Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 2802 (Cy.15)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999

Wedi'u gwneud 26 Awst 1999

Yn dod i rym 1af Medi 1999

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 54(1), 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) a pharagraff 30 o Atodlen 16 i'r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, hyd a lled a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

(2Dim ond i ysgolion yng Nghymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.

(3Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “yr awdurdod” yw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal ysgol;

ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr “Gorchymyn adran 512A” yw gorchymyn o dan adran 512A(1) o Ddeddf Addysg 1996(a) sy'n rhoi dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol sy'n cyfateb i ddyletswydd ar yr awdurdod a grybwyllir yn adran 512A(2)(3) o'r Ddeddf honno (dyletswydd i ddarparu ciniawau ysgol) neu adran 512(2)(b) o'r Ddeddf honno (dyletswydd i ddarparu ciniawau ysgol yn rhad ac am ddim);

ystyr “staff prydau bwyd ysgolion” yw pobl a gyflogir, neu sydd i'w cyflogi, gan awdurdod i weithio mewn ysgol mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd yn unig;

ystyr “ysgol” yw ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol a honno'n ysgol ac iddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Rhan II o'r Ddeddf(4))

Penodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion

2.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 3 a 4 a pharagraff (2), bydd yr awdurdod yn gyfrifol am benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion mewn ysgol.

(2Cyn arfer unrhyw swyddogaeth o dan y rheoliad hwn rhaid i'r awdurdod ymgynghori â chorff llywodraethu'r ysgol y mae'r aelod o staff prydau bwyd yr ysgol dan sylw yn gweithio ynddi i'r graddau y gwêl yr awdurdod yn dda.

Penodi etc. staff prydau bwyd ysgolion mewn ysgolion lle mae'r corff llywodraethu yn gyfrifol am brydau bwyd ysgolion ond bod prydau bwyd yn parhau i gael eu darparu gan awdurdod addysg lleol

3.—(1Pan fydd Gorchymyn adran 512A mewn grym, ond bod corff llywodraethu ysgol y mae'r gorchymyn yn gymwys iddo wedi gwneud cytundeb â'r awdurdod y bydd yr awdurdod yn darparu ciniawau yn yr ysgol, yna bydd y paragraffau canlynol o'r rheoliad hwn yn gymwys.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd yr awdurdod yn gyfrifol am benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgol yr ysgol.

(3Cyn arfer unrhyw swyddogaeth o dan baragraff (2) bydd yr awdurdod yn ymgynghori â chorff llywodraethu'r ysgol i'r graddau y gwêl yr awdurdod yn dda.

(4Os bydd y corff llywodraethu yn penderfynu y dylai unrhyw aelod o staff prydau bwyd yr ysgol beidio â gweithio yn yr ysgol rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod o'i benderfyniad a'r rhesymau drosto ac ar hynny bydd yr awdurdod yn mynnu bod y person hwnnw yn peidio â gweithio yn yr ysgol.

Penodi etc. staff prydau bwyd ysgolion mewn ysgolion lle mae'r corff llywodraethu yn gyfrifol am brydau bwyd yr ysgol

4.—(1Pan fydd Gorchymyn 512A mewn grym, ond nad yw corff llywodraethu ysgol y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo wedi gwneud cytundeb â'r awdurdod y bydd yr awdurdod yn darparu ciniawau yn yr ysgol, yna bydd paragraffau 22 a 24-29 o Atodlen 16 i'r Ddeddf yn gymwys i benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion.

Dafydd Elis Thomas

Y Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26th Awst 1999

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cadw yn eu lle ac yn egluro'r trefniadau presennol a wnaed o dan y ddeddfwriaeth flaenorol a gaiff ei disodli gan y darpariaethau newydd hyn o 1 Medi ymlaen.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer penodi a diswyddo staff a gyflogir i weithio'n unig mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd mewn ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion arbennig cymunedol (ac os cyflogir y staff gan yr AALl) ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ac ysgolion arbennig sefydledig. Daw darpariaethau'r Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion sy'n ymwneud â staff ysgolion i rym ar 1 Medi 1999. Pe na bai Rheoliadau sy'n ymwneud â staff prydau bwyd ysgolion yn bod, byddai'r corff llywodraethu yn gyfrifol am eu penodi, eu disgyblu, eu gwahardd dros dro, a'u diswyddo, ni waeth a fyddent yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod addysg lleol ai peidio, a byddai anghysondebau yn codi o hyn.

Dyma effaith ymarferol y Rheoliadau. Os na ddirprwyir corff llywodraethu i ddarparu cinio ysgol, yr awdurdod addysg lleol, gan ymgynghori â'r corff llywodraethu, a fydd yn gyfrifol. Os dirprwyir y corff llywodraethu ond yr yr awdurdod addysg lleol sy'n darparu'r cinio, yr awdurdod addysg lleol, gan ymgynghori â'r corff llywodraethu, a fydd yn gyfrifol ond caiff y corff llywodraethu fynnu bod unrhyw berson yn peidio â gweithio yn yr ysgol. Os bydd y corff llywodraethu yn darparu'r cinio ysgol ei hun, caiff fynnu bod yr awdurdod addysg lleol yn penodi; yn gyfrifol am ddisgyblu a chaiff fynnu bod yr awdurdod yn cymryd camau disgyblu y tu hwnt i bwerau'r corff llywodraethu; a mynnu diswyddo.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

1996 p.56; mewnosodwyd adran 116 gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Gwnaethpwyd dau Orchymyn o dan yr adran hon – O.S. 1999/610 ac O.S. 1996/1779.

(4)

Gweler adran 49(7) o'r Ddeddf.