- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5. Wrth gynnal adolygiad lleol rhaid i'r Comisiwn asesu effeithiolrwydd trefniadau'r corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan sylw ac ystyried a yw'r trefniadau hynny'n ddigonol.
6.—(1) Ar ôl i adolygiad lleol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn wneud adroddiad i'r corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn nodi —
(a)canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiwn; a
(b) unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiwn.
(2) Rhaid i'r Comisiwn gyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad o'r fath.
7.—(1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs adolygiad lleol y mae'n credu y dylid, er lles y cyhoedd, dod ag ef i sylw —
(a)unrhyw un o'r personau neu'r cyrff y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt; a
(b)y cyhoedd,
caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad sydd i'w wneud ar ddiwedd yr adolygiad.
(2) Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —
(a)y corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n destun yr adolygiad lleol;
(b)y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1) at y canlynol —
(a)y corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n destun yr adolygiad lleol;
(b)y Cynulliad Cenedlaethol;
(c)unrhyw gorff y gwasanaeth iechyd gwladol neu ddarparydd gwasanaethau neu unrhyw berson neu gorff arall sy'n arfer swyddogaethau statudol, y mae'r Comisiwn yn credu y dylid anfon copi o'r adroddiad atynt.
(4) Yn ychwanegol at anfon copïau o'r adroddiad at y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), rhaid i'r Comisiwn gyhoeddi crynodeb o'r adroddiad.
8.—(1) Pan ddaw adolygiad lleol i ben, rhaid i'r corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan sylw, gyda chymorth y Comisiwn, baratoi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad a wnaed gan y Comisiwn.
(2) Bydd datganiad a baratoir o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Cyn penderfynu a gymeradwyir datganiad a baratoir o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Comisiwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: