Search Legislation

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2000

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Erthygl 3

ATODLEN 3DANGOSYDDION Y GWASANANAETHAU CYMDEITHASOL

Rhif y DangosyddDisgrifiad y dangosyddManylion y dangosydd.
BVPI 49Sefydlogrwydd lleoliadau'r plant yn derbyn gofal

Y ganran o blant yn derbyn gofal ar 31 Mawrth gyda thri neu ragor o leoliadau yn ystod y flwyddyn.

Ystyr yr enwadur yw cyfanswm plant yn derbyn gofal ar 31 Mawrth. Peidiwch â chynnwys yn y cyfrif unrhyw blant a oedd yn derbyn gofal ar y dyddiad hwnnw o dan gyfres gytûn o leoliadau tymor-byr (o dan ddarpariaethau Rheol.13 o Reoliadau Trefn Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991)

Ystyr rhifiadur y plant a ddiffiniwyd uchod yw'r nifer a gafodd dri neu ragor o leoliadau ar wahân (fel y'u diffiniwyd gan gasgliad Ffurflen Ystadegol SSDA903 ar blant yng ngofal awdurdodau lleol) yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth. Cyfrifwch bob lleoliad, ni waeth beth fo'i hyd, gan gynnwys lleoliadau o lai na 24 awr os ydynt yn rhan o gyfnod gofal hwy. Cynhwyswch unrhyw leoliadau a oedd eisoes yn agored ar 1 Ebrill ar ddechrau'r flwyddyn, ac unrhyw rai a oedd yn agored ar 31 Mawrth ar ddiwedd y flwyddyn. Cynhwyswch bob lleoliad yr ystyrir ei fod yn lleoliad “dros dro” ; yr achosion arbennig canlynol yw'r unig eithriadau: – Cyfnodau dros dro ar wyliau neu mewn ysbyty. Absenoldebau dros dro eraill o saith diwrnod neu lai yn olynol, lle dychwelodd y plentyn wedyn i'r lleoliad blaenorol yn unol â'r cynllun.

BVPI 50Cymwysterau addysgol plant sy'n derbyn gofal

Y ganran o bobl ifanc sy'n ymadael â gofal yn 16 oed neu drosodd a chanddynt o leiaf 1 TGAU, graddau A*–G, neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (GNVQ).

Ystyr yr enwadur yw nifer y bobl ifanc a beidiodd â derbyn gofal yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth yn 16 oed neu drosodd. Cynhwyswch bawb yn y grŵ p oedran hwn a ymadawodd â gofal, ni waeth ers faint y buont yn derbyn gofal cyn ymadael, ond peidiwch â chynnwys pobl ifanc a beidiodd â derbyn gofal ar ôl ei dderbyn yn ystod y flwyddyn mewn cyfres gytûn o leoliadau byr-dymor yn unig.

Ystyr y rhifiadur yw'r nifer hwnnw, o blith y bobl ifanc hyn, a enillodd o leiaf 1 TGAU, gyda gradd A*–G, neu GNVQ. Cynhwyswch gymwysterau a enillwyd cyn i'r person ifanc dderbyn gofal neu yn sgil arholiadau a gymerwyd tra oedd yn derbyn gofal, hyd yn oed os cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ar ôl i'r person ifanc beidio â derbyn gofal. Peidiwch â chynnwys cymwysterau a enillwyd yn sgil arholiadau a gymerwyd ar ôl i'r person ifanc beidio â derbyn gofal. Cynhwyswch gyrsiau byr TGAU, GNVQs rhan un neu GNVQs llawn ar lefel sylfaen neu lefel ganolradd, ac unedau iaith GNVQ. Peidiwch â chynnwys Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs).

BVPI 51Costau gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal

Cyfartaledd gwariant wythnosol gros am bob plentyn sy'n derbyn gofal mewn cartref gofal maeth neu mewn cartref plant.

Ystyr yr enwadur yw'r cyfanswm o wythnosau a dreuliwyd gan y plant mewn cartrefi gofal maeth a chartrefi plant yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth. O dan gartrefi plant cynhwyswch gartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol a hosteli a chartrefi plant cofrestredig preifat. Peidiwch â chynnwys unrhyw leoliadau yn y cyfrif a oedd yn rhan o gyfres gytûn o leoliadau tymor-byr (o dan ddarpariaethau Rheol. 13 o Reoliadau Trefn Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991). Dylid seilio'r cyfrif ar gyfanswm y diwrnodau gofal wedi'u rhannu â saith.

Ystyr y rhifiadur yw'r gwariant gros ar blant yn derbyn gofal mewn cartrefi gofal maeth a chartrefi plant yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth. Ceir hyn o'r ffurflen Alldro Refeniw 3 (RO3), llinellau 11 a 17. Diffinnir gwariant gros o RO3 fel swm costau cyflogedigion (colofn 1) a chostau rhedeg gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 2) llai incwm arall gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 5).

BVPI 52Cost gofal cymdeithasol dwys i oedolion

Cyfartaledd cost wythnosol gros darparu gofal i oedolion a phobl oedrannus.

Ystyr y rhifiadur yw'r gwariant gros ar ofal preswyl a gofal nyrsio a chymorth /gofal cartref i bob grŵ p o gleientau sy'n oedolion a phobl oedrannus (£miloedd) yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth. Ceir hyn o'r ffurflen Alldro Refeniw 3 (RO3), llinellau (32 i 34+38+48 i 50+54+64 i 66+70+84 i 86+90). Diffinnir gwariant gros o RO3 fel swm costau cyflogedigion (colofn 1) a chostau rhedeg gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 2) llai incwm arall gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 5).

Ystyr yr enwadur yw cyfanswm yr wythnosau y cynhaliwyd pob grŵ p o gleientau sy'n oedolion a phobl oedrannus mewn gofal preswyl a gofal nyrsio a'r nifer o gartrefi sy'n cael gofal cartref dwys (ceir hyn o ffurflen AS2).

Sylwer: mae'r rhifiadur yn cynnwys gwariant ar ofal cartref dwyster isel (nid yw'n bosibl i beidio â'i gynnwys gan ddefnyddio'r ffurflen RO3) ond nid yw'r enwadur yn cynnwys y nifer o bobl sy'n cael gofal o'r fath. Mae hyn yn arwain at ychydig o anghymhelliad i ddarparu gofal cartref dwyster isel, wedi'i gydbwyso â BVPI 54.

BVPI 53Gofal cartref dwysYstyr y rhifiadur yw'r nifer o deuluoedd sy'n cael gofal cartref dwys (pump neu ragor o oriau cyswllt) yn ystod wythnos arolwg. Wedi'i gael o ffurflen AS2.Ystyr yr enwadur yw'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd (mewn miloedd).
BVPI 54Pobl hŷ n (65 oed neu drosodd) y rhoddwyd cymorth iddynt fyw gartref.

Ystyr y rhifiadur yw pobl oedrannus 65 oed a throsodd y rhoddwyd cymorth iddynt fyw gartref.

Ystyr yr enwadur yw'r boblogaeth sy'n 65 oed a throsodd (mewn miloedd).

Ffurflen AS2 Eitem 2.1 swm y tair colofn bandiau oed ar gyfer pobl 65 oed a throsodd.

BVPI 55Cleientau sy'n cael adolygiad

Cleientau sy'n cael adolygiad fel canran o'r cleientau sy'n oedolion ac yn cael gwasanaeth.

Ystyr y rhifiadur yw cyfanswm yr holl gleientau yn cael adolygiad yn ôl amserlen yn ystod y cyfnod (naill ai gan staff y gwasanaethau cymdeithasol neu staff eraill).

Ystyr yr enwadur yw cyfanswm y cleientau yn cael gwasanaethau yn ystod y cyfnod.

BVPI 56Y ganran o eitemau offer yn costio llai na £1000 a gyflwynwyd o fewn tair wythnos

Nid yw'n cynnwys offer ac addasiadau sy'n gofyn am waith strwythurol ond mae'n cynnwys y rhai y mae angen gwaith syml i'w gosod yn unig (e.e. bolltio i wal neu lawr). Dylid hepgor addasiadau sy'n cael eu darparu gan adrannau tai a chysylltiadau â systemau larwm.

Dylid cyfrif pob eitem sy'n costio dan £1,000 (gan gynnwys cost ei gosod) a dylid cynnwys pob eitem a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ni waeth pa bryd y cafodd ei archebu. Mae'r cyfnod yn dechrau pan mae penderfyniad yn cael ei wneud i ddarparu'r offer ac yn dod i ben pan fydd yr offer wedi'i osod yn foddhaol ym marn yr awdurdod lleol. Caiff yr awdurdodau beidio â chynnwys achosion lle na ellid bodloni'r terfyn amser oherwydd gweithredoedd neu absenoldeb y cleient (e.e. pan oedd y person mewn ysbyty neu ar wyliau etc).

BVPI 57Defnyddwyr/gofalwyr a ddywedodd eu bod wedi cael cymorth yn gyflym

Y ganran o bobl a arolygwyd ac a ddywedodd eu bod yn teimlo eu bod wedi cael y cymorth yr oedd arnynt ei angen yn gyflym. (Dangosydd Fframwaith Asesu Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol Personol D36).

Ceir hwn o arolygon boddhad defnyddwyr sydd i'w cynnal gan awdurdodau lleol.

BVPI 58Y ganran o bobl sy'n cael datganiad o'u hanghenion a sut y byddant yn cael eu diwallu

Y nifer o oedolion sy'n cael gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ariannol ac sydd wedi cael disgrifiad erbyn 31 Mawrth o beth yw eu hanghenion o ran y gwasanaethau hynny a sut y caiff yr anghenion hynny eu bodloni; wedi'i rannu â chyfanswm y bobl sy'n derbyn gwasanaeth.

Dylai fod un ganran ar gyfer y dangosydd hwn.

BVPI 59Asesiadau am bob pen o'r boblogaeth

Nifer yr asesiadau o ddefnyddwyr gwasanaethau sy'n 65 oed neu drosodd am bob pen o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd.

Ystyr y rhifiadur yw'r nifer cyfan o gleientau 65 oed a throsodd ag asesiadau wedi'u cwblhau a'r cleientau hynny y mae eu hasesiadau wedi'u terfynu.

Ystyr yr enwadur yw'r boblogaeth 65 oed a throsodd (mewn miloedd).

Y celloedd perthnasol o Ffurflen AS2.

BVPI 60Y defnyddwyr/gofalwyr a ddywedodd bod materion ynglŷ n â hil, iaith, diwylliant neu grefydd wedi'u nodi.

Y ganran o'r bobl a arolygwyd ac a ddywedodd eu bod wedi teimlo bod materion ynglŷ n â hil, iaith, diwylliant neu grefydd wedi'u cymryd i ystyriaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol wrth roi'r cymorth yr oedd arnynt ei angen.

Ceir hyn o'r arolygon boddhad defnyddwyr sydd i'w cynnal gan yr awdurdodau lleol.

BVPI 61Y gwariant cymharol ar gynhaliaeth teulu

Gwariant gros ar blant sydd mewn angen ond nad ydynt yn derbyn gofal, fel canran o wariant gros ar bob gwasanaeth plant.

Ystyr yr enwadur yw'r gwariant gros ar bob gwasanaeth plant am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, fel y'i cofnodwyd ar ffuflen Alldro Refeniw 3 (RO3).

Ystyr y rhifiadur yw'r rhan honno o'r enwadur sy'n wariant ar blant mewn angen ond nad ydynt yn derbyn gofal. Cyfrifir hyn fel swm yr eitemau canlynol ar y ffurflen RO3: cyfiawnder ieuenctid, darparu i blant dan wyth mlwydd oed, canolfannau teuluol, lwfansau mabwysiadu, gofal cartref/ cymorth cartref di-breswyl arall a 50% o wariant ar ymadael â gofal cartref. Mae'n cynnwys cyfran hefyd o'r gwariant ar uwch-reolwyr, rheoli gofal/gwaith cymdeithasol a chostau cyffredinol.

Diffinir gwariant gros o'r ffurflen RO3 fel swm costau cyflogedigion (colofn 1) a chostau rhedeg gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 2) llai incwm arall gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 5).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources