Rhwystro etc.10
Bydd unrhyw berson sydd —
a
heb esgus rhesymol yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a freiniwyd ynddo yn rhinwedd Erthyglau 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn;
b
heb esgus rhesymol yn rhwystro unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofynion o'r fath; neu
c
yn rhwystro unrhyw swyddog o'r fath sy'n arfer unrhyw un o'r pwerau hynny,
yn euog o dramgwydd ac yn agored—
i
ar gollfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na'r uchafswm statudol; neu
ii
ar gollfarn ar inditiad, i ddirwy.