Enwi, chychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 23 Rhagfyr 1999.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygiadau
2.—(1) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996(1)) fel a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;
(2) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998(2) fel a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Rhagfyr 1999