xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 2

ATODLEN 2DIWYGIADAU I'R FFURFLEN O'R ENW “CAIS AM GRANT ADLEOLI”

1.  Yng nghwestiwn 4.9, yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac ar ddiwedd y rhan honno, mewosoder “Nodyn 14A”.

2.  Ar ddiwedd cwestiwn 4.23, hepgorer “(os yw'n llai nag 16 awr yr wythnos)”.

3.  Yng nghwestiwn 4.29

(a)yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 14A”;

(b)yn y rhan sy'n ymwneud â chredyd teulu, yn lle “Credyd teulu” rhodder “Credyd treth i deuluoedd mewn gwaith (a adwaenid gynt yn gredyd teulu)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 44B.”.

4.  Yn lle cwestiwn 4.37, rhodder —

4.37  Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y deuddeng mis diwethaf, am ofal ar gyfer unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 4.15 nad yw'n anabl ac sydd naill ai o dan 15 oed neu sydd (neu a oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym mis Medi ar ôl ei ben blwydd yn 15 oed?

Nodiadau 53 a 53A
Ydw
Nac ydw

4.37A  Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y deuddeng mis diwethaf, am ofal ar gyfer unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 4.15 sy'n anabl ac sydd naill ai o dan 16 oed neu sydd (neu a oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym mis Medi ar ôl ei ben blwydd yn 16 oed?

5.  Yng nghwestiwn 4.38

(a)yn lle'r is-baragraff sy'n dechrau â'r geiriau “Darperir y gofal mewn ysgol”, rhodder —

Darperir y gofal y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar dir ac mewn adeiladau ysgol neu gan awdurod lleol, ac mae'r tâl yn ymwneud â chyfnod sy'n dechrau ar ben blwydd y plentyn yn 8 oed ac yn dod i ben, os nad yw'r plentyn yn anabl, ar y diwrnod cyn y dydd LLun cyntaf ym Medi ar ôl ei ben blwydd yn 15 oed;;

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw rhodder —

Darperir y gofal y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar dir ac mewn adeiladau ysgol neu gan awdurod lleol, ac mae'r tâl yn ymwneud â chyfnod sy'n dechrau ar ben blwydd y plentyn yn 8 oed ac yn dod i ben, os yw'r plentyn yn anabl, ar y diwrnod cyn y dydd LLun cyntaf ym Medi ar ôl ei ben blwydd yn 16 oed;;

6.  Ar ôl nodyn 14, mewnosoder —

44B.  Cynhwyswch unrhyw daliad sy'n unol â dyfarniad credyd teulu a ddyfarwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dechrau cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen adwacnir credyd teulu yn gredyd treth i deuluoedd mwen gwaith..

7.  Ar ôl nodyn 44A, mewnosoder —

14A.  Cynhwyswch unrhyw daliad sydd yn unol â dyfarniad lwfans gweithio i'r anabl a ddyfarwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dod cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen adwaenir lwfans gweithio i'r anabl yn gredyd treth i berson anabl..

8.  Ar ôl nodyn 53, mewnosoder —

53A.  Mac plentyn yn ababl at ddibenion cwestiynay 4.37, 4.37A a 4.38 os yw wedi'i gofrestru'n ddall ar gofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, a ardystiwyd yn ddall ac o ganlyniad i hynny a gofrestrwyd yn ddall ar gofrestr a gynhelir gan neu ar ran awdurdod lleol yn yr Alban neu a beidiodd â chael ei gofrestru'n ddall mewn cofrestr o'r fath o fewn 28 wynthnos yn union cyn dyddiad y cais. Mae plentyn yn anabl at ddibenion y cwestiynau hyn hefyd os telir lwfans byw i'r anabl iddo, neu os talwyd lwfans byw i'r anabl iddo hyd nes iddo fynd yn glaf..

9.  Yn nodyn 55(1)(a), yn lle “lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)”.