- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Erthygl 3
| Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
|---|---|---|
| BVPI 93 | Cost cynnal priffyrdd am bob 100 km a deithir gan gerbyd ar y prif ffyrdd | Y ffigur ym mlwch memorandwm M2 ar y ffurflen Alldro Cyfalaf ddiweddaraf COR1 plws llinell 2 (cynnal strwythurol) a 4 (cynnal rhigolaidd) ar y ffurflen Alldro Refeniw RO2 ddiweddaraf colofn 7; wedi'i rannu â'r ffigur am gilometrau cerbydau sy'n deillio o Dabl A yn setliad diweddaraf y Grant Cynnal Refeniw; wedi'i luosi â 100. |
| BVPI 94 | Cost gwasanaethau bysiau â chymhorthdal am bob siwrnai a wneir gan deithiwr | Y gwariant net (llinell 11 ffurflen RO2) ar gymhorthdal gwasanaethau bysiau lleol, fel y'i diffinnir yn adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, yn y flwyddyn berthnasol, wedi'i rannu â nifer y siwrneiau gan deithwyr ar y gwasanaethau hynny yn y flwyddyn honno. Ni ddylai hyn gynnwys gwariant ar gynlluniau tocynnau gostyngedig o dan adrannau 93 i 105 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985. |
| BVPI 95 | Cost gyfartalog cynnal goleuadau stryd | Y ffigur yn llinell 6, colofn 7, o'r ffurflen Alldro Refeniw RO2 ddiweddaraf, wedi'i rannu â nifer y goleuadau stryd yn yr awdurdod. |
| BVPI 96 | Cyflwr y prif ffyrdd | Naill ai: Arolwg gweledol o hyd yr holl brif ffyrdd yn y flwyddyn gan ddefnyddio Arolwg Archwilio Gweledol Bras (arolwg sy'n cofnodi diffygion ffyrdd a nodir drwy eu gweld). Cynhelir yr arolwg o dan Reolau a Pharamedrau System Rheoli Pafinau'r Deyrnas Unedig (UKPMS), fersiwn 2.0. Bydd yr arolwg yn cynnwys y rhwydwaith cyfan heblaw'r rhan a enwebir ar gyfer “archwiliad tybiedig” – rhaid cyfyngu honno i 30% o rwydwaith prif ffyrdd yr awdurdod. Gofynnir i'r awdurdodau lleol ddynodi'r ganran o'r rhwydwaith sydd â sgôr diffygion UKPMS o 70 neu'n uwch. Neu: Y ganran o'r rhwydwaith ag oes weddilliol negyddol, yn deillio o arolygon defflectograff (arolygon mecanyddol yn defnyddio offer sy'n asesu cyflwr strwythurol y ffordd drwy fesur faint y mae'n gwyro o dan lwyth). Mae'r manylion fel a ganlyn; gan gyfeirio at ddangosydd perfformiad 1999. Ar gyfer 2000 a'r blynyddoedd wedyn, byddai'r dyddiadau yn treiglo ymlaen fel y bo'n briodol. Dangosydd: Y ganran o'r rhwydwaith prif ffyrdd cymwys ar 1 Gorffennaf 1998 ag iddo oes weddilliol negyddol. Cyfrifir hyn fel
Nodiadau: 1. Wrth gyfrifo p bydd yr awdurdodau'n estyn y gwyriadau a gofnodwyd mewn arolygon (categori 2 neu'n uwch)* a gynhaliwyd o 1993 i 1997 ymlaen i 1 Gorffennaf 1998, ac eithrio'r adrannau hynny lle cafwyd gwaith cynnal ar ôl yr arolwg gwyriadau (ar yr amod bod y gwaith cynnal wedi'i ddechrau cyn 1 Gorffennaf 1998). Os yw'n dymuno, gall yr awdurdod lleol gynnwys data arolwg a gasglwyd ym 1998 neu 1999 yn y cyfrifiad heb ei estyn ymlaen a heb unrhyw lwfans am waith cynnal dilynol. * Yn unol â'r diffiniad yn Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd yr Asiantaeth Briffyrdd. 2. Wrth gyfrifo p rhaid i'r awdurdod ddefnyddio (i)canlyniadau oes weddilliol (gan gynnwys oes weddilliol ar gyfer darnau sydd wedi'u cynnal) am o leiaf b% o hyd y prif ffyrdd cymwys (mewn un cyfeiriad) o arolygon defflectograff a gynhaliwyd rhwng 1993 a 1999; a b = 60% – (a/2) ac a yw canran y rhwydwaith cymwys ag archwiliad tybiedig. Mae hyn yn golygu y bydd gan awdurdod â'r archwiliad tybiedig uchaf o 30% (gweler isod) ganlyniadau oes weddilliol ar gyfer 45% o'i rwydwaith cymwys. (ii)rhaid i'r awdurdod ddefnyddio canlyniadau oes weddilliol am o leiaf 20% o hyd prif ffyrdd cymwys yr awdurdod (mewn un cyfeiriad) yn deillio o arolygon ym 1997 neu wedyn. (iii)meddalwedd Pandef neu feddalwedd cyfatebol a gymeradwywyd gan yr Asiantaeth Briffyrdd. (iv)darnau 100 metr a'r oes weddilliol ar gyfer pob darn wedi'i ddiffinio fel yr 85ed oes weddilliol ganraddol ar ôl cywiro'r tymheredd i 20°C. 3. Archwiliad tybiedig: Gall awdurdod lleol enwebu hyd at 30% o'i rwydwaith cymwys ar gyfer “archwiliad tybiedig”. Darnau o'r rhwydwaith yw'r rhain y mae'n hysbys ar sail arolygon cynharach neu wybodaeth leol eu bod yn strwythurol gadarn (bydd hyn fel arfer yn awgrymu oes weddilliol o 10 mlynedd o leiaf) a lle byddai'n wastraffus cynnal arolwg defflectograff ar hyn o bryd. Cymerir darnau o'r ffordd sydd ag archwiliad tybiedig i ystyriaeth wrth gyfrifo'r dangosydd perfformiad (gweler uchod) a byddant hefyd yn effeithio ar yr archwiliad lleiaf (gweler Nodyn 2(i) uchod). Dylai'r awdurdodau lleol sy'n dymuno enwebu rhannau o'u rhwydwaith cymwys ar gyfer archwiliad tybiedig bennu'r darnau sydd wedi'u henwebu ganddynt a rhoi sail yr enwebiad (arolwg blaenorol, gwaith cynnal diweddar, etc.). 4. Rhwydwaith cymwys: Prif ffyrdd hyblyg sy'n addas ar gyfer dadansoddiad defflectograff, h.y. nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddarnau wedi'u codi a phrif ffyrdd hyblyg sy'n bodloni meini prawf yr Asiantaeth Briffyrdd ar gyfer ffyrdd hir oes. Dylai'r awdurdodau lleol ddatgan pa ganran o'u rhwydwaith prif ffyrdd sy'n gymwys yn eu barn hwy. |
| BVPI 97 | Cyflwr ffyrdd heblaw'r prif ffyrdd | Fel ar gyfer prif ffyrdd (Dangosydd 4 uchod), arolwg o'r rhwydwaith o ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd i'w gynnal drwy gyfrwng archwiliad gweledol bras (CVI) o dan Reolau a Pharamedrau'r System Rheoli Pafinau, fersiwn 2.0. Y bwriad yw bod arolygon CVI yn cael eu cynnal dros y rhwydwaith cyfan, ond nid oes angen i'r awdurdodau arolygu rhan o'u rhwydwaith (y gwyddant ei bod mewn cyflwr da) a enwebir ganddynt ar gyfer “archwiliad tybiedig”. Rhaid i'r rhan o'r rhwydwaith a enwebir ar gyfer “archwiliad tybiedig” beidio â bod yn fwy na 30% o rwydwaith yr awdurdod o ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd. Cynhwysir y rhan ag “archwiliad tybiedig” yng nghyfanswm hyd y rhwydwaith at ddibenion cyfrifo'r dangosydd. |
| BVPI 98 | Y ganran o lampau stryd nad ydynt yn gweithio yn unol â'r cynllun | Y ganran o lampau stryd nad ydynt yn gweithio yn unol â'r cynllun. Cyfrifir hyn fel:
Archwiliadau gan yr awdurdod neu ei asiantaethau o leiaf 4 gwaith y flwyddyn yw ‘archwiliadau rheolaidd’. Os yw'r awdurdod yn archwilio ei oleuadau yn fwy aml neu'n llai aml, dylai weithio'r ganran ar gyfer pob amledd drwy ddefnyddio'r fformwla uchod ac wedyn cyfuno'r canrannau yn un cyfartaledd wedi'i bwysoli. |
| BVPI 99 | Diogelwch ffyrdd | Nifer yr anafusion mewn damweiniau ffyrdd am bob 100,000 o boblogaeth, wedi'i ddadansoddi yn ôl (i) natur yr anafusion a (ii) y math o ddefnyddiwr ffordd. Categorïau'r anafusion: a wedi'u lladd/wedi'u hanafu'n ddifrifol; b mân anafiadau. Mathau o ddefnyddiwr ffordd: a cerddwyr; b beicwyr; c defnyddwyr cerbyd modur dwy-olwyn; d defnyddwyr ceir, ac e defnyddwyr cerbydau eraill. Bydd y data'n cyfeirio at y flwyddyn galendr yn diweddu 15 mis cyn y 31 Mawrth perthnasol. |
| BVPI 100 | Nifer y dyddiau o reolaeth traffig dros dro neu o gau ffyrdd ar ffyrdd sy'n sensitif o safbwynt traffig wedi'u hachosi gan waith ar ffyrdd yr awdurdod lleol am bob km o ffordd sy'n sensitif o safbwynt | Cyfanswm y dyddiau yr oedd rheolaeth traffig dros dro (â llaw neu drwy gyfrwng goleuadau traffig) ar waith ar ffyrdd sy'n sensitif o safbwynt traffig neu pan oedd y ffordd ar gau, oherwydd gwaith ar ffyrdd yr awdurdodau lleol am bob km o ffyrdd sy'n sensitif o safbwynt traffig. (Peidiwch â chynnwys rheolaeth draffig wrth waith ffyrdd a traffig gwblhawyd mewn llai na diwrnod). Mae “sensitif o safbwynt traffig” yn golygu “traffic sensitive” fel y'i diffiniwyd yn Rheoliad 13 o Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 1992 (O.S. 1992 / 2985). |
| BVPI 101 | Gwasanaethau bysiau lleol (cilometrau cerbydau fesul blwyddyn) | Cyfanswm y pellter blynyddol y bu'r holl fysiau lleol yn gweithredu yn ardal yr awdurdod. |
| BVPI 102 | Gwasanaethau bysiau lleol (siwrneiau teithwyr fesul blwyddyn) | Cyfanswm y siwrneiau teithwyr a wnaed bob blwyddyn ar yr holl fysiau lleol o fewn ardal yr awdurdod. |
| BVPI 103 | Canran o ddefnyddwyr a oedd yn fodlon ar y ddarpariaeth leol o ran gwybodaeth am gludiant gyhoeddus | Y ganran yn dweud eu bod yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon ar y cyfan ar y ddarpariaeth gwybodaeth am gludiant cyhoeddus. I'w gynnal drwy gyfrwng arolwg o foddhad defnyddwyr. |
| BVPI 104 | Canran o ddefnyddwyr a oedd yn fodlon ar wasanaethau bysiau lleol | Y ganran yn dweud eu bod yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon ar y cyfan ar y gwasanaeth bysiau lleol. I'w gynnal drwy gyfrwng arolwg o foddhad defnyddwyr. |
| BVPI 105 | Difrod i ffyrdd a phafinau | Cyfanswm y digwyddiadau a hysbyswyd o ddifrod peryglus i ffyrdd a phafinau ac a drwsiwyd neu a wnaed yn ddiogel o fewn 24 awr o'r adeg y daeth yr awdurdod i wybod am y difrod gyntaf, fel canran o'r digwyddiadau hyn. |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: