- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Erthygl 3
| Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
|---|---|---|
| BVPI 81 | A yw'r awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad ac asesiad llawn o ansawdd aer ei ardal, gan gynnwys ymgynghori â'r ymgynghoreion statudol er mwyn penderfynu a oes rhaid dynodi ardal rheoli ansawdd aer neu beidio? | Mae Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol adolygu ac asesu ansawdd aer ei ardal. Os yw'r awdurdod lleol o'r farn ei bod yn annhebygol y bodlonir un neu ragor o'r amcanion ansawdd aer, fel y'u rhagnodir yn y rheoliadau, o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid iddo ddatgan ardal rheoli ansawdd aer. Wedyn, rhaid iddo lunio cynllun gweithredu sy'n nodi'r mesurau y mae'n bwriadu eu cymryd i fodloni'r amcanion gan gynnwys amserlen ar gyfer eu gweithredu. Mae adran 84(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau gynnal asesiad pellach o ansawdd yr aer ar hyn o bryd a'r ansawdd debygol yn y dyfodol mewn ardal rheoli ansawdd aer ddynodedig. Er nad oedd dyddiad cau statudol, y disgwyl oedd y byddai awdurdodau lleol Cymru wedi cwblhau eu hadolygiad a'u hasesiad cychwynnol erbyn Rhagfyr 1999. Yr ydys wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori â hwy i ganfod faint sydd wedi bodloni'r dyddiad hwnnw. Yng ngoleuni'r canfyddiadau hyn, fe ellid ystyried ymestyn y dyddiad cau i Fehefin 2000, fel a wnaed yn Lloegr. Disgwylir i'r awdurdodau lleol gynhyrchu adroddiad drafft terfynol ar yr adolygiad a'r asesiad a ddylai nodi a ydynt yn bwriadu dynodi ardal rheoli ansawdd aer neu beidio. O dan Ddeddf 1995, mae'n ofynnol i'r awdurdodau lleol anfon yr adolygiad drafft i nifer o gyrff gan gynnwys y Cynulliad Cenedlaethol, at ddibenion ymgynghori. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau wrth gefn i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol cymryd camau os ydynt yn methu â gwneud digon o gynnydd. |
| BVPI 82a | Cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi mewn tunelli – canran wedi'i ailgylchu | Ystyr “wedi'i ailgylchu” yw deunyddiau gwastraff cartrefi sydd wedi'u casglu a'u gosod ar wahân i wastraff trefol a'u prosesu wedyn i gynhyrchu cynhyrchion y gellir eu marchnata. Mae ailgylchu yn wahanol i ailddefnyddio cynhyrchion oherwydd yr angen i brosesu'r deunydd sydd wedi'i adfer. Ystyr “gwastraff cartrefi” yw'r holl wastraff a gesglir gan yr awdurdodau lleol o dan adran 45(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), ynghyd â'r holl wastraff sy'n codi o Safleoedd Amwynder Dinesig a'r gwastraff a gesglir gan drydydd partïon y telir credydau ailgylchu casglu neu gredydau ailgylchu gwaredu amdanynt o dan adran 52 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Ystyr “Safle Amwynder Dinesig” yw mannau a ddarperir gan yr awdurdodau lleol lle gall personau sy'n byw yn yr ardal roi eu gwastraff cartrefi (gwasanaethau a ddarperir o dan adran 51(1)b o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990). I osgoi amheuaeth, bydd yr holl wastraff a gesglir gan yr awdurdodau yn cynnwys gwastraff sy'n codi yn sgil:
|
| BVPI 82b | Cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi mewn tunelli – Y ganran sydd wedi'i gompostio | Ystyr “wedi'i gompostio” yw deunydd gwastraff organig sydd wedi'i ddadelfennu gan weithrediadau micro-organeddau yn aerobig mewn cyfleuster compostio canolog. Ni chynhwysir compostio gartref. Gweler y diffiniad llawn yn Atodlen 5 Dangosydd BVPI 82a ar gyfer cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi. |
| BVPI 82c | Cyfanswm y gwastraff trefol sy'n codi mewn tunelli – Y ganran a ddefnyddir i adfer gwres, pŵ er a ffynonellau | Ystyr “a ddefnyddir i adfer gwres, pŵ er a ffynonellau ynni eraill” yw
Ni chynhwysir y canlynol
Gweler y diffiniad llawn yn Atodlen 5 Dangosydd BVPI 82a ar gyfer cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi – canran wedi'i ailgylchu. |
| BVPI 82d | Cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi mewn tunelli – Y ganran sydd wedi'i dirlenwi | Ystyr “wedi'i dirlenwi” yw gwastraff a roddwyd ar wyneb y tir, neu mewn strwythur a osodwyd ynddo; neu o dan wyneb y tir (mae tir yn cynnwys tir o dan ddŵ r, sydd uwchlaw'r marc distyll neu'r llanw mawr cyffredin). Gweler y diffiniad llawn yn Atodlen 5 Dangosydd BVPI 82a ar gyfer cyfanswm y gwastraff cartrefi sy'n codi. |
| BVPI 84 | Kg o wastraff cartrefi a gesglir am bob pen | I'w lenwi gan yr awdurdodau lleol. Gwastraff cartrefi: ystyr “gwastraff cartrefi” yw'r ystyr a roddir i “household waste” fel y'i ddiffinnir yn a.75 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac Atodlenni 1 a 2 o Reoliadau Gwastraff Rheoledig 1992 (O.S. 1992/588). Cyfrifer fel,
Ystyr “Safle Amwynder Dinesig” yw mannau a ddarperir gan yr awdurdod lle gall personau sy'n byw yn yr ardal roi eu gwastraff cartrefi (Gwasanaethau a ddarperir o dan adran 51(1)b o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990). |
| BVPI 85 | Cost pob cilometr sgwar o gadw tir perthnasol y mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol amdano yn glir rhag sbwriel | Cost net casglu sbwriel a glanhau strydoedd (fel y'u nodir ar Ffurflen Alldro Refeniw (RO) 6, llinell 5 colofn 7 llai grant penodol y tu allan i'r Cyllid Allanol Agregedig (AEF) wedi'i rhannu â km2 o unrhyw dir perthnasol. Diffinnir “tir perthnasol” yn adran 86 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p. 43) |
| BVPI 86 | Cost casglu gwastraff fesul cartref | Cost net casglu gwastraff: cyfrifer fel RO6, Llinell 1, llai grantiau penodol y tu allan i'r Cyllid Allanol Agregedig (AEF) am y llinellau hynny wedi'i rhannu â nifer y cartrefi. Nifer y cartrefi: Rhestr Newidiadau y Swyddfa Brisio, y tudalen o dan y teitl ‘Statement of Numbers and Bands of All Properties Shown in the Valuation List for the Billing Authority Area’, ‘Grand Total Line’. Defnyddiwch y datganiad diwethaf sydd ar gael. |
| BVPI 87 | Cost gwaredu gwastraff trefol fesul tunnell fetrig | Cost net rheoli gwastraff: cyfrifer fel: Gwariant uniongyrchol fel RO6, Llinell 2, Col. 7 llai grantiau penodol y tu allan i'r Cyllid Allanol Agregedig, llai cost net rheoli hen safleoedd tirlenwi, wedi'i rhannu â chyfanswm tunelli metrig gwastraff trefol yr ymdriniwyd ag ef o dan y gwariant hwnnw. Ystyr ‘cost net rheoli hen safleoedd tirlenwi’ yw unrhyw gostau, (gan gynnwys staff, gwasanaethau cynnal canolog, taliadau refeniw a chyfalaf) sy'n gysylltiedig â rheoli, monitro a rheoli llygredd hen safleoedd tirlenwi a weithredid gan yr awdurdod o'r blaen. |
| BVPI 88 | Nifer y casgliadau a gollwyd am bob 100,000 o gasgliadau gwastraff cartrefi | Ystyr “casgliad a gollwyd” yw
Ystyr “diwrnod rhagnodedig” yw'r diwrnod o'r wythnos pan gâi'r sbwriel ei gasglu fel rheol. Ystyr “hysbysu yn ysgrifenedig” yw drwy gyfrwng sachau sbwriel wedi'u hargraffu, taflenni, papurau newydd neu unrhyw gyfrwng ysgrifenedig arall a roddir i bob cartref/busnes perthnasol gan yr awdurdod neu ei gontractiwr.
|
| BVPI 89 | Canran y bobl sy'n fodlon ar y safonau glanweithdra | Arolwg boddhad ynghylch a yw'r preswylwyr o'r farn bod yr awdurdod lleol wedi cyflawni ei ddyletswydd i gadw'r tir yn rhydd rhag sbwriel. Ystyr “tir perthnasol” yw'r ystyr a roddir i “relevant land” yn adran 86 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p. 43) |
| BVPI 90 | Canran y bobl sy'n mynegi boddhad ag a) Cyfleusterau Ailgylchu, b) Casgliadau Gwastraff Cartrefi ac c) Safleoedd Amwynder Dinesig | Y ganran yn dweud eu bod yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon ar y canlynol: a Y gwasanaeth casglu sbwriel yn gyffredinol b Y ddarpariaeth cyfleusterau ailgylchu yn gyffredinol c Y gwasanaeth safleoedd amwynder dinesig yn gyffredinol I'w lenwi gan yr awdurdodau lleol. Ystyr ‘Safle Amwynder Dinesig’ yw mannau a ddarperir gan yr awdurdod lle gall personau sy'n preswylio yn yr ardal roi eu gwastraff cartrefi (Gwasanaethau a ddarperir o dan adran 51(1)b o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990). |
| BVPI 91 | Y ganran o'r boblogaeth a wasanaethir gan gasgliad wrth ymyl y ffordd o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu neu sydd o fewn 1 cilometr o ganolfan ailgylchu | Ystyr ‘poblogaeth’ yw'r boblogaeth yn ardal yr awdurdod. Ystyr ‘1 cilometr’ yw radiws o 1km (fel yr hed y frân). Ystyr ‘canolfan ailgylchu’ yw
|
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: