xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 2840 (Cy.20)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 1999

Wedi'u gwneud

5 Hydref 1999

Yn dod i rym

5 Hydref 1999

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf Gwasnaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Enwi, cychwyn, dehongli a hyd a lled

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 5 Hydref 1999.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) 1988(3).

(3Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygio'r prif Reoliadau

2.  Ar ddiwedd rheoliad 2 o'r prif Reoliadau mewnosodir y paragraff canlynol —

(5) In respect of regulations 2 and 4 and Schedule 1 the amendments made by the National Health Service (Travelling Expenses and Remission of Charges) Amendment Regulations 1999(4) shall also have effect in Wales..

Darpariaeth Drosiannol

3.—(1Lle'r oedd hawl gan berson yn union cyn 5ed Hydref 1999 i gael dilead o daliadau neu daliad o gostau teithio yn rhinwedd rheoliad 4(c) neu (d) o'r prif Reoliadau (dilead neu daliad wrth gyfeirio at hawl i gael gredyd teulu), neu yn rhinwedd rheoliad 4(g) neu (h) o'r prif Reoliadau (dileu neu dalu wrth gyfeirio at hawl i gael lwfans gweithio i'r anabl), bydd yr hawl honno'n parhau tra bydd credyd teulu neu lwfans gweithio i'r anabl, fel y bo'r achos, yn parhau i gael ei dalu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.(5)

Dafydd Elis Thomas

Y Llywydd

5 Hydref 1999

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) 1988 (“y prif Reoliadau”) sy'n darparu ar gyfer dileu ac ad-dalu taliadau penodol a fyddai'n daladwy fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac ar gyfer talu costau teithio a dynnir drwy fynd i ysbyty. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud i'r diwygiadau testunol i'r prif Reoliadau, sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) 1999 ac sy'n ymestyn dros Loegr, gael effaith yng Nghymru.

Mae'r diwygiadau yn mewnosod diffiniad o “amount withdrawn” ac yn rhoi diffiniad o “disabled person’s tax credit” yn lle'r diffiniad o “disability working allowance” a hefyd yn rhoi diffiniad o “working families' tax credit” yn lle'r diffiniad o “family credit”.

Mae'r diwygiadau yn newid rheoliad 4 o'r prif Reoliadau i gymryd i ystyriaeth y newidiadau sy'n digwydd ar 5 Hydref 1999 yn y systemau treth incwm a nawdd cymdeithasol pan ddisodlir credyd teulu a lwfans gweithio i'r anabl gan gredyd treth teuluoedd mewn gwaith a chredyd treth person anabl.

Maent yn diwygio hefyd y diffiniad o “voluntary payment” y cyfeirir ato yn y cofnod ynglŷn â “regulation 65” yn Nhabl A o Ran I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau i gymryd i ystyriaeth y newidiadau yn y ddarpariaeth ar gyfer cynhaliaeth i fyfyrwyr drwy ychwanegu cyfeiriad at fenthyciad myfyriwr.

Mae'r rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n darparu bod yr hawl i gael dilead o'r taliadau a sefydlwyd yn rhinwedd rheoliad 4(c), (d), (g) neu (h) o'r prif Reoliadau yn parhau tra bod yr hawl i gael credyd teulu neu lwfans gweithio i'r anabl neu daliadau o'r budd-daliadau hynny yn parhau.

(1)

1977 p.49; mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”) a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17). Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990. Darpariaeth ar gyfer dehongli yw adran 128(1) a chyfeirir ati oherwydd yr ystyron a briodolir i'r geiriau “prescribed” a “regulations”; diwygiwyd adran 128(1) gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

O.S. 1999/2507, sef rheoliadau sy'n gymwys i Loegr yn unig.