- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Erthygl 3
| Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
|---|---|---|
| BVPI 62 | Y gyfran o anheddau anffit yn y sector preifat a wnaed yn ffit neu a ddymchwelwyd o ganlyniad uniongyrchol i gamau gan yr awdurdod lleol | Y nifer cyfartalog o anheddau anffit yn y sector preifat a wnaed yn ffit neu a ddymchwelwyd fesul blwyddyn o ganlyniad uniongyrchol i gamau gan yr awdurdod wedi'i fynegi fel cyfran o gyfanswm anheddau'r sector preifat y barnwyd eu bod yn anffit gan yr awdurdod. Dylai awdurdod gynnwys unrhyw annedd a dynnwyd o nifer yr anheddau anffit yn dilyn camau uniongyrchol gan yr awdurdod drwy'r canlynol:
Cynghorir awdurdodau i gynnal arolygon o gyflwr y stoc lleol bob pum mlynedd, gan gynnwys pob deiliadaeth. Dylid defnyddio hyn i amcangyfrif y nifer a'r gyfran o anheddau'r sector preifat y bernir eu bod yn anffit. Bydd y dangosydd wedyn yn mesur nifer cyfartalog anheddau'r sector preifat a wnaed yn ffit bob blwyddyn ers gwneud yr asesiad. |
| BVPI 63 | Effeithlonrwydd Ynni – dosbarthiad SAP cyfartalog anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol | Dosbarthiad cyfartalog yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol yn ôl y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP). Y newid blynyddol cyfartalog yn nosbarthiad SAP cyfartalog yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol, a'r SAP yw mynegrif o gost flynyddol gwresogi annedd i sicrhau trefn wresogi safonol ac fe'i disgrifir fel rheol fel un sy'n rhedeg o 1 (aneffeithlon iawn) i 100 (effeithlon iawn). Fel y cyfryw, mae'n fesur o'i effeithlonrwydd ynni cyffredinol ac mae'n dibynnu ar y gwres sy'n cael ei golli o'r annedd ac ar berfformiad y system wresogi. Mae'r dangosyddion yn ei gwneud yn ofynnol i arolwg ynni gael ei gynnal er mwyn pennu'r waelodlin. Dylid cynnal arolygon o leiaf bob pum mlynedd. Mewn blynyddoedd pan na chynhelir arolwg ynni dylai'r awdurdodau lleol ddiweddaru'r wybodaeth a geir o'r arolwg i gymryd i ystyriaeth y gwaith a wnaed i'r stoc dros y cyfnod. |
| BVPI 64 | Y gyfran o anheddau'r sector preifat sydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis ar 1 Ebrill 2000 ac a ddychwelwyd i feddiannaeth yn ystod 2000/01 o ganlyniad uniongyrchol i gamau gan yr awdurdod lleol. | Y nifer o anheddau'r sector preifat sydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol ac a ddychwelwyd i feddiannaeth yn ystod y flwyddyn ariannol o ganlyniad uniongyrchol i weithredoedd gan yr awdurdod, wedi'i rannu â nifer holl eiddo'r sector preifat sydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol wedi'i luosi â 100. Dylai awdurdod gynnwys unrhyw annedd sy'n cael ei feddiannu yn sgil gweithredoedd uniongyrchol yr awdurdod drwy'r canlynol:
|
| BVPI 65a | Costau wythnosol cyfartalog rheoli fesul annedd awdurdod lleol | Mae hyn yn cynnwys y gost ariannol o reoli tai i'r awdurdod lleol – wedi ei fesur drwy wariant gwirioneddol o'r Cyfrif Refeniw Tai HRA ar reoli yn 2000/01 wedi'i rannu â nifer cyfartalog yr anheddau yn yr HRA ar ddechrau a diwedd y flwyddyn, wedi'i rannu â 52. Dylai'r wybodaeth gyd-fynd â'r wybodaeth yn Ffurflen Flynyddol HRAS 99-02 ar gyfer costau cyffredinol a chostau rheoli arbennig (celloedd 3000 a 3010). |
| BVPI 65b | Costau wythnosol cyfartalog trwsio fesul annedd awdurdod lleol | Mae hyn yn cynnwys costau trwsio i'r awdurdod lleol – wedi'u mesur drwy wariant gwirioneddol o'r Cyfrif Refeniw Tai ar drwsio yn 2000/01 wedi'i rannu â nifer cyfartalog yr anheddau yn yr HRA ar ddechrau a diwedd y flwyddyn, wedi'i rannu â 52. Dylai'r wybodaeth gydfynd â'r wybodaeth yr adroddwyd amdani drwy'r Cyfrifon Trwsio Tai yn Ffurflen Flynyddol HRAS 99-02 (cell 3020). |
| BVPI 66a | Gwaith casglu rhenti'r awdurdod lleol ac ôl-ddyledion yr awdurdod lleol: y gyfran o'r rhent a gasglwyd | Y gyfran o'r rhent a gasglwyd – Cyfrifir y gyfran o'r rhent a gasglwyd o'r data ar y rhent HRA gros a gasglwyd yn ystod y flwyddyn (h.y. gan gynnwys rhenti a dalwyd drwy Fudd-dâl Tai) fel cyfran o gyfanswm y rhent HRA sydd ar gael i'w gasglu yn y flwyddyn ond heb gynnwys yr ôl-ddyledion rhent o gyn-denantiaid a gronwyd cyn diwedd y flwyddyn (h.y. yr incwm rhent posibl diweddaraf ar ôl caniatáu ar gyfer anheddau gwag a chan gynnwys ôl-ddyledion tenantiaid presennol a oedd heb eu talu ar ddechrau'r flwyddyn). Cyfanswm y rhent a gasglwyd yn ystod y flwyddyn yw'r rhent a gasglwyd, llai unrhyw daliadau o ôl-ddyledion ar gyfer y blynyddoedd cynt oddi wrth gyn-denantiaid. |
| BVPI 66b | Gwaith casglu rhenti'r awdurdod lleol ac ôl-ddyledion: ôl-ddyledion rhent y tenantiaid presennol fel cyfran o rôl renti'r awdurdod | Ôl-ddyledion rhent tenantiaid presennol fel cyfran o incwm rhent yr awdurdod – Cyfrifir ôl-ddyledion fel cyfran o'r rhôl renti o gyfanswm rhent HRA tenantiaid sydd heb ei dalu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a'r rhôl renti HRA gyfan. Cyfanswm y rhent y mae'n bosibl ei gasglu am y flwyddyn ariannol ar gyfer pob annedd ym mherchenogaeth yr awdurdod, p'un a ydynt wedi'u meddiannu neu beidio yw'r rhôl renti. Swm ôl-ddyledion y cyn-denantiaid a'r tenantiaid presennol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yw cyfanswm yr ôl-ddyledion rhent. |
| BVPI 66c | Gwaith casglu rhenti'r awdurdod lleol ac ôl-ddyledion: rhent a ddilewyd fel rhent nad oes modd ei gasglu fel cyfran o rôl renti'r awdurdod | Rhent a ddilewyd fel rhent nad oes modd ei gasglu fel cyfran o incwm rhent yr awdurdod – Cyfrifir dileadau fel cyfran o'r rhôl renti o gyfanswm y rhent HRA a ddilewyd yn ystod y flwyddyn ariannol a'r rhôl renti HRA gyfan. Cyfanswm y rhent y mae'n bosibl ei gasglu am y flwyddyn ariannol ar gyfer pob annedd ym mherchenogaeth yr awdurdod, p'un a ydynt wedi'u meddiannu neu beidio, yw'r rhôl rhenti. Swm ôl-ddyledion rhent y tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid a ddilewyd yn ffurfiol fel rhai nad oedd modd eu hadennill yn ystod y flwyddyn ariannol yw cyfanswm y dileadau. |
| BVPI 67 | Y gyfran o geisiadau digartrefedd y mae'r awdurdod yn gwneud penderfyniad arnynt ac yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o fewn 33 diwrnod gwaith | Y nifer o geisiadau digartrefedd (o dan adran 184 o Ddeddf Tai 1996, p.52) y gwnaed penderfyniad amdanynt ac yr anfonwyd hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o fewn 33 diwrnod gwaith, fel cyfran o'r holl geisiadau digartrefedd lle'r anfonwyd hysbysiad a.184. |
| BVPI 68 | Cyfartaledd amserau ailosod ar gyfer anheddau'r awdurdod lleol a osodwyd yn y flwyddyn ariannol flaenorol | Cyfrifir y dangosydd hwn o ddata ar gyfanswm y gosodiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn (ac eithrio'r rhai a osodwyd ar ôl atgyweiriadau pwysig. Diffinir gwaith atgywirio pwysig fel rhai sy'n costio £5,000 (neu fwy) a chyfanswm y diwrnodau pan oedd yr anheddau hyn yn wag. Mae cyfanswm y gosodiadau yn cynnwys pob gosodiad a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol lle na wnaed unrhyw waith trwsio pwysig wedi'i ariannu o raglen gyfalaf yr awdurdod yn y cyfnod pan oedd yr annedd yn wag. Diwrnodau y mae annedd yn wag = y dyddiau calendr rhwng y dyddiad y mae'r annedd ar gael i'w osod, neu pan ddarganfyddir bod yr annedd yn wag, a phan fydd tenant newydd yn symud i mewn. |
| BVPI 69 | Y ganran o'r rhenti a gollwyd wrth i anheddau'r awdurdod lleol ddod yn wag | Cyfrifir y dangosydd hwn o ddata ar y rhôl renti HRA gyfan a swm y rhent HRA a gollwyd drwy wagleoedd (sef eiddo sy'n wag). Cyfanswm y rhent y mae'n bosibl ei gasglu am y flwyddyn ariannol ar gyfer pob annedd ym mherchenogaeth yr awdurdod yw'r rhôl renti. Cyfanswm y rhent nad oedd modd ei gasglu yn ystod y flwyddyn ariannol am fod anheddau'n wag (h.y. heb denant a oedd yn atebol y am rhent) yw'r rhent a gollwyd drwy wagleoedd. |
| BVPI 70 | Effeithlonrwydd ynni – y newid blynyddol cyfartalog yn nosbarthiad SAP cyfartalog anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol | Dosbarthiad cyfartalog yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol yn ôl y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP). Y newid blynyddol cyfartalog yn nosbarthiad SAP cyfartalog yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol, a'r SAP yw mynegrif o gost flynyddol gwresogi annedd i sicrhau trefn wresogi safonol ac fe'i disgrifir fel rheol fel mynegrif sy'n rhedeg o 1 (anneffeithlon iawn) i 100 (effeithlon iawn). Fel y cyfryw, mae'n fesur o'i effeithlonrwydd ynni cyffredinol ac mae'n dibynnu ar y gwres sy'n cael ei golli o'r annedd ac ar berfformiad y system wresogi. Mae'r dangosyddion yn ei gwneud yn ofynnol i arolwg ynni gael ei gynnal er mwyn pennu'r waelodlin. Dylid cynnal arolygon o leiaf bob pum mlynedd. Mewn blynyddoedd pan na chynhelir arolwg ynni, dylai'r awdurdodau lleol ddiweddaru'r wybodaeth a geir o'r arolwg i gymryd i ystyriaeth y gwaith a wnaed i'r stoc dros y cyfnod. |
| BVPI 71 | Y nifer o anheddau'r awdurdod lleol y mae gwaith adnewyddu yn cael ei wneud iddynt yn ystod 2000/01 fel canran o'r nifer y mae angen gwaith adnewyddu arnynt ar 1 Ebrill 2000 | a)Nifer yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol y mae gwaith adnewyddu (o dan £5,000) yn cael ei wneud iddynt yn ystod y flwyddyn ariannol wedi'i rannu ag asesiad yr awdurdod lleol o'r nifer o anheddau sydd angen gwaith o'r fath ar ddechrau'r flwyddyn ariannol wedi'i luosi â 100. b)Nifer yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod lleol y mae gwaith adnewyddu (dros £5,000) yn cael ei wneud iddynt yn ystod y flwyddyn ariannol wedi'i rannu ag asesiad yr awdurdod lleol o'r nifer o anheddau sydd angen gwaith o'r fath ar ddechrau'r flwyddyn ariannol wedi'i luosi â 100. Cynghorir yr awdurdodau i gynnal arolygon o gyflwr y stoc leol bob pum mlynedd, gan gynnwys pob deiliadaeth. Dylai'r awdurdodau ddefnyddio'r rhain i amcangyfrif y gwaith y bydd ei angen ar 1 Ebrill 2000. |
| BVPI 72 | Y ganran o atgyweiriadau brys a gwblhawyd o fewn terfynau amser y Llywodraeth | Cyfanswm yr atgyweiriadau brys (fel y'i diffiniwyd yn Rheoliadau Tenantiaid Diogel Awdurdodau Tai Lleol (Hawl i Drwsio) 1994 (O.S. 1994/133), ond p'un a ofynnwyd am yr atgyweiriadau yn unol â'r Rheoliadau neu beidio) a gwblhawyd o fewn y terfyn amser rhagnodedig yn ystod y flwyddyn ariannol wedi'i rannu â nifer y atgyweiriadau brys y gofynnwyd amdanynt yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae'r atgyweiriadau a ddosberthir fel rhai brys a therfyniadau amser y Llywodraeth ar eu cyfer wedi'u nodi yn y tabl isod a gymerwyd o Reoliadau Tenantiaid Diogel Awdurdodau Tai Lleol (Hawl i Drwsio) 1994. Dylid anwybyddu'r weithdrefn statudol ar gyfer penodi ail gontractiwr at ddibenion cofnodi'r atgyweiriad fel un anghyflawn o fewn yr amserlenni. Diffyg Cyfnod rhagnodedig (mewn diwrnodau gwaith) Colli pŵ er trydanol yn gyfan gwbl 1 Colli pŵ er trydanol yn rhannol 3 Soced pŵ er neu oleuo, ffitiad trydanol anniogel 1 Colli cyflenwad dŵ r yn gyfan gwbl 1 Colli cyflenwad dŵ r yn rhannol 3 Colli cyflenwad nwy yn gyfan gwbl neu'n rhannol 1 Ffliw agored i dân neu fwyler wedi'i blocio 1 Colli system wresogi lle neu ddŵ r yn gyfan gwbl neu'n rhannol rhwng 31 Hydref ac 1 Mai 1 Colli system wresogi lle neu ddŵ r yn gyfan gwbl neu'n rhannol rhwng 30 Ebrill ac 1 Tachwedd 3 Traen fudreddi, llwybr carthion neu (tra nad oes unrhyw doiled arall yn gweithio yn yr annedd) fowlen toiled sydd wedi'i blocio neu'n gollwng 1 Toiled heb ddwrlif (lle nad oes unrhyw doiled arall yn gweithio yn yr annedd) 1 Sinc, bath neu fasn wedi'i flocio 3 Tap na ellir ei droi 3 Piben ddŵ r neu biben wresogi, tanc neu seston yn gollwng 1 To'n gollwng 7 Ffenestr, drws neu glo allanol anniogel 1 Canllaw rydd neu ddatgysylltiedig 3 Llawr pren neu ris wedi pydru 3 Ffôn mynediad y drws ddim yn gweithio 7 Ffan echdynnu mecanyddol mewn cegin neu ystafell ymolchi fewnol ddim yn gweithio 7 |
| BVPI 73 | Yr amser cyfartalog a gymerir i gwblhau atgyweiriadau ymatebol nad ydynt yn rhai brys | Ar gyfer yr atgyweiriadau ymatebol nad oeddent yn rhai brys ac a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn ariannol, nifer cyfartalog y dyddiau (calendr) rhwng gofyn am yr atgyweiriad ymatebol nad oedd yn un brys a'i gwblhau'n foddhaol (a'r atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys yw'r rhai nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rheoliadau Hawl i Drwsio). |
| BVPI 74 | Boddhad tenantiaid tai cyngor ar y gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan eu landlord | Y ganran o holl denantiaid y cyngor neu hapsampl cynrychioliadol o denantiaid cyngor, a ddywedodd eu bod yn fodlon ar y gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan eu landlord. Ni chynhwysir les-ddeiliaid a thenantiaid landlordiaid cymdeithasol neu breifat eraill. Dylid cynnal yr arolwg o leiaf bob tair blynedd, gan ddechrau yn 2000/01. Rhoddir cyngor pellach ar y dull arolygu mwyaf priodol. Yn y blynyddoedd pan na fydd unrhyw arolwg, adroddir canlyniadau'r flwyddyn ddiweddaraf sydd ar gael gyda nodyn yn tanlinellu dyddiad yr arolwg. |
| BVPI 75 | Boddhad tenantiaid tai cyngor â'r cyfleoedd a ddarparwyd gan eu landlord ar gyfer cymryd rhan yng ngwaith rheoli a gwneud penderfyniadau ynglŷ n â'r gwasanaethau tai. | Y ganran o holl denantiaid y cyngor neu hapsampl cynrychioliadol o denantiaid cyngor, a ddywedodd eu bod yn fodlon ar y cyfleoedd a ddarparwyd gan eu landlord ar gyfer cymryd rhan yng ngwaith rheoli a gwneud penderfyniadau ynglŷ n â'r gwasanaethau tai. Ni chynhwysir les-ddeiliaid a thenantiaid landlordiaid cymdeithasol neu breifat eraill. Cynhelir yr arolwg o leiaf bob tair blynedd, gan ddechrau yn 2000/01. |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: