Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN IIIDARPARIAETHAU SY'N GYMWYS YN GYFFREDINOL

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at gyflogaeth berthnasol yn gyfeiriad at gyflogaeth —

(a)gan awdurdod addysg lleol, fel athrawon (boed mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu beidio) neu fel gweithwyr gyda phlant neu bobl ifanc;

(b)gan unrhyw gorff arall, fel athrawon mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach; neu

(c)gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach fel gweithwyr gyda phlant neu bobl ifanc.

(2At ddibenion y Rhan hon, mae cyflogaeth yn cynnwys cyflogi person i roi ei wasanaethau fel athro heblaw o dan gontract cyflogaeth a dehonglir cyfeiriadau at gyflogaeth neu gyflogaeth berthnasol yn unol â hynny.

Safonau iechyd-penodiadau

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaiff person ei benodi i gyflogaeth berthnasol os nad oes ganddo'r iechyd na'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer y gyflogaeth honno, gan roi sylw i unrhyw ddyletswydd ar y cyflogwr o dan Ran II o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995(1).

(2Os caiff person ei benodi'n athro am y tro cyntaf a bod y Cynulliad yn fodlon fod ganddo'r iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol i addysgu, caiff ei gyflogwyr dderbyn casgliadau'r Cynulliad ar y mater os ymddengys yn rhesymol iddynt wneud hynny.

(3Os caiff person a fu gynt mewn cyflogaeth berthnasol ei benodi i gyflogaeth berthnasol, caiff ei gyflogwyr ddibynnu ar gofnod meddygol y person tra oedd yn y gyflogaeth honno er mwyn penderfynu a oes gan y person yr iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer cyflogaeth o'r fath.

(4Ni fernir bod gan berson sy'n cael pensiwn ymddeol yn rhinwedd Rheoliad E4(4) o Reoliadau Pensiynau Athrawon 1997(2) (ymddeol ar sail afiechyd) yr iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol i gael ei benodi i gyflogaeth berthnasol neu i gael ei gyflogi i roi ei wasanaethau fel athro mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach heblaw o dan gontract cyflogaeth, ond ceir penodi neu gyflogi person y daeth ei hawl i bensiwn o'r fath yn weithredol cyn 1 Ebrill 1997 i wasanaethu'n rhan amser.

(5Nid oes dim ym mharagraff (4) yn atal penodi na chyflogi person nad yw wedi'i analluogi bellach ac y mae ei bensiwn ymddeol o'r herwydd wedi peidio â bod yn daladwy.

Safonau iechyd-parhau mewn swydd gyflogedig

7.—(1Ni fydd person mewn swydd gyflogedig berthnasol yn parhau yn y swydd honno os nad oes ganddo'r iechyd a'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer y swydd honno, gan roi sylw i unrhyw ddyletswydd ar y cyflogwr o dan Ran II o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, os ymddengys i'w gyflogwyr nad oes gan berson yr iechyd na'r gynneddf feddyliol neu gorfforol bellach ar gyfer ei swydd gyflogedig —

(a)byddant yn rhoi'r cyfle iddo gyflwyno tystiolaeth feddygol ac achos iddynt;

(b)byddant yn pwyso a mesur y dystiolaeth a'r achos ac unrhyw dystiolaeth feddygol arall sydd ar gael iddynt, gan gynnwys tystiolaeth sydd wedi'i rhoi'n gyfrinachol ar y sail na fyddai er lles y person dan sylw i'w gweld;

(c)cânt fynnu iddo ymddangos gerbron meddyg a chanddo'r cymwysterau priodol ac a benodwyd ganddynt i gael ei archwilio neu gânt drefnu bod hyn yn digwydd os yw'n gofyn amdano. Os nad yw'n ymddangos i gael ei archwilio heb reswm da neu os yw'n gwrthod rhyddhau'r wybodaeth feddygol y mae'r meddyg yn gofyn amdani, er y byddai tystiolaeth feddygol bellach yn ddymunol, cânt ddod i gasgliad ar y mater ar sail y dystiolaeth a'r wybodaeth sydd ar gael iddynt gan gynnwys y casgliad nad oes ganddo'r iechyd na'r gynneddf feddyliol a chorfforol ar gyfer ei gyflogaeth.

(3Ar unrhyw adeg cyn yr archwiliad meddygol y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c) caiff y cyflogwyr, neu'r person ei hun, gyflwyno i'r meddyg penodedig ddatganiad sy'n cynnwys tystiolaeth neu ddeunydd arall sy'n berthnasol i'r archwiliad: a gall meddyg a chanddo gymhwyster priodol a benodir at y diben hwnnw gan y person sy'n cael ei archwilio fod yn bresennol yn yr archwiliad.

(2)

.S. 1997/3001 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources