Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) a (Ffurflen Gais Gymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 3469 (Cy.55)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) a (Ffurflen Gais Gymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999

Wedi'u gwneud

22 Rhagfyr 1999

Yn dod i rym

23 Rhagfyr 1999

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 132(3) a (4) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1), fel y'i hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2) a freiniwyd ynddo bellach(3):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adeoli (Ffurflen Gais) a (Ffurflen Gais Gymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 23 Rhagfyr 1999.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygio

2.—(1Diwygiwyd y ffurflen a gyflwynwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997(4) fel a gyflwynir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

(2Diwygiwyd y ffurflen a gyflwynwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999(5) fel a gyflwynir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Rhagfyr 1999

Rheoliad 2

ATODLEN 1DIWYGIADAU I'R FFURFLEN O'R ENW “APPLICATION FOR RELOCATION GRANT”

1.  Yng nghwestiwn 4.9, yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Disability working allowance” rhodder “Disabled person’s tax credit (previously known as disability working allowance)” ac ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Note 14A”.

2.  Ar ddiwedd cwestiwn 4.23, hepgorer “(if less than 16 hours per week)”.

3.  Yng nghwestiwn 4.29

(a)yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Disability working allowance” rhodder “Disabled person’s tax credit (previously known as disability working allowance)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Note 14A”;

(b)yn y rhan sy'n ymwneud â chredyd teulu, yn lle “Family credit” rhodder “Working families' tax credit (previously known as family credit)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Note 44B.”.

4.  Yn lle cwestiwn 4.37, rhodder —

4.37  Do you pay, or have you during the last 12 months paid, for the care of any child named in question 4.15 who is not disabled and who is either under the age of 15 years or has (or had) not reached the first Monday in September following his 15th birthday?

Notes 53 & 53A
Yes
No

4.37A  Do you pay, or have you during the last 12 months paid, for the care of any child named in question 4.15 who is disabled and who is either under the age of 16 years or has (or had) not reached the first Monday in September following his 16th birthday?

  • Notes 53 & 53A
    Yes
    No
  • If you have answered “Yes” to either question 4.37 or 4.37A, please go to question 4.38.

  • If you have answered “No” to both questions 4.37 and 4.37A, please go to Part 5.

5.  Yng nghwestiwn 4.38

(a)yn lle'r is-baragraff sy'n dechrau â'r geiriau “The care is provided by a school”, rhodder —

The care is provided out of school hours by a school on school premises or by a local authority, and the charge relates to a period beginning on the child’s 8th birthday and ending in the case of a child who is not disbabled on the day before the first Monday in September following his 15th birthday;;

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw rhodder —

The care is provided out of school hours by a school on school premises or by a local authority, and the charge relates to a period beginning on the child’s 8th birthday and ending in the case of a child who is disbabled on the day before the first Monday in September following his 16th birthday;;

6.  Ar ôl nodyn 14, mewnosoder —

14A.  Include any payment in accordance with and award of disability working allowance which was awarded with effect from a date falling before 5th October 1999. From 5th October 1999 disability working allowance is to be known as disabled person’s tax credit..

7.  Ar ôl nodyn 44A, mewnosoder —

44B.  Include any payment in accordance with and award of familt credit which was awarded with effect from a date falling before 5th October 1999. From 5th October 1999 family credit is to be known as working families' tax credit..

8.  Ar ôl nodyn 53, mewnosoder —

53A.  A child is disabled for the purposes of questions 4.37, 4.37A and 4.38 if he is registered as blind in a register complied under section 29 of the National Assistance Act 1948 (welfare services) or, in Scotland has been certified as blind and in consequence he is registered as blind in a register maintained by or on behalf of a local authority in Scotland, or he ceased to be registered as blind in such a register within the 28 weeks immediately preceding the date of claim. A child is also disabled for the purposes of these questions if he is paid disability living allowance, or he is paid disability living allowance until he became a patient..

9.  Yn nodyn 55(1)(a), yn lle “disability working allowance” rhodder “disabled person’s tax credit (previously known as disability working allowance)”.

Rheoliad 2

ATODLEN 2DIWYGIADAU I'R FFURFLEN O'R ENW “CAIS AM GRANT ADLEOLI”

1.  Yng nghwestiwn 4.9, yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac ar ddiwedd y rhan honno, mewosoder “Nodyn 14A”.

2.  Ar ddiwedd cwestiwn 4.23, hepgorer “(os yw'n llai nag 16 awr yr wythnos)”.

3.  Yng nghwestiwn 4.29

(a)yn y rhan sy'n ymwneud â lwfans gweithio i'r anabl, yn lle “Lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “Credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 14A”;

(b)yn y rhan sy'n ymwneud â chredyd teulu, yn lle “Credyd teulu” rhodder “Credyd treth i deuluoedd mewn gwaith (a adwaenid gynt yn gredyd teulu)” ac, ar ddiwedd y rhan honno, mewnosoder “Nodyn 44B.”.

4.  Yn lle cwestiwn 4.37, rhodder —

4.37  Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y deuddeng mis diwethaf, am ofal ar gyfer unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 4.15 nad yw'n anabl ac sydd naill ai o dan 15 oed neu sydd (neu a oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym mis Medi ar ôl ei ben blwydd yn 15 oed?

Nodiadau 53 a 53A
Ydw
Nac ydw

4.37A  Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y deuddeng mis diwethaf, am ofal ar gyfer unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 4.15 sy'n anabl ac sydd naill ai o dan 16 oed neu sydd (neu a oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym mis Medi ar ôl ei ben blwydd yn 16 oed?

  • Nodiadau 53 a 53A
    Ydw
    Nac ydw
  • Os ydych wedi ateb “Ydw” i naill ai cwestiwn 4.37 neu 4.37A, ewch i gwestiwn 4.38.

  • Os ydych chi wedi ateb “Nac ydw” i gwestiynau 4.37 a 4.37A, ewch i Ran 5.

5.  Yng nghwestiwn 4.38

(a)yn lle'r is-baragraff sy'n dechrau â'r geiriau “Darperir y gofal mewn ysgol”, rhodder —

Darperir y gofal y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar dir ac mewn adeiladau ysgol neu gan awdurod lleol, ac mae'r tâl yn ymwneud â chyfnod sy'n dechrau ar ben blwydd y plentyn yn 8 oed ac yn dod i ben, os nad yw'r plentyn yn anabl, ar y diwrnod cyn y dydd LLun cyntaf ym Medi ar ôl ei ben blwydd yn 15 oed;;

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw rhodder —

Darperir y gofal y tu allan i oriau ysgol gan ysgol ar dir ac mewn adeiladau ysgol neu gan awdurod lleol, ac mae'r tâl yn ymwneud â chyfnod sy'n dechrau ar ben blwydd y plentyn yn 8 oed ac yn dod i ben, os yw'r plentyn yn anabl, ar y diwrnod cyn y dydd LLun cyntaf ym Medi ar ôl ei ben blwydd yn 16 oed;;

6.  Ar ôl nodyn 14, mewnosoder —

44B.  Cynhwyswch unrhyw daliad sy'n unol â dyfarniad credyd teulu a ddyfarwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dechrau cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen adwacnir credyd teulu yn gredyd treth i deuluoedd mwen gwaith..

7.  Ar ôl nodyn 44A, mewnosoder —

14A.  Cynhwyswch unrhyw daliad sydd yn unol â dyfarniad lwfans gweithio i'r anabl a ddyfarwyd gydag effaith o ddyddiad sy'n dod cyn 5 Hydref 1999. O 5 Hydref 1999 ymlaen adwaenir lwfans gweithio i'r anabl yn gredyd treth i berson anabl..

8.  Ar ôl nodyn 53, mewnosoder —

53A.  Mac plentyn yn ababl at ddibenion cwestiynay 4.37, 4.37A a 4.38 os yw wedi'i gofrestru'n ddall ar gofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, a ardystiwyd yn ddall ac o ganlyniad i hynny a gofrestrwyd yn ddall ar gofrestr a gynhelir gan neu ar ran awdurdod lleol yn yr Alban neu a beidiodd â chael ei gofrestru'n ddall mewn cofrestr o'r fath o fewn 28 wynthnos yn union cyn dyddiad y cais. Mae plentyn yn anabl at ddibenion y cwestiynau hyn hefyd os telir lwfans byw i'r anabl iddo, neu os talwyd lwfans byw i'r anabl iddo hyd nes iddo fynd yn glaf..

9.  Yn nodyn 55(1)(a), yn lle “lwfans gweithio i'r anabl” rhodder “credyd treth i berson anabl (a adwaenid gynt yn lwfans gweithio i'r anabl)”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio :

(a)y Ffurflen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 (O.S. 1997/2847 fel y'i diwygiwyd) i'w defnyddio i wneud cais am grant adleoli sy'n daladwy o dan adrannau 131 i 140 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996; a

(b)y Ffurflen Gymraeg sy'n cyfateb â hi ac a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999 (O.S. 1999/2315).

Mae Rheoliadau Grantiau Adleoli 1997 (O.S. 1997/2764), yn cymhwyso Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890) fel y mae iddynt effaith o bryd i'w gilydd, gyda'r addasiadau a ragnodwyd. Mae diwygiadau i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/3468) wedi gwneud diwygiadau i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 ac i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999 yn ofynnol, ac mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol.

(3)

Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Am ddiffiniad “prescribed” gweler adran 140(1) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

(4)

O.S. 1997/2847; diwygiwyd gan O.S. 1998/810 a 1999/1541.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources