xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1075 (Cy.69)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

29 Mawrth 2000

Yn dod i rym

1 Ebrill 2000

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(1) ac a freinir ynddo, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru(2) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn:—

(2Yn y Gorchymyn hwn mae unrhyw gyfeiriad at goflyfr, datganiad neu ddogfen yn cynnwys, yn ogystal â choflyfr, datganiad neu ddogfen ysgrifenedig—

(i)unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun,

(ii)unrhyw ffotograff,

(iii)unrhyw ddata, ym mha bynnag ffordd yr hatgynhyrchir, a gyfathrebir trwy system fonitro cychod sy'n seiliedig ar loeren a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93,

(iv)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio synau neu ddata arall (heb fod yn gymhorthion gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu (gyda neu heb gymorth unrhyw gyfarpar arall), a

(v)unrhyw ffilm (gan gynnwys meicroffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu ohonynt.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn—

(a)at Atodlen yn gyfeiriad at Atodlen i'r Gorchymyn hwn; a

(b)at offeryn y Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i offeryn o'r fath ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn;

(c)at Erthygl wedi'i rifo o Reoliad y Cyngor 2847/93 yn gyfeiriad i'r Erthygl a rifwyd felly yn y Rheoliad hwnnw wrth ei ddarllen gydag unrhyw reolau manwl ar gyfer dehongli'r Erthygl hwnnw a ragnodir yn yr eitem briodol yng ngholofn 2 o'r Atodlen.

(4Ni ddylid darllen colofn 3 o'r Atodlen (sy'n dangos pwnc pob mesur rheoli'r Gymuned) mewn modd sy'n cyfyngu cwmpas unrhyw fesur rheoli'r Gymuned a dylid ei anwybyddu mewn perthynas ag unrhyw gwestiwn sy'n codi ynglŷn â dehongli'r Gorchymyn hwn.

Tramgwyddo

3.—(1Pan fydd, mewn cysylltiad ag—

(a)unrhyw gwch pysgota o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru(22);

(b)unrhyw fynediad i'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru gan unrhyw gwch pysgota; neu

(c)unrhyw gynhyrchion pysgodfeydd, tir ac adeiladau neu gerbyd yng Nghymru,

mesur rheoli'r Gymuned a ragnodir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn cael ei dorri, neu fethiant i gydymffurfio ag ef, bydd y personau a bennir yn yr eitem briodol yng ngholofn 5 o'r Atodlen yn euog o dramgwyddo.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) bydd unrhyw berson sydd yn honni cydymffurfio ag Erthyglau 6, 7, 8.1, 9.1, 9.2, 9.5, 11, 12, 13 neu 17.2, Erthyglau 19b a 19c neu Erthyglau 19e, 20.2, 28.2a, 28c, 28e neu 28f o Reoliad 2847/93 drwy roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei fod yn anghywir mewn manylyn perthnasol, neu sy'n rhoi gwybodaeth sy'n anghywir mewn manylyn perthnasol yn fyrbwyll, yn euog o dramgwydd.

(3Mae paragraff (2) yn gymwys i roddi unrhyw wybodaeth —

(a)yng Nghymru (sy'n cynnwys y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru),

(b)i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth o dan Erthygl 6 neu 7 o'r Gorchymyn hwn,

(c)mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd gan gwch pysgod Prydeinig perthnasol, i'r awdurdodau cymwys mewn Aelod-Waldwriaeth arall o fewn ystyr Rheoliad 2847/93.

Cosbi

4.—(1Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan Erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, os y bu i'r achos gael ei ddwyn yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na'r swm a bennir yn yr eitem briodol yng ngholofn 4 o'r Atodlen;

(b)ar gollfarn ar inditiad, i ddirwy.

(2Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan Erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, os y bu i'r achos gael ei ddwyn yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, wedi'i seilio ar doriad o, neu fethiant i gydymffurfio ag—

(a)Erthyglau 19a.2, 20.1, 20a neu 21c.2 o Reoliad 2847/93 hefyd yn agored—

(i)i fforffedu unrhyw rwyd neu offer pysgota arall y cyflawnwyd y dramgwydd mewn cysylltiad ag ef, neu a ddefnddiwyd ar gyfer cyflawni'r tramgwydd, neu a ddefnyddiwyd ar gyfer dal unrhyw bysgod arall y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad â hwy; a

(ii)i fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y dramgwydd mewn cysylltiad â nhw, neu, ar gollfarn ddiannod yn unig, i ddirwy o ddim mwy na gwerth unrhyw bysgod y cyflawnwyd y dramgwydd mewn cysylltiad â nhw; neu

(b)Erthyglau 6, 8.1, 9, 11, 12, 13 neu 17.2, Erthyglau 19b a 19c neu Erthyglau 19e, 20.2, 28c (mewn perthynas â'r gofynion ynglŷn â choflyfr a nodi dalfeydd ar fwrdd y cwch) neu 28d o Reoliad 2847/93 hefyd yn agored i fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad â nhw, neu i ddirwy o ddim mwy na gwerth y pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad â nhw.

(3Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan Erthygl 3(2) o'r Gorchymyn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, os y bu i'r achos gael ei ddwyn yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, hwn yn agored —

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na £50,000;

(b)ar gollfarn ar inditiad, i ddirwy.

Casglu Dirwyon

5.—(1Pan orfodir dirwy gan lys ynadon ar feistr, perchennog, siartrwr, person sy'n gyfrifol am gwch neu unrhyw berson arall a gollfernir gan y llys o dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan Erthygl 10 o'r Gorchymyn hwn, caiff y llys, at ddibenion casglu'r ddirwy, —

(a)gyhoeddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â chyflawni'r dramgwydd a'i offer a'i haldiad ac unrhyw eiddo'r person a gollfarnwyd at bwrpas casglu swm y ddirwy; neu

(b)wneud gorchymyn i atal y cwch a'i offer a'i dalfa am gyfnod o ddim mwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu'r dyddiad y telir y ddirwy neu y cesglir y ddirwy yn unol â gwarant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.

(2Bydd Adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(23) (gohirio cyhoeddi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warantau atafaelu a gyhoeddir o dan yr Erthygl hwn yn y modd y maent yn gymwys i warantau atafaelu a gyhoeddwyd o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

(3Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy mewn cysylltiad â thramgwydd perthnasol yn cael ei wneud o dan adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980, Erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981(24) neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Troseddol (yr Alban) 1995(25) ac yn pennu rhanbarth llys ynadon yng Nghymru, bydd yr Erthygl hwn yn gymwys fel petai'r ddirwy wedi ei rhoi gan lys o fewn y rhanbarth llys ynadon hwnnw.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota

6.—(1At ddibenion gorfodi Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, wedi'i wneud er mwyn gweithredu mesur rheoli'r Gymuned, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig weithredu mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota arall sydd o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru y pwerau a freiniwyd gan baragraffau (2) i (4) o'r Erthygl hwn.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo, a chaiff fynnu bod y cwch yn stopio a gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n hwyluso un ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arni.

(3Caiff y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw berson arall sydd ar y cwch a chaiff wneud archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a nodwyd ym mharagraff (1) o'r Erthygl hwn ac, yn arbennig—

(a)caiff chwilio am bysgod neu offer pysgota ar y cwch a chaiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a chaiff fynnu bod pobl sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;

(b)caiff fynnu bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng ngwarchodaeth neu feddiant y person hwnnw;

(c)at bwrpas canfod a oes tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen a gall fynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;

(ch)arolygu, copïo a chadw meddiant yn ystod y chwilio, archwilio ac arolygu y darparwyd ar ei gyfer o dan yr Erthygl hwn, o unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu a ddeuir o hyd iddo ar fwrdd y cwch,

(d)heb ragfarn i is-baragraffau (c) a (ch), gall fynnu bod y meistr ac unrhyw berson sydd am y tro yn gyfrifol am y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfennau o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol mewn ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys mynnu bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd a hi oddi yno; ac

(dd)os oes gan y swyddog reswm dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gymryd a chadw unrhyw ddogfen a gyflwynir neu a ddeuir o hyd iddhi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos ynglŷn â'r tramgwydd;

ond nid yw unrhyw beth yn is-baragraff (dd) uchod yn caniatáu cymryd a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei ddal mewn porthladd.

(4Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff—

(a)fynnu bod meistr y cwch y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu chaiff y swyddog wneud hynny ei hun; a

(b)ddal, neu fynnu bod y meistr yn dal, y cwch yn y porthladd;

a phan fydd swyddog o'r fath yn dal, neu'n mynnu bod y cwch yn cael ei ddal, rhaid iddo gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig y bydd, neu fod, angen dal y cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig ar y tir

7.—(1At bwrpas gorfodi darpariaethau Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, wedi'i wneud er mwyn gweithredu mesur rheoli'r Gymuned, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, yng Nghymru —

(a)fynd i mewn ac archwilio ar unrhyw adeg rhesymol unrhyw adeiladau a ddefnyddir ar gyfer rhedeg busnes mewn cysylltiad â gweithio cychod pysgota neu unrhyw weithgarwch sy'n gysylltiedig â hynny neu'n ategol ato neu mewn cysylltiad â thrin, cadw a gwerthu pysgod môr;

(b)cymeryd gydag ef neu hi unrhyw bersonau eraill sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar ac offer;

(c)archwilio unrhyw bysgod yn yr adeiladau a mynnu bod unrhyw bersonau yno'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;

(ch)cyflawni yn yr adeiladau o'r fath unrhyw archwiliadau ac arbrofion eraill a fydd yn rhesymol angenrheidiol;

(d)mynnu na fydd neb yn cael gwared neu beri i rywun gael gwared ar unrhyw bysgod o adeiladau o'r fath yn ystod y cyfnod a fydd yn rhesymol angenrheidiol i sefydlu os cyflawnwyd tramgwydd perthnasol ar unrhyw adeg;

(dd)mynnu fod unrhyw berson yn yr adeiladau yn cyflwyno unrhyw ddogfennau yn eu gwarchodaeth neu feddiant mewn perthynas â dal, dadlwytho, cario, trawslwytho, gwerthu neu gael gwared ar unrhyw bysgod môr;

(e)(at bwrpas canfod a oes unrhyw berson wedi cyflawni tramgwydd perthnasol) chwilio'r adeiladau am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw berson yn yr adeiladau'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;

(f)arolygu a chymeryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau;

(ff)fynnu bod unrhyw berson addas neu gyfrifol yn cyflwyno unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol mewn ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys mynnu bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd a hi oddi yno; ac

(g)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff gymryd a chadw unrhyw ddogfen a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau at bwrpas galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos ynglŷn â'r tramgwydd.

(2Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys, gyda'r newidiadau angenrheidiol, mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol dros gredu ei fod wedi cael ei ddefnyddio i gario cynhyrchion pysgodfeydd, yn yr un modd ac y maent yn gymwys i adeiladau, ac yn achos cerbyd maent yn cynnwys yr hawl i fynnu ar unrhyw adeg bod cerbyd yn stopio, ac, os oes angen, i gyfarwyddo'r cerbyd i ryw fan arall i hwyluso'r archwilio.

(3Os yw ynad heddwch ar ôl derbyn datganiad ysgrifenedig ar lw wedi'i fodloni —

(a)bod sail rhesymol dros gredu bod unrhyw ddogfennau neu eitemau eraill y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig hawl i'w harchwilio o dan yr Erthygl hon ar unrhyw dir neu yn unrhyw adeilad a bod eu harchwilio yn debyg o ddatgelu tystiolaeth bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni; a

(b)naill ai—

(i)bod mynediad i'r tir ac adeiladau wedi'i wrthod neu'n debyg o gael ei wrthod a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roddi i'r meddiannydd; neu

(ii)y byddai cais am fynediad neu roi hysbysiad o'r fath yn rhwystro bwriad y mynediad i'r tir ac adeiladau, neu fod y tir ac adeiladau yn wag, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai rwystro'r bwriad petaent yn aros i'r meddianydd ddychwelyd;

fe gaiff yr ynad lofnodi warant fydd yn ddilys am fis, a fydd yn awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig i fynd ar y tir ac i'r adeiladau, gan ddefnyddio grym rhesymol petai angen, ac i fynd a'r bobl y mae'r swyddog yn credu sydd eu hangen.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig i atafaelu pysgod ac offer pysgota

8.   Yng Nghymru (sy'n cynnwys y môr tiriogaethol sy'n gyfochrog â Chymru) caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota, atafaelu—

(a)unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy'n dal y pysgod) y mae gan y swyddog sail resymol dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad â hwy, a'r tramgwydd hwnnw wedi'i seilio ar dorri neu fethu a chydymffurfio ag Erthyglau 6, 8.1, 9, 11, 12, 13, 17.2 neu 19a.2, Erthyglau 19b a 19c, Erthyglau 19e, 20.2 neu 21c.2 neu Erthyglau 28c neu 28d o Reoliad 2847/93;

(b)unrhyw bysgod a ddaliwyd gan rwyd y mae gan y swyddog sail resymol dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad ag ef a'r tramgwydd hwnnw wedi'i seilio ar dorri neu fethu a chydymffurfio ag Erthyglau 20.1 neu 20a o Reoliad 2847/93; ac

(c)unrhyw rwyd neu offer pysgota arall—

(i)y mae gan y swyddog sail resymol dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad ag ef a'r tramgwydd hwnnw wedi'i seilio ar dorri neu fethu a chydymffurfio ag Erthyglau 20.1 neu 20a o Reoliad 2847/93; neu

(ii)y mae gan y swyddog sail resymol dros amau ei fod wedi cael ei ddefnyddio i ddal pysgod a bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad â hwy a'r tramgwydd hwnnw wedi'i seilio ar dorri neu fethu a chydymffurfio ag Erthyglau 19a.2 neu 21c.2 o Reoliad 2847/93.

Amddiffyn swyddogion

9.  Ni fydd swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig neu berson sy'n ei gynorthwyo yn rhinwedd Erthyglau 6(2) neu 7(1)(b) o'r Gorchymyn hwn yn agored i achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wnaeth drwy arfer honedig o'r pwerau a freiniwyd ynddo neu ynddi yn rhinwedd Erthygl 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn os yw'r llys wedi'i fodloni fod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros wneud hynny a'i bod wedi'i gwneud gyda gallu a gofal rhesymol.

Rhwystro etc.

10.  Bydd unrhyw berson sydd —

(a)heb esgus rhesymol yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a freiniwyd ynddo yn rhinwedd Erthyglau 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn;

(b)heb esgus rhesymol yn rhwystro unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofynion o'r fath; neu

(c)yn rhwystro unrhyw swyddog o'r fath sy'n arfer unrhyw un o'r pwerau hynny,

yn euog o dramgwydd ac yn agored—

(i)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na'r uchafswm statudol; neu

(ii)ar gollfarn ar inditiad, i ddirwy.

Darpariaethau ynglŷn â thramgwyddau ac achosion

11.—(1Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn wedi'i gyflawni gan gorff corfforedig â chydsyniad neu gymeradwyaeth cyfarwyddydd, rheolydd, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb o'r corff corfforedig, neu y gellir ei briodoli i fethiant person o'r fath, bydd, yn ogystal â'r corff corfforedig, yn euog o dramgwydd ac felly yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn wedi'i gyflawni gan bartneriaeth gyda chydsyniad neu gymeradwyaeth partner, neu y gellir ei briodoli i fethiant partner, bydd, yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o dramgwydd ac felly yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(3Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn wedi'i gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth) gyda chydsyniad neu oddefiad swyddog o'r gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu neu y gellir ei briodoli i fethiant person o'r fath, bydd, yn ogystal a'r gymdeithas anghorfforedig, yn euog o dramgwydd ac felly yn agored i achos a chosb.

Derbynioldeb coflyfrau a dogfennau eraill fel tystiolaeth

12.—(1Bydd unrhyw

(a)goflyfr a gedwir o dan Erthyglau 6, 17.2 neu 28c;

(b)ddatganiad a gyflwynir o dan Erthyglau 8.1, 11, 12, 17.2 neu 28f;

(c)adroddiad ymdrech a gwblhawyd o dan Erthyglau 19b ac 19c;

(ch)ddogfen a baratoir o dan Erthyglau 9 neu 13;

(d)ddogfen sy'n cynnwys gwybodaeth a fynnwyd ac a dderbynniwyd gan ganolfan monitro pysgodfeydd a sefydlwyd o dan Erthygl 3.7,

(2At ddibenion paragraff (1) bydd “gwybodaeth a fynnwyd” yn golygu data sy'n gysylltiedig ag—

(a)manylion adnabod y cwch pysgota;

(b)lleoliad daearyddol diweddaraf y cwch pysgota, wedi'i gyfleu mewn graddau a munudau lledredd a hydred; ac

(c)y dyddiad a'r amser pan sefydlwyd y safle hwnnw, fel y cyfathrebir trwy system fonitro cychod sy'n seiliedig ar loeren a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Rheoliad 2847/93.

Diddymu

13.  Diddymir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) 1994(26) a Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Diwygio) 1996(27), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998

D. Elis Thomas

Y Llywydd

29 Mawrth 2000

Erthyglau 3 a 4(1) a (2)

ATODLENMESURAU RHEOLI'R GYMUNED, Y BYDDAI EU TORRI YN DRAMGWYDD

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4Colofn 5
Darpariaeth y GymunedRheolau ManwlTestunUchafswm y ddirwy ar gollfarn ddiannodY person atebol
1. Rheoliad 1382/87
(a) Erthygl 3.1Gofynion i aros, symud neu gyflawni unrhyw weithred arall i hwyluso mynd ar y cwch.Yr Uchafswm StatudolY meistr, y perchennog, y siartrwr (os oes un), ac unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y cwch.
(b) Erthygl 3.2 ac Atodiad IIDarparu ysgol i fynd ar y cwch.Yr Uchafswm StatudolY meistr, y perchennog, y siartrwr (os oes un), ac unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y cwch.
(c) Erthygl 3.3Defnyddio offer cyfathrebu a pherson i'w ddefnyddio.Yr Uchafswm StatudolY meistr, y perchennog, y siartrwr (os oes un), ac unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y cwch.
2. Rheoliad 2847/93
(a) Erthygl 4.2Gofynion i gydweithio i hwyluso archwilio cychod pysgota, tir ac adeiladau a cherbydau cario.Yr Uchafswm StatudolY meistr, y perchennog, y siartrwr (os oes un), ac unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y cwch, neu, yn ôl y galw, y person sydd â chyrifoldeb am y tir ac adeiladau neu'r cerbyd.
(b) Erthygl 6Erthygl 1 o Reoliad 2807/83 ac Atodiadau I, II, IIa, IV, V, VI a VII iddoGofynion i gadw coflyfr mewn ffurf y gellir ei ddarllen ar gyfrifiadur neu ar bapur, i gychod pysgota 10 metr neu fwy o hyd, a'i gyflwyno i'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n cyhwfan ei baner a'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n dadlwytho pysgod ynddi, os yn wahanol, o fewn 48 awr o'r dadlwytho.£50,000Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(c) Erthygl 7

Gofynion i gwch pysgota'r Gymuned sydd am lanio dalfa mewn Aelod— Wladwriaeth wahanol i'r un y mae'n cario ei baner i

(a)

cydymffurfio â gofynion unrhyw gynllun porthladdoedd cofrestredig a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 38 o Reoliad 2847/93 gan yr Aelod-Wladwriaeth y bwriedir dadlwytho'r ddalfa yn ei pharth; neu

(b)

os nad oes cynllun o'r fath wedi'i sefydlu, i roi o leia 4 awr o rybudd ymlaen llaw (neu 2 awr pan fo erthygl 1 o Reoliad 728/1999(28) yn gymwys) i awdurdod rheoli yr Aelod-Wladwriaeth y mae'n bwriadu dadlwytho'r ddalfa yn ei pharth o

£50,000Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(i)

leoliad y dadlwytho ac amcangfyrif o'r amser cyrraedd; a

£50,000
(ii)

maint y ddalfa o bob rhywogaeth sydd i'w dadlwytho.

£50,000
(ch) Erthygl 8.1Erthygl 2 o Reoliad 2807/83 ac Atodlenni I, IIa, III, IV, a V.Gofynion i gyflwyno datganiad dadlwytho o faint dalfeydd pob rhywogaeth a'r ardal y daliwyd hwynt, wedi bob taith ac o fewn 48 awr o ddadlwytho, i'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n cyhwfan ei baner ac Aelod-Wladwriaeth y dadlwytho, os yw'n wahanol, ar gyfer cychod 10 metr neu fwy o hyd.£50,000Y meistr, ei gynrychiolydd, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(d) Erthygl 9.1 wedi'i ddarllen gydag Erthygl 9.5Gofynion i gyflwyno nodyn gwerthu wedi'i gwblhau o fewn 48 awr i'r gwerthiant, pan fydd y marchnata cyntaf o gynhyrchion pysgodfeydd yn cael ei wneud gan ganolfan ocsiwnia neu gan berson neu gorff wedi'i awdurdodi.£50,000Gwerthwr cyntaf y pysgod.
(dd) Erthygl 9.2 wedi'i ddarllen gydag Erthyglau 9.3, 9.4, 9.4b, 9.5 a 13

Gofynion i gyflwyno'r canlynol cyn y bydd y cynhyrchion yn cael eu casglu:—

(a)

nodyn gwerthu wedi'i gwblhau (pan fydd cynhyrchion wedi eu gwerthu neu yn cael eu cynnig i'w gwerthu yn y man dadlwytho); neu

(b)

copi o ddogfen gario (pan fydd cynhyrchion wedi'u cynnig i'w gwerthu mewn lleoliad gwahanol i'r man dadlwytho); neu

(c)

datganiad cymryd trosodd wedi'i gwblhau (os na fydd y cynhyrchion i gael eu cynnig ar gyfer eu gwerthu neu y —bwriedir eu gwerthu ar ddyddiad diweddarach) pan fydd y marchnata cyntaf o'r cynhyrchion pysgodfeydd i'w wneud heb fod yn unol ag erthygl 9.1 o Reoliad 2847/93.

£50,000

Ynglŷn â'r gofynion i gyflwyno —

(a)

nodyn gwerthiant wedi'i gwblhau — prynwr y pysgod;

(b)

dogfen gario — cariwr y pysgod;

(c)

datganiad cymeryd trosodd wedi'i gwblhau — perchennog y pysgod a'i asiant (os oes un).

(e) Erthygl 9.5 wedi'i ddarllen gydag Erthygl 9.2Gofynion i —Ynglŷn â'r gofynion i —
(a)

gyflwyno nodyn gwerthu o fewn 48 awr o'r dadlwytho neu'r marchnata cyntaf o gynhyrchion (ar wahân i achosion pan fydd rhaid cyflwyno nodyn gwerthu cyn casglu'r cynhyrchion) ac atodi, pan fydd angen, copi o'r ddogfen gario mewn perthynas â'r cynhyrchion;

£50,000
(a)

nodyn gwerthiant, prynwr y pysgod;

(b)

i gyflwyno datganiad cymeryd drosodd o fewn 48 awr o lanio'r dalfeydd (heblaw pan fydd angen cyflwyno'r datganiad cymeryd trosodd cyn casglu'r cynhyrchion);

£50,000
(b)

datganiad cymeryd drosodd, perchennog y pysgod a'i asiant, os oes un;

(c)

anfon copi o'r ddogfen gario i'r awdurdodau cymwys yn yr Aelod-Wladwriaeth lle digwyddodd y marchnata cyntaf, pan fydd y marchnata cyntaf yn digwydd mewn Aelod-Wladwriaeth wahanol i'r un y dadlwythwyd y pysgod ynddi.

£50,000
(c)

dogfen gario, cariwr y pysgod.

(f) Erthygl 11Gofynion i gadw a hysbysu manylion o unrhyw drawslwytho yn unrhyw le, a dadlwytho cyflenwad y tu allan i diriogaeth y Gymuned, mewn cysylltiad ag unrhyw gwch trawslwytho, y cwch sy'n derbyn a chwch trydedd gwlad.£50,000Y meistr; y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(ff) Erthygl 12Gofynion i gadw a hysbysebu o fewn 15 diwrnod o'r ddalfa, y manylion a fynnir o dan erthyglau 8 ac 11 o Reoliad 2847/93 pan fydd trawslwytho neu lanio yn digwydd fwy na 15 diwrnod wedi'r ddalfa.£50,000Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(g) Erthygl 13

Pan fydd cynhyrchion pysgodfeydd yn cael eu cario y tu allan i safle'r porthladd dadlwytho neu le mewnforio—

(a)

(ac nid yw'r gwerthiant cyntaf wedi digwydd) gofynion i ddarparu dogfen gario wedi'i chwblhau a sicrhau ei bod yn mynd gyda'r cynhyrchion pysgodfeydd hyd y gwerthiant cyntaf;

(b)

(a phan fydd datganiad wedi'i wneud fod y nwyddau wedi'u gwerthu yn unol ag erthygl 9 o Reoliad 2847/93) gofynion i brofi ar bob adeg drwy dystiolaeth ddogfennol bod gwerthiant wedi digwydd.

£50,000Cariwr y pysgod
(ng) Erthygl 17.2Erthyglau 1 a 2 o Reoliad 2807/83 ac Atodiadau I, II, IIa, IV, V, VI a VII iddoMewn cysylltiad â dalfeydd a wnaed y tu allan i ddyfroedd y Gymuned, gofynion i—Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(a)

cadw coflyfr yn cofnodi dalfeydd; a

£50,000
(b)

cyflwyno datganiad dadlwytho, i'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n cyhwfan ei baner a'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n dadlwytho pysgod ynddi, os yw'n wahanol, pan fydd yn dadlwytho mewn porthladd yn y Gymuned; ac

£50,000
(c)

cyflwyno manylion trawslwytho i gychod pysgota trydedd gwlad neu ddadlwytho mewn trydydd gwledydd.

£50,000
(h) Erthygl 19a.2Gwahardd gweithgareddau pysgota yn yr ardaloedd a bennwyd yn erthygl 19a.1 ac 19a.1a o Reoliad 2847/93 mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn ac nas awdurdodwyd gan Aelod-Wladwriaethau yn unol ag Erthyglau 2, 3, 5 a 9 o Reoliad y Cyngor (CEE) Rhif 685/95 ar reoli ymdrechion pysgota mewn perthynas â rhai ardaloedd ac adnoddau pysgota'r Gymuned(29) Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 779/97 a gyflwynodd drefniadau ar gyfer rheoliymdrechion pysgota yn y Môr Baltig(30).£50,000Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(i) Erthyglau 19b ac 19cErthygl 3a o Reoliad 2807/83 ac Atodlenni VIIIa a VIIIb a Rheoliad 1449/98Gofynion mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn a awdurdododd gyflawni gweithgareddau pysgota a anelwyd at rywogaethau dyfnforol i gyflwyno adroddiad ymdrech sy'n cynnwys yr wybodaeth a ragnodwyd gan Erthygl 19b o Reoliad 2847/93 wedi'i ddarllen gyda Rheoliad 1449/98—Y meistr, ei gynrychiolydd, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(a)

drwy un o'r dulliau a ragnodwyd yn erthygl 19c.1 (wedi'i ddarllen gydag Erthygl 19c.3) o Reoliad 2847/93 neu, yn achos cychod sy'n cyflawni gweithgareddau pysgota yn nyfroedd y Wladwriaeth y cofrestrwyd hwy ynddi, yn unol â threfniadau a fabwysiadwyd o dan ail gil-osodiad Erthygl 19c.2 o Reoliad 2847/93;

£50,000
(b)

i roi gwybod am dano i'r awdurdodau a ragnodwyd yn Erthygl 19c.1 o Reoliad 2847/93;

£50,000
(c)

ar yr amser neu'r amserau a ragnodwyd yn Erthygl 19c.1 o Reoliad 2847/93 neu —

(i)

yn achos cychod sy'n cyflawni pysgota trawsbarthol fel y'i diffiniwyd yn Erthygl 19b.2, ac a ragnodwyd yn Erthygl 19b.2 a 19c.2, cil osodiad cyntaf, Rheoliad 2847/93;

(ii)

yn achos cychod sy'n treulio llai na 72 o oriau ar y môr, a ragnodwyd yn Erthygl 19c.2, trydydd cil-osodiad, o Rheoliad 2847/93 (gan gynnwys gofynion, yn yr achos hwnnw, i roi gwybod am newidiadau sy'n digwydd yn y wybodaeth a ddarperir yn yr adroddiad).

£50,000
(l) Erthyglau 19e.1 a 19e.2Erthygl 1a o Reoliad 2807/83 ac Atodiadau I, IVa a VIa iddoGofynion mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn i gofnodi mewn coflyfrau yr wybodaeth (ynglŷn ag amser a dreuliwyd ar y môr) a ragnodwyd yn Erthygl 19e.1 o Reoliad 2847/93 neu, yn achos cychod sy'n pysgota'n drawsbarthol fel y diffiniwyd yn Erthygl 19b.2, ac a ragnodwyd yn Erthygl 19e.2 o Reoliad 2847/93.£50,000Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(ll) Erthygl 19.3Erthygl 1a o Reoliad 2807/83 ac Atodiadau I, IVa a VIa iddoGofynion mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn a awdurdododd gyflawni gweithgareddau pysgota a anelwyd at rywogaethau dyfnforol i gofnodi mewn coflyfrau adroddiad ymdrech yn cynnwys yr wybodaeth a ragnodwyd yn Erthygl 19b o Reoliad 2847/93.£50,000Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(m) Erthygl 20.1Gofynion i gadw rhwydau ar gychod pysgota'r Gymuned, pan na fyddant yn cael eu defnyddio.Yr Uchafswm StatudolY meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(n) Erthygl 20.2Gofynion mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned i gofnodi mewn coflyfrau a datganiadau dadlwytho bob newid mewn maint rhwydwaith a chyfansoddiad y ddalfa ar adeg y newid.£50,000Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(o) Erthygl 20aGofynion mewn perthynas a chario, defnyddio a chadw offer ar gychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn sy'n cyflawni gweithgareddau pysgota yn yr ardaloedd a bennwyd yn Erthygl 19a.1 o Reoliad 2847/93.Yr Uchafswm StatudolY meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(p) Erthygl 21c.2Gwaharddiad mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned rhag cyflawni gweithgareddau pysgota mewn pysgodfa o'r dyddiad, a bennir gan Gomisiwn y Gymuned Ewropeaidd, y tybir bod uchafswm ymdrech bysgota'r Wladwriaeth honno ar gyfer y bysgodfa honno wedi ei gyrraedd.£50,000Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(ph) Erthygl 28.2aGofynion i brofi tarddiad daearyddol neu darddiad dyframaethol y cynhyrchion, pan fydd cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu cynnig i'w gwerthu, eu cadw neu eu cario, yn llai na lleiafswm y maint a osodir ar gyfer y rhywogaeth honno yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad 3760/92.Yr Uchafswm StatudolY person sy'n gyfrifol am werthu, cadw, neu gario'r pysgod.
(r) Erthygl 28b.1Gwaharddiad ar ddal, cadw ar fwrdd cwch, neu brosesu cynhyrchion pysgodfeydd gan gychod pysgota trydedd gwlad oni bai eu bod wedi eu trwyddedu a bod caniatâd pysgota arbennig wedi'i roi iddynt yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor (CE) 1627/94(31).£50,000Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(rh) Erthygl 28cGofynion i gychod pysgota trydydd gwledydd sy'n gweithredu ym mharth pysgota'r Gymuned —Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(a)

cofnodi mewn coflyfr yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rheoliad 6 o Reoliad 2847/93;

£50,000
(b)

i gydymffurfio â system ar gyfer adrodd dalfeydd a gedwir ar y cwch;

£50,000
(c)

i gydymffurfio â gorchmynion yr awdurdodau sy'n gyfrifol am fonitro a chwilio;

Yr Uchafswm Statudol
(ch)

i gydymffurfio â'r rheolau ar farcio ac adnabod cychod pysgota a'u hoffer.

Yr Uchafswm Statudol
(s) Erthygl 28dGwahardd cychod pysgota trydydd gwledydd rhag pysgota, cadw ar fwrdd y cwch, trawslwytho a dadlwytho cyflenwad sy'n ddarostyngedig i gwota o'r dyddiad, a bennwyd gan Gomisiwn y Cymunedau Ewropeaidd, pan dybir bod y cyflenwad wedi'i ddihysbyddu.£50,000Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(t) Erthygl 28eGofynion i gwch bysgota trydedd gwlad sydd am ddadlwytho dalfa mewn Aelod-WladwriaethY meistr, ei gynrychiolydd, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).
(a)

i roi o leiaf 72 awr o rybudd i awdurdod rheoli'r Aelod-Wladwriaeth y bwriedir dadlwytho pysgod yn ei pharth o —

(i)

amser cyrraedd y porthladd dadlwytho,

£50,000
(ii)

y dalfeydd a gedwir ar fwrdd y cwch,

£50,000
(iii)

y parth neu'r parthau lle cafwyd y dalfeydd;

£50,000
(b)

i gael ei awdurdodi gan awdurdod cymwys yr Aelod-Wladwriaeth cyn y bydd dadlwytho'n dechrau.

£50,000
(th) Erthygl 28f

Gofynion i gychod trydydd gwledydd gyflwyno, o fewn 48 awr o lanio, ddatganiad o —

(a)

lwyth y cynhyrchion pysgodfeydd a laniwyd yn ôl eu rhywogaeth; a

(b)

y dyddiad a'r lleoliad lle cafwyd y ddalfai

awdurdod cymwys yr Aelod-Wladwriaeth y dadlwythwyd y cynhyrchion pysgodfeydd ynddi.

£50,000Y meistr, ei gynrychiolydd, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diddymu Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) 1994 (“Gorchymyn 1994”) a Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Diwygio) 1996, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Sefydlwyd y gyfundrefn reoli ar gyfer y polisi pysgodfeydd cyffredinol gan Reoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93 (“Y Rheoliad Rheoli”). Ceir manylion o dan y cyfeirnod (O.J. Rhif L261, 20.10.93, t.1).

Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad y Cyngor (CE) 2846/98. (Gweler O.J. Rhif L192, 8.7.98, t.4).

Er mwyn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Cyngor, mae'r Gorchymyn hwn yn bennaf yn ail-ddeddfu darpariaethau Rheoliad 1994 gan gyflwyno rhai darpariaethau newydd yn ogystal.

Mae'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn cysylltiad â thoriadau o'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 (ac a ddisgrifir yn gryno yng ngholofn 3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ac yn Erthygl 3 ohono.

Mae'r diwygiadau i'r Rheoliad Rheoli sydd wedi'u gwneud gan Reoliad y Cyngor (CE) rhif 2846/98 yn cynnwys yn arbennig —

1.  y gofyn i gadw coflyfr yn gysylltiedig â llwythi o bysgod dros 50kg;

2.  y gofyn i gychod sydd am ddadlwytho dalfeydd i Aelod-Wladwriaeth gwahanol i Aelod-Wladwriaeth eu baner gydymffurfio â gofynion cynllun porthladdoedd dynodedig (os oes un) neu roi 4 awr o rybudd i awdurdodau cymwys yr Aelod-Wladwriaeth dadlwytho o'u bwriad i ddadlwytho;

3.  rheolau newydd ynglŷn â chyflwyno nodiadau gwerthu, datganiadau trafnidiaeth a datganiadau cymryd trosodd; a

4.  estyn nifer o ofynion i gychod pysgota trydydd gwledydd.

(1)

1981 p.29. Gweler adran 30(3) am ddiffiniadau “cyfyngiad Cymunedol gorfodadwy” (enforceable Community restriction), “rhwymedigaeth Cymunedol gorfodadwy” (enforceable community obligation) ac “y Gweinidogion” (the Ministers), fel y diwygiwyd gan Atodlen 2 paragraff 68(5) i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Mae Erthygl 3(1) o Orchymyn Deddf yr Alban (Swyddogaethau Cydgyfeiriol) 1999 (O.S. 1999/1592) ac Atodlen 1 iddo yn darparu bod y swyddogaethau o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 i gael eu gweithredu gan y Gweinidogion, yn gydgyfeiriol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â chychod pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y parth Albanaidd; a chychod pysgota Albanaidd o fewn ffiniau pysgota Prydain ond y tu allan i'r parth Albanaidd (am “y parth Albanaidd” gweler adran 126 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46) a Gorchymyn Ffiniau Dyfroedd Cyfagos yr Alban 1999 (O.S. 1999/1126)).

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â physgota môr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o dan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y bônt yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.

(4)

OJ Rhif L276 10.10.83, t.1.

(5)

OJ Rhif L53 25.2.89, t.34.

(6)

OJ Rhif L308, 21.12.95, t.18.

(7)

OJ Rhif L50, 20.2.98, t.17.

(8)

OJ Rhif L196, 14.7.98, t.3.

(9)

OJ Rhif L328, 22.12.99. t.54.

(10)

OJ Rhif L132, 21.5.87, t.11.

(11)

OJ Rhif L261, 20.10.93, t.1.

(12)

OJ Rhif L301, 14.12.95, t.1.

(13)

OJ Rhif L301, 14.12.95, t.35.

(14)

OJ Rhif L338, 28.12.96, t.12.

(15)

OJ Rhif L102, 19.4.97, t.1.

(16)

OJ Rhif L304, 7.11.97, t.1.

(17)

OJ Rhif L356, 31.12.97, t.14.

(18)

OJ Rhif L358, 31.12.98, t.5.

(19)

OJ Rhif L192, 8.7.98, t.4.

(20)

A fewnosodwyd gan Orchymyn Deddf yr Alban Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820).

(21)

1998 p.38.

(22)

At ddibenion y Gorchymyn hwn dehonglir “môr tiriogaethol cyfagos at Gymru” yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987 (p.47) a gyda unrhyw ddarpariaethau a wnaed, neu sydd ag effaith fel petaent wedi eu gwneud, o dan yr adran honno. Bydd y ffin rhwng y darnau hynny o Aberoedd yr Hafren a'r Ddyfrdwy sydd i'w hystyried fel môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r darnau sydd ddim, i'w pennu yn unol ag Erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(23)

1980 p.43.

(25)

1995 p.46.

(28)

Darparodd Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 728/1999, (yn unol ag Erthygl 7(3) o Rheoliad 2847/93), am gyfnod o hysbysiad ar gyfer cychod pysgota'r Gymuned oedd yn ymwneud â gweithgareddau pysgota ym Môr y Baltig, y Skagerrak a'r Kattegat (O.J. Rhif L93, 8.4.1999, t.10).

(29)

OJ Rhif L71, 31.3.95, t.5. Mae'r darpariaethau a osodir yn Erthyglau 2 a 3 o Reoliad 685/95 yn gymwys i gychod y Gymuned sydd fwy na 15 metro hyd rhwng sythlinau yn unig. O dan Erthygl 19a.2 o Reoliad 2847/93 bernir bod cychod sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau yn gydradd â chychod dros 18 metr o hyd cyflawn. Mae Erthygl 19f.3 o Reoliad 2870/95 yn mynnu bod Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd yn sicrhau bod Aelod-Wladwriaethau yn gyfrifol am reoli a bod ganddynt ar gael manylion ynglŷn ag adnabod cychod pysgota sydd â mynediad i'w dyfroedd.

(30)

OJ Rhif L113, 30.4.97, t.1.

(31)

Mae Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1627/94 yn gosod allan darpariaethau cyffredinol ynglŷn â chaniatâd pysgota arbennig. (OJ Rhif L17, 6.7.94, t.7).