xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 3470 (Cy.56)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999

Wedi'u gwneud

22 Rhagfyr 1999

Yn dod i rym

23 Rhagfyr 1999

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1) fel y'i hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), a freiniwyd ynddo bellach(3):

Enwi, chychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 23 Rhagfyr 1999.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygiadau

2.—(1Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996(4)) fel a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;

(2Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998(5) fel a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Rhagfyr 1999

Rheoliad 2

ATODLEN 1DIWYGIADAU I'R FFURFLEN SY'N DWYN Y TEITL “OWNER-OCCUPIER'S AND TENANT'S APPLICATIONS FOR HOUSING RENEWAL GRANTS”

1.  Yng nghwestiwn 3.9, yn y rhan ynglŷn â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Disability working allowance” rhodder “Disabled person’s tax credit (previously known as disability working allowance)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Note 54A”.

2.  Ar ddiwedd cwestiwn 3.23, hepgorer “(if less than 16 hours per week)”.

3.  Yng nghwestiwn 3.29 —

(a)yn y rhan ynglŷn â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Disability working allowance” rhodder “Disabled person’s tax credit (previously known as disability working allowance )” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Note 54A”;

(b)yn y rhan ynglŷn â chredyd teulu, yn lle “Family credit” rhodder “Working families' tax credit (previously known as family credit)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Note 84B”.

4.  Yn lle cwestiwn 3.37, rhodder —

3.37  Do you pay, or have you during the last 12 months paid, for the care of any child named in question 3.15 who is not disabled and who is either under the age of 15 years or has (or had) not reached the first Monday in September following his 15th birthday?

Notes 93 & 93A
Yes
No

3.37A  Do you pay, or have you during the last 12 months paid, for the care of any child named in question 3.15 who is disabled and who is either under the age of 16 years or has (or had) not reached the first Monday in September following his 16th birthday?

5.  Yng nghwestiwn 3.38 —

(a)yn lle'r is-baragraff sy'n dechrau gyda'r geiriau “The care is provided out of school hours”, rhodder —

The care is provided out of school hours by a school on school premises or by a local authority, and the charge relates to a period beginning on the child’s 8th birthday and ending in the case of a child who is not disabled on the day before the first Monday in September, following his 15th birthday;;

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw, mewnosoder —

The care is provided out of school hours by a school on school premises or by a local authority, and the charge relates to a period beginning on the child’s 8th birthday and ending in the case of a child who is disabled on the day before the first Monday in September following his 16th birthday;

6.  Ar ôl nodyn 54, mewnosoder —

54A.  Include any payment in accordance with an award of disability working allowance which was awarded with effect from a date falling before 5th October 1999. From 5th October 1999 disability working allowance is to be known as disabled person’s tax credit..

7.  Ar ôl nodyn 84A, mewnosoder —

84B.  Include any payment in accordance with an award of family credit which was awarded with effect from a date falling before 5th October 1999. From 5th October 1999 family credit is to be known as working families' tax credit..

8.  Ar ôl nodyn 93, mewnosoder —

93A.  A child is disabled for the purposes of questions 3.37, 3.37A and 3.38 if he is registered as blind in a register compiled under section 29 of the National Assistance Act 1948 (welfare services) or, in Scotland has been certified as blind and in consequence he is registered as blind in a register maintained by or on behalf of a local authority in Scotland or he ceased to be registered as blind in such a register within the 28 weeks immediately preceding the date of claim. A child is also disabled for the purposes of these questions if he is paid disability living allowance, or he was paid disability living allowance until he became a patient..

9.  Yn nodyn 95(1)(a), yn lle “disability working allowance” rhodder “disabled person’s tax credit (previously known as disability working allowance)”.

Rheoliad 2

ATODLEN 2DIWYGIADAU I'R FFURFLEN SY'N DWYN Y TEITL “CEISIADAU PERCHEN-FEDDIANNYDD A THENANT AM GRANTIAU ADNEWYDDU TAI”

1.  Yng nghwestiwn 3.9, yn y rhan ynglŷn â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a elwid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 54A”.

2.  Ar ddiwedd cwestiwn 3.23, hepgorer “(os yw'n llai nag 16 awr yr wythnos).”.

3.  Yng nghwestiwn 3.29 —

(a)yn y rhan ynglŷn â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a elwid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 54A”;

(b)yn y rhan ynglŷn â chredyd teulu, yn lle “Credyd teulu” rhodder “Credyd treth i deuluoedd mewn gwaith (a elwid gynt yn gredyd teulu)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 84B”.

4.  Yn lle cwestiwn 3.37, rhodder —

3.37  Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y 12 mis diwethaf, am ofal unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 3.15 nad yw'n anabl ac sydd naill ai o dan 15 oed neu sydd (neu oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn 15 oed?

Nodiadau 93 a 93A
Ydw
Nac ydw

3.37A  Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y 12 mis diwethaf, am ofal unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 3.15 sy'n anabl ac sydd naill ai o dan 16 oed neu sydd (neu oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn 16 oed?

5.  Yng nghwestiwn 3.38 —

(a)yn lle'r is-baragraff sy'n dechrau gyda'r geiriau “Mae'r gofal yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol”, rhodder —

Mae'r gofal yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar safle ysgol neu gan awdurdod lleol, ac mae'r tâl ar gyfer cyfnod sy'n cychwyn ar wythfed penblwydd y plentyn ac yn gorffen mewn achos plentyn nad yw'n anabl ar y dydd cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi, yn dilyn penblwydd y plentyn yn 15 oed;.

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw, mewnosoder —

Mae'r gofal yn cael ei ddarparu y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar safle'r ysgol neu gan awdurdod lleol, ac mae'r tâl ar gyfer cyfnod sy'n cychwyn ar wythfed penblwydd y plentyn ac yn gorffen mewn achos plentyn sy'n anabl ar y dydd cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi, yn dilyn penblwydd y plentyn yn 16 oed;.

6.  Ar ôl nodyn 54, mewnosoder —

54A.  Cynhwyswch unrhyw daliad sy'n unol â dyfarniad lwfans gweithio i'r anabl a ddyfarnwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dod cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen caiff lwfans gweithio i'r anabl ei adnabod fel credyd treth i berson anabl..

7.  Ar ôl nodyn 84A, mewnosoder —

84B.  Cynhwyswch unrhyw daliad sy'n unol â dyfarniad o gredyd teulu a ddyfarnwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dod cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen caiff lwfans credyd teulu ei adnabod fel credyd treth i deuluoedd mewn gwaith..

8.  Ar ôl nodyn 93, mewnosoder —

93A.  Mae plentyn yn anabl at ddibenion cwestiynau 3.37, 3.37A, 3.38 os yw wedi'i gofrestru'n ddall ar gofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, os ardystiwyd ei fod yn ddall ac o ganlyniad i hynny mae wedi'i gofrestru'n ddall ar gofrestr a gynheli neu ar ran awdurdod lleol yn yr Alban neu a beidiodd â chael ei gofrestru'n ddall mewn cofrestr o'r fath o fewn 28 wythnos yn union cyn dyddiad y cais. Mae plentyn yn anabl at ddibenion y cwestiynau hyn hefyd os telir lwfans byw i'r anabl iddo, neu os talwyd lwfans byw i'r anabl iddo hyd nes iddo fynd yn glaf..

9.  Yn nodyn 95(1)(a), yn lle “lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio :

(a)y Ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996, i'w defnydddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewydddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adnewyddu 1996; a

(b)y Ffurflen Gymraeg sy'n cyfateb â hi a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 1998.

Mae'r diwygiadau gan fwyaf yn dilyn y rheiny a wneir gan y Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/3468) i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S.1996/2890). Mae mân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio hefyd.

(1)

1996 p.53. Am ddiffiniad o “prescribed” gweler adran 101 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

(3)

Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.

(5)

O.S. 1998/1113; diwygiwyd gan O.S. 1999/2316