xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 3184 (Cy.42) (C.82)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyniad Rhif 1) (Cymru) 1999

Wedi'i wneud

28 Hydref 1999

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 63(1), 66(2) a 67(2) o Ddeddf Iechyd 1999(1):

Enwi, dehongli a chwmpas

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyniad Rhif 1) (Cymru) 1999.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Diwrnodau penodedig

2.—(11 Tachwedd 1999 yw'r diwrnod a bennir i bob darpariaeth y Ddeddf a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau y mae wedi'i nodi yno.

(21 Rhagfyr 1999 yw'r diwrnod a bennir i bob darpariaeth y Ddeddf a nodir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau y mae wedi'i nodi yno.

Darpariaeth arbed

3.  Er gwaethaf y diddymiadau a achosir gan baragraff 83(1) a (4) o Atodlen 4 i'r Ddeddf yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, ymdrinir ag unrhyw gyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau NHS yng Nghymru a roddir o dan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf 1990 ac sydd mewn grym yn union cyn 1 Rhagfyr 1999 fel petaent wedi'u rhoi o dan, ac at ddibenion, adran 17 o Ddeddf 1977.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998

Dafydd Elis Thomas

Y Llywydd

28 Hydref 1999

Erthygl 2(1)

ATODLEN 1DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 TACHWEDD 1999

Erthygl 2(2)

ATODLEN 2DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 RHAGFYR 1999

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol Deddf Iechyd 1999 ynglŷn â Chymru i rym.

Mae'r Gorchymyn yn darparu i ddarpariaethau gychwyn sy'n –

a.estyn pwerau cyfarwyddo'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag Ymddiriedolaethau NHS (adran 12);

b.symleiddio'r pwerau i wneud gorchmynion i sefydlu Ymddiriedolaethau NHS ac eglurhau pwerau i Ymddiriedolaethau NHS i ddarparu ysbytai a chyfleusterau newydd nas rheolwyd gan Awdurdod Iechyd o'r blaen (adran 13);

c.diwygio trefn ariannol Ymddiriedolaethau NHS mewn perthynas â chreu incwm, cyfalaf a benthyg (adrannau 14-16);

ch.cyflwyno dyletswydd ansawdd newydd fel bod Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau NHS yn gwneud trefniadau i fonitro a gwella ansawdd gofal iechyd i gleifion (adran 18);

d.creu dyletswydd ar Awdurdodau Iechyd i baratoi cynlluniau i wella iechyd ac i ddarparu gofal iechyd (adran 28);

dd.diwygio deddfwriaeth y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn fanwl o ganlyniad i'r uchod ac mewn perthynas ag Awdurdodau Iechyd a gweithredu eu swyddogaethau (Atodlen 4).