xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1024 (Cy. 60)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

31 Mawrth 2000

Yn dod i rym

3 Ebrill 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 8(1) ac 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 3 Ebrill 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Atebolrwydd Perchnogion i Dalu – ceiswyr lloches

2.  Ar ôl y disgrifiad o Ddosbarth E yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) 1992(3) mewnosodwch y canlynol –

Asylum Seekers

Class F a dwelling provided to an asylum seeker under, or under arrangements made under, section 95 of the Immigration and Asylum Act 1999(4).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Mawrth 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) 1992 yn rhagnodi dosbarthiadau o anheddau y mae'r perchennog, yn hytrach na'r preswylydd, yn atebol i dalu treth gyngor ar eu cyfer.

O 3 Ebrill 2000 ymlaen bydd ceiswyr lloches, yng Nghymru, sy'n ddiymgeledd i bob golwg, yn cael llety ac angenrheidiau byw hanfodol eraill o dan adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999, ac ni fyddant yn gymwys i gael budd-daliadau gan gynnwys budd-dâl treth gyngor.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu mai perchennog y llety, yn hytrach na'r ceisydd lloches sy'n preswylio yno, fydd yn atebol i dalu treth gyngor ar gyfer unrhyw lety sy'n cael ei ddarparu o dan adran 95 gan ychwanegu dosbarth newydd o anheddau at y dosbarthiadau sydd wedi'u rhagnodi gan Reoliadau 1992.

(2)

Gweler erthygl 2 o, ac Atodlen 1 i, Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).