- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
22 Mawrth 2000
Yn dod i rym
1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(5) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Eithrio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2. Ni fydd cynghorau cymuned sydd wedi cyllidebu ar gyfer gwariant refeniw gros nad yw'n fwy na £1,000,000 ar gyfer y naill neu'r llall o'r blynyddoedd ariannol a ddechreuodd ar 1 Ebrill 1998 neu 1 Ebrill 1999 yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau a osodir gan adrannau 3 i 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 mewn perthynas ag unrhyw un o'u swyddogaethau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis Thomas
Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mawrth 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i wneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaol yn y ffordd y mae eu swyddogaethau yn cael eu harfer (gwerth gorau), i gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau ac i baratoi cynllun perfformiad gwerth gorau ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Mae adrannau 2(5) a 29(1) o'r Ddeddf yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, i eithrio awdurdodau penodedig, neu ddisgrifiadau penodedig o awdurdod, rhag y dyletswyddau hynny ynglŷn â swyddogaethau penodedig.
Mae'r Gorchymyn hwn yn eithrio cynghorau cymuned sydd wedi cyllidebu ar gyfer gwariant refeniw gros nad yw'n fwy na £1,000,000 ar gyfer y naill neu'r llall o'r blynyddoedd ariannol a ddechreuodd ar 1 Ebrill 1998 neu 1 Ebrill 1999.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: