RHAN IVADOLYGIADAU LLEOL
Camau pellach yn dilyn adolygiad lleol8
1
Pan ddaw adolygiad lleol i ben, rhaid i'r corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan sylw, gyda chymorth y Comisiwn, baratoi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad a wnaed gan y Comisiwn.
2
Bydd datganiad a baratoir o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol.
3
Cyn penderfynu a gymeradwyir datganiad a baratoir o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Comisiwn.