- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Erthygl 3
| Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
|---|---|---|
| BVPI 31 | Cyllideb ysgolion unigol fel canran o gyllideb ysgolion lleol. | Diffinnir “cyllideb ysgolion unigol” a “chyllideb ysgolion lleol” yn ôl yr ystyr a roddir i “individual schools budget” a “local schools budget” yn y drefn honno yn Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (OS 1999 Rhif 101) a'r canllawiau statudol cysylltiedig. Mae pob Awdurdod Addysg Lleol (AALl) wedi cyflwyno adroddiadau ar ffigurau cyllideb ar gyfer 1999 – 2000 i'r Cynulliad Cenedlaethol. |
| BVPI 32 | Gwariant am bob pen ar addysg oedolion drwy ddarpariaeth yr AALl a darpariaeth a sicrhawyd gan yr AALl | Cyfrifir fel a ganlyn: Ffurflen RO1, llinell 29, colofn 5 llai unrhyw grantiau penodol y tu allan i'r AEF (ni ddylid cynnwys addysg barhaus arall sydd yng ngholofn 6). |
| BVPI 33 | Gwariant Gwasanaeth Ieuenctid net (h.y. gwariant AALl yn unig) am bob pen o'r boblogaeth o fewn ystod oedran targed y Gwasanaeth Ieuencid. | Cyfrifir fel a ganlyn: Ffurflen RO1 llinell 29 colofn 7 llai unrhyw grantiau penodol y tu allan i'r AEF. |
| BVPI 34a | Canran yr ysgolion cynradd a 25% neu fwy (ac o leiaf 30) o'u lleoedd heb eu llenwi. | Cynhwysedd yr ysgol: Cyfeiria hyn at y ffigurau Cofrestru Mwy Agored (MOE) ar gyfer yr ysgol gyfan ac nid ar gyfer y blynyddoedd derbyn yn unig. Disgyblion: cyfeiria hyn at uchafswm y disgyblion ar y gofrestr ar gyfer pob grŵ p blwyddyn yn ystod y flwyddyn ariannol, heb gynnwys dosbarthiadau meithrin. Ysgolion cynradd: Y gwahaniaeth rhwng y cynhwysedd MOE a nifer llawn y disgyblion (fel y'i diffinnir uchod) yn yr holl ysgolion cynradd a gynhelir gan yr AALl pan fydd y cynhwysedd yn fwy na nifer y disgyblion. Mynegir y ffigur hwn fel canran o gyfanswm cynwyseddau MOE ym mhob ysgol gynradd a gynhelir gan yr AALl. |
| BVPI 34B | Canran yr ysgolion uwchradd â 25% neu fwy (ag o leiaf 30) o'u lleoedd heb eu llenwi. | Cynhwysedd ysgol: Cyfeiria hyn at y ffigurau Cofrestru Mwy Agored (MOE) ar gyfer yr ysgol gyfan ac nid ar gyfer y blynyddoedd derbyn yn unig. Disgyblion: cyfeiria hyn at y nifer llawn a gofrestrwyd ar gyfer pob grŵ p blwyddyn yn Ionawr 2001, fel yr adroddwyd yn ffurflen STATS 1. |
| BVPI 35A | Y nifer o leoedd heb eu llenwi yn yr holl ysgolion cynradd y nodwyd bod ganddynt le dros ben wedi'i fynegi fel canran o'r cynhwysedd cynradd llawn. | Cynhwysedd ysgol: Cyfeiria hyn at y ffigurau Cofrestru Mwy Agored (MOE) ar gyfer yr ysgol gyfan ac nid ar gyfer y blynyddoedd derbyn yn unig. Ar gyfer ysgolion cynradd, cyfeiria hyn at y nifer llawn a gofrestrwyd ar gyfer pob grŵ p blwyddyn yn Ionawr 2001, fel yr adroddwyd yn ffurflen STATS 1. Ysgolion cynradd: Y gwahaniaeth rhwng y cynhwysedd MOE a nifer llawn y disgyblion (fel y'i diffinnir uchod) yn yr holl ysgolion cynradd a gynhelir gan yr AALl pan fydd y cynhwysedd yn fwy na nifer y disgyblion. Mynegir y ffigur hwn fel canran o gyfanswm cynwyseddau MOE yn yr holl ysgolion cynradd a gynhelir gan yr AALl. |
| BVPI 35B | Nifer o leoedd heb eu llenwi yn yr holl ysgolion uwchradd ac sy'n cael eu hadnabod fel rhai â chynhwysedd ychwanegol a fynegir fel canran o gyfanswm y cynhwysedd uwchradd llawn. | Cynhwysedd ysgol: Cyfeiria hyn at y ffigurau Cofrestru Mwy Agored (MOE) ar gyfer yr ysgol gyfan ac nid ar gyfer y blynyddoedd derbyn yn unig. Ar gyfer ysgolion uwchradd, cyfeiria hyn at y nifer llawn a gofrestrwyd ar gyfer pob grŵ p blwyddyn yn Ionawr 2001, fel yr adroddwyd yn ffurflen STATS 1. |
| BVPI 36A | Gwariant net fesul disgybl mewn ysgolion AALl: Disgyblion meithrin a disgyblion cynradd o dan bump. | Gwariant net: fel a geir yn RO1, llinellau 1 i 11 llai (llinellau 32, 33, 38 a 39) plws llinell 52 llai llinell 51 (balansau cau) yn llai'r ffigur cyfatebol ar gyfer y balansau agor: Disgyblion: y nifer o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir (fel a bennir ymhellach isod) fel yr adroddwyd yn Ionawr 2001 yn ffurflen STATS 1. Swm cyfun y ddau ffigur hwn fel a geir yn RO1, Col (1); i'w ddosrannu rhwng disgyblion o dan bump oed a throsodd mewn cyfrannedd â niferoedd wedi'u pwysoli yn ôl disgyblion neu drwy ddefnyddio dull cywirach: Disgyblion mewn ysgolion meithrin a chynradd y dangosir eu bod o dan bump oed ar 31 Rhagfyr blaenorol, gan gyfrif disgyblion rhan amser yn gyfwerth ag un hanner. Ffurflen STATS 1, Ffurflen ysgolion meithrin, Eitem 1.1, Llinellau c i 1, pob colofn. Ffurflen STATS 1, Ffurflen ysgolion cynradd, Eitem 1.1, Llinellau i i p, pob colofn. |
| BVPI 36B | Gwariant net fesul disgybl mewn ysgolion AALl: disgyblion cynradd pump oed a throsodd. | Swm cyfun o'r ddau ffigur hwn fel a geir yn RO1, Col (1); i'w ddosrannu rhwng disgyblion o dan bump oed a throsodd mewn cyfrannedd â niferoedd wedi'u pwysoli yn ôl disgyblion neu gan ddefnyddio dull cywirach; Yr holl ddisgyblion eraill mewn ysgolion meithrin a chynradd. Ffurflen STATS 1, Ffurflen ysgolion meithrin, Eitem 1.1, Llinellau a a b, pob colofn. Ffurflen STATS 1, Ffurflen ysgolion cynradd, Eitem 1.1, Llinellau a i h, pob colofn. |
| BVPI 36C | Gwariant net fesul disgybl mewn ysgolion AALl: Disgyblion uwchradd o dan 16. | Y swm fel a geir yn RO1, Col (2); i'w ddosrannu rhwng y disgyblion o dan 16 a throsodd mewn cyfrannedd â niferoedd wedi'u pwysoli yn ôl disgyblion gan ddefnyddio pwysoliadau cyllido fesul disgybl yr AALl neu ddull cywirach. Disgyblion mewn ysgolion uwchradd o dan 16 oed ar y 31 Awst blaenorol. Ffurflen STATS 1, Ffurflen ysgolion uwchradd, Eitem 1.1.1, Llinellau e i k, colofn ‘Cyfanswm’ ar gyfer bechgyn plws merched. |
| BVPI 36D | Gwariant net fesul disgybl mewn ysgolion AALl: Disgyblion uwchradd 16 oed a throsodd. | Y swm fel a geir yn RO1, Col (2); i'w ddosrannu rhwng y disgyblion o dan 16 a throsodd mewn cyfrannedd â niferoedd wedi'u pwysoli yn ôl disgyblion gan ddefnyddio pwysoliadau cyllido fesul disgybl yr AALl neu ddull cywirach. Yr holl ddisgyblion eraill mewn ysgolion uwchradd. Ffurflen STATS 1, Ffurflen ysgolion uwchradd, Eitem 1.1.1, Llinellau a i d, colofn ‘Cyfanswm’ ar gyfer bechgyn plws merched. |
| BVPI 37 | Cyfartaledd sgôr pwyntiau TGAU plant 16 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n cwblhau Blwyddyn 11. | Cyfartaledd sgôr pwyntiau yn TGAU/GNVQ Cyfanswm nifer y pwyntiau a enillwyd cyn neu yn ystod haf y flwyddyn yr adroddir arni gan y disgyblion 15 oed ar 31 Awst o'r flwyddyn flaenorol ac ar y gofrestr ar y trydydd dydd Iau o Ionawr y flwyddyn yr adroddir arni mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod wedi'u rhannu gan nifer y disgyblion hynny. Pwyntiau fel y nodir hwy yn Atodiad F i Gylchlythyr CCC 4/99. |
| BVPI 38 | Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill 5 TGAU neu fwy gyda graddau A* i C neu gymhwyster cyfatebol. | Canlyniad TGAU – Cymru – Canran y disgyblion 15 oed ar 31 Awst yn y flwyddyn cyn y flwyddyn yr adroddir arni ac ar y gofrestr ar y trydydd dydd Iau o Ionawr y flwyddyn yr adroddir arni mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n ennill pump neu fwy o raddau TGAU A* i C neu'r cymhwyster galwedigaethol cyfatebol. |
| BVPI 39 | Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n ennill un TGAU neu fwy gyda gradd G neu gymhwyster cyfatebol. | Canlyniad TGAU – Cymru – Canran y disgyblion 15 oed ar 31 Awst yn y flwyddyn cyn y flwyddyn yr adroddir arni ac ar y gofrestr ar y trydydd dydd Iau o Ionawr y flwyddyn yr adroddir arni mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n ennill un TGAU neu fwy gyda gradd G neu'r cymhwyster galwedigaethol cyfatebol. |
| BVPI 40 | Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Mathemateg Cyfnod Allweddol 2. | Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. |
| BVPI 41 | Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Saesneg Cyfnod Allweddol 2 o'r prawf Saesneg. | Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. |
| BVPIW 2 | Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 4 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Cymraeg (iaith gyntaf). | Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. |
| BVPIW 3 | Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 4 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth. | Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. |
| BVPIW 4 | Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 5 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Mathemateg. | Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. |
| BVPIW 5 | Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 5 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Saesneg. | Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. |
| BVPIW 6 | Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 5 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Cymraeg (iaith gyntaf). | Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. |
| BVPIW 7 | Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn yr haf blaenorol sy'n ennill Lefel 5 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth. | Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. |
| BVPIW 8 | Canran y plant 15 oed sy'n ennill y “dangosydd pwnc craidd”. Y disgyblion hynny sy'n ennill gradd C o leiaf mewn TGAU, Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth mewn cyfuniad. | Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. |
| BVPIW 9 | Canran y plant 15 oed sy'n ymadael ag addysg amser-llawn heb gymhwyster cydnabyddedig. | Gweler OS 1999 rhif 1811. Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. |
| BVPI 42 | Y nifer a gofrestrir ar yr holl gyrsiau addysg oedolion a ddarperir ac a sicrheir gan yr awdurdod lleol fesul 1,000 oedolyn o'r boblogaeth | Nifer a gofrestir ar gyrsiau addysg oedolion: Pob cofrestriad yn ystod y flwyddyn ariannol ar bob cwrs a gyllidir drwy wariant fel y'i diffinnir yn BVPI 31 uchod; neu a ddarperir gan yr awdurdod. Ystyr “darparu” yw bod yr awdurdod yn cyflogi neu'n trefnu ar gyfer cyflogi'r athro/athrawes. Pan gaiff cyrsiau eu rhan-gyllido gan yr awdurdod, a'u darparu gan gorff arall, dylid cyfrif y cofrestriadau mewn cyfrannedd â'r cyfraniad cyllido a wneir gan yr awdurdod (yn net o ffioedd myfyrwyr) ond cyfrifir y cofrestriadau'n unig i gyrsiau lle mae gan yr awdurdod gytundeb dan gontract â'r corff dan sylw i ddarparu cwrs penodol y gellir cysylltu'r cyllid yn uniongyrchol ag ef. Mynegir fesul 1,000 o'r boblogaeth 19 oed a throsodd. |
| BVPI 43 | Canran y datganiadau anghenion addysg arbennig a baratowyd o fewn 18 wythnos (a) heb gynnwys a (b) yn cynnwys y rhai yr effeithir arnynt gan “eithriadau i'r rheol” o dan god y rhestr argymhellion AAA. | Datganiadau a baratowyd o fewn 18 wythnos fel canran o'r holl ddatganiadau (yn cynnwys y rhai hynny sy'n ymwneud ag asiantaethau eraill) ond sy'n cynnwys achosion lle mae unrhyw rai o'r eithriadau a restrir yn 3.40 i 3.42 o'r Rhestr Argymhellion AAA yn gymwys. |
| BVPI 44A | Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod am bob 1000 o ddisgyblion ar gofrestri ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod ar gyfer ysgolion cynradd. | Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yn gyfrifol am gyfrifo o ffurflenni STATS 1 y gyfran o ddisgyblion a waharddwyd yn y flwyddyn ariannol (y flwyddyn academaidd flaenorol), ac am ledaenu'r canlyniadau i AALl. |
| BVPI 44B | Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod am bob 1000 o ddisgyblion ar gofrestri'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod ar gyfer ysgolion uwchradd. | Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yn gyfrifol am gyfrifo o ffurflenni STATS 1 y gyfran o ddisgyblion a waharddwyd yn y flwyddyn ariannol (y flwyddyn academaidd flaenorol), ac am ledaenu'r canlyniadau i AALl. |
| BVPI 44C | Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod am bob 1000 o ddisgyblion ar gofrestri ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod ar gyfer ysgolion arbennig. | Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yn gyfrifol am gyfrifo o ffurflenni STATS 1 y gyfran o ddisgyblion a waharddwyd yn y flwyddyn ariannol (y flwyddyn academaidd flaenorol), ac am ledaenu'r canlyniadau i AALl. |
| BVPI 45 | Y ganran o hanner diwrnodau a gollwyd oherwydd absenoldeb heb ganiatâd mewn ysgolion uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod. | Y cyfnod dan sylw – (y cyfnod) – dechrau'r flwyddyn academaidd 2000/2001 hyd at ddiwedd tymor y gwanwyn neu 31 Mawrth 2001 p'un bynnag yw'r cynharaf. Ffurflen CCC (ond un sy'n cael ei chasglu gan CBAC) yw'r ffurflen y cyfeirir ati, sef Gwybodaeth Perfformiad Ysgolion: Ffurflen Presenoldeb Disgyblion 1998/99. Ysgolion uwchradd (heb gynnwys ysgolion arbennig): fel yn y Ffurflen Presenoldeb Disgyblion – Eitem (c) fel canran o Eitem (a), fel petai wedi'i llenwi ar gyfer y cyfnod. |
| BVPI 46 | Y ganran o hanner diwrnodau a gollwyd oherwydd absenoldeb heb ganiatâd mewn ysgolion cynradd a gynhelir gan yr awdurdod. | Y cyfnod dan sylw – (y cyfnod) – dechrau'r flwyddyn academaidd 2000/2001 hyd at ddiwedd tymor y gwanwyn neu 31 Mawrth 2001 p'un bynnag yw'r cynharaf. Ffurflen CCC (ond un sy'n cael ei chasglu gan CBAC) yw'r ffurflen y cyfeirir ati, sef Gwybodaeth Perfformiad Ysgolion: Presenoldeb. Disgyblion 1998/9. Ysgolion cynradd (heb gynnwys ysgolion arbennig): fel yn y Ffurflen Presenoldeb Disgyblion – Eitem (c) fel canran o Eitem (a), fel petai wedi'l llenwi ar gyfer y cyfnod. |
| BVPI 48 | Y ganran o ysgolion a gynhelir gan yr Awdurdod yn ddarostyngedig i fesurau arbennig ar 14 Rhagfyr 2000. | Y ganran o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol ar 14 Rhagfyr o'r flwyddyn adrodd sy'n destun mesurau arbennig fel y'u nodwyd yn adroddiadau arolygu Estyn. |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: