penodol a rhwymedigaethau eraill sy'n berthnasol i bysgota môr gan gychod Cymunedol a chychod trydydd gwledydd a nodir yn Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 2742/1999 (OJ Rhif L341, 31.12.99, t.1) (“Rheoliad y Cyngor”).

Mae Rheoliad y Cyngor yn sefydlu cyfanswm yr haldiadau a ganiateir a chwotâu yr Aelod-wladwriaethau ar gyfer 2000 ac yn pennu amodau penodol ynglŷn â sut y gellir eu dal.

Mae hefyd yn awdurdodi pysgota gan gychod Norwy ac Ynysoedd Ffaröe am ddisgrifiadau penodedig o bysgod o fewn ardaloedd penodedig y tu mewn i derfynau pysgodfeydd yr Aelod-wladwriaethau yn 2000 ac yn gosod gofynion ynghylch cwotâu pysgota a pharthau a awdurdodwyd, dulliau pysgota, dal trwyddedau a chadw at amodau trwyddedau, cadw coflyfrau, gwneud adroddiadau a materion cyffelyb.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn perthynas â thorri darpariaethau Rheoliad y Cyngor y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 (ac a ddisgrifir yn gryno yng ngholofn 2) o Atodlenni 1 (ar gyfer cychod y Gymuned) a 2 (ar gyfer cychod trydydd gwledydd) i'r Gorchymyn. Pennir cosbau ar gyfer tramgwyddau o'r fath (erthygl 4). Ar hyn o bryd £5,000 yw'r uchafswm statudol y cyfeirir ato yn yr Atodlenni. Gwneir darpariaeth ar gyfer casglu dirwyon (erthygl 5).

Mae'r Gorchymyn yn rhoi pwerau gorfodi i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota penodol o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru ac ar dir yng Nghymru mewn perthynas â chipio pysgod ac offer pysgota (erthyglau 6, 7 ac 8). Gwneir darpariaeth ar gyfer cosbi unrhyw un a geir yn euog o ymosod ar swyddog, neu ei rwystro (erthygl 10).

Mae'r Gorchymyn yn diddymu Gorchymyn Pysgodfeydd Môr (Gorfodi Mesurau Cwota'r Gymuned) 1999 (O.S. 1999/424) a Gorchymyn Pysgota Trydydd Gwledydd (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/425) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

(1)

1981 p.29. Gweler adran 30(3) i gael diffiniadau “cyfyngiad Cymunedol gorfodadwy” (“enforceable Community restriction”), “rhwymedigaeth Gymunedol orfodadwy” (“enforceable Community obligation”) ac “y Gweinidogion” (“the Ministers”) fel y'u diwygiwyd gan Atodlen 2, paragraff 68(5) i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Mae erthygl 3(1) o Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Swyddogaethau Cyfamserol) 1999 (O.S. 1999/1592) ac Atodlen 1 iddi yn darparu i'r swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 gael eu harfer gan y Gweinidogion, yn gyfamserol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â'r canlynol: cychod pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y parth Albanaidd; a chychod pysgota yr Alban o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain ond y tu allan i'r parth Albanaidd (am “y parth Albanaidd” gweler adran 126 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46) a Gorchymyn Ffiniau Dyfroedd Cyfagos at yr Alban 1999 (O.S. 1999/1126)).

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, a swyddogaethau'r Ysgrifenyddion Gwladol ynglŷn â physgota môr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o dan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)

OJ Rhif L341, 31.12.99, t.1.

(6)

OJ Rhif L261, 20.10.93.

(7)

OJ Rhif L301, 14.12.95, t.1.

(8)

OJ Rhif L301, 14.12.95, t.35.

(9)

OJ Rhif L338, 28.12.96, t.12.

(10)

OJ Rhif L102, 19.4.97, t.1.

(11)

OJ Rhif L304, 7.11.97, t.1.

(12)

OJ Rhif L356, 31.12.97, t.14.

(13)

OJ Rhif L358, 31.12.98, t.5.

(14)

A fewnosodwyd gan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820).

(20)

Hynny yw, unrhyw harbwr heblaw harbwr y mae Erthygl 2(24) yn cyfeirio ato.